Aelod o'r Clwb
- Cyhoeddwyd
Mae e'n edrych mor hawdd ond dyw e? Ac ry'n ni yn ei gymryd yn ganiataol. Ond faint o waith sydd yna i sicrhau eich bod yn gallau mwynhau holl gyffro gêm rygbi fyw ar y sgrin fach?
Golygydd Sgriptiau Pobol y Cwm yw Nerys Wyn Davies, ond y penwythnos diwethaf fe gafodd hi'r cyfle i helpu tîm Y Clwb Rygbi Rhyngwladol wrth iddyn nhw ddarlledu'r gêm fawr rhwng Cymru a Seland Newydd yn fyw i wylwyr S4C. Mae Nerys wedi rhannu dyddiadur ei diwrnod gyda Cymru Fyw:
Dechrau yn y dechrau'n deg
12:00 - Cyrraedd Caerdydd gyda fy mhas BBC a fy mhas i Stadiwm y Mileniwm. Roedd rhain wedi cael eu stwffio yn saff o dan fy siwmper achos do'dd dim un ffordd o'n i'n mynd i risgo colli hwn. Crwydro o gwmpas y ddinas am sbel er mwyn teimlo naws y dorf.
14:50 - Cyrraedd y tu fas i'r stadiwm. Ffeindio'n hunan mewn labyrinth o goridorau yng nghrombil Stadiwm y Mileniwm a chrwydro o gwmpas am sbel cyn dod o hyd i Ystafell y Cyfryngau. Roedd Jeremy Guscott a John Inverdale yna. Twr o bobl yma yn ysgrifennu adroddiadau, ac yn gweithio ar eu cyfrifiaduron yn barod ar gyfer y gêm fawr.
Sganio'r 'scanner'
15:10 - Cyrraedd y scanner - sef lori fawr yn llawn offer technegol. Dyma lle ma'r lluniau, y clipiau a'r sain yn cael eu gosod at ei gilydd. O'dd y tu fewn fel rhwbeth mas o Doctor Who - wal o sgriniau teledu a bwrdd anferth llawn botymau.
Roedd sawl person yn yr ystafell hon, Cyfarwyddwr, Cymysgydd lluniau, Cydlynydd, Cynhyrchydd, person graffeg a pherson sain - a fi. O'dd hi'n gyfyng iawn yma, ond yn eitha clud.
15:25 - Mynd am dro i'r stafell goluro. Fan hyn roedd Gareth Roberts, Ken Owens a Dwayne Peel i gyd yn cael eu coluro, yn barod i fod ar gamera. Ar ôl i Dot Davies gael ei cholur hefyd fe ddaeth Jeremy Guscott mewn. Tybed os oedd e'n fy nilyn i?
Gobaith am goron driphlyg?
15:21 - Cyffro! Clywed sgôr y gêm bêl-droed rhwng Abertawe v Man City: gôl yr un! Pawb yn teimlo'n obeithiol nawr y gallai Cymru a Cleverly hefyd ennill ac y byddai Caerdydd yn le i ddathlu sawl buddugoliaeth heno. Nôl â fi i'r scanner a gosod fy hunan mewn cornel yng nghefn y cerbyd yn barod i wylio'r rhaglen yn cael ei chreu.
16:13 - Y timoedd yn cyrraedd a'r camerâu yn dilyn y chwaraewyr i'r ystafelloedd newid. Finne'n teimlo'n nerfus. Sgwn i sut oedd eu nerfau nhw?
16:14 - Yn ystod y tri chwarter awr nesa', roedd y Cyfarwyddwr, y bobl sain, y bobl camera a'r criw i gyd yn ymarfer rhannau o'r rhaglen. Roedd trafodaeth am graffeg y timoedd, gyda mân newidiadau yn cael eu gwneud er mwyn gwneud yn siŵr fod manylion pob chwaraewr yn gywir. Graffeg? Check. Sain? Check. Camerâu? Check. Stiwdio?Check.
Gwyn a Gatland
16:20 - Cyfweliad Gatland a Gwyn Jones - gyda Gwyn Jones yn gorffen y cyfweliad gyda'r geiriau "Let's make some history today". Roedd hyd y cyfweliad yn holl bwysig, gyda Hugh yn y scanner yn cyfri lawr er mwyn i Gwyn Jones glywed faint o amser oedd ar ôl ganddo… Pump, pedwar, tri, dau… un."
Fe ddaeth y cyfweliad i ben ac mi fyddai'r rhan yma yn cael ei gollwng mewn i'r rhaglen nes ymlaen.
16:27 - Ymarfer y sgwrs gynta' rhwng Gareth Roberts a'r cyflwynwyr ar y cae. Cyfle i'r bobl ar gamera gael yr onglau a'r lluniau yn iawn, ac i'r cyflwynwyr gael syniad o hyd y cyfweliad oedd angen.
Barod amdani
16:30 - Trafod mwy o gynnwys y rhaglen, a sôn am holi Dwayne Peel am yr Haka, ac angen sicrhau bod modd i Dwayne fynd o'r cae i'r stiwdio. Trafod pryd yn gwmws fyddai hyn yn digwydd, a phwy fyddai'n gyfrifol am ei gael i'r stiwdio yn brydlon.
16:45 - "15 minutes to air. 15 minutes to air", a Gwyn Jones yn cael ei recordio yn cyfweld â Steve Hansen, hyfforddwr y Crysau Duon, eto er mwyn defnyddio'r cyfweliad yn ystod y rhaglen.
16:46 - "Ma'r Hoff ar network! Hoff is in the House! - Roedd ambell un wedi cyffroi yn fwy na'r llall am hyn.
16:57 - "Three minutes to air"… wedyn clywed llais y Cynhyrchydd "Joiwch e… hoeliwch e", a dyma ddechrau'r rhaglen-"Cue VT!
17:00 - Dechrau rhaglen Y Clwb Rygbi Rhyngwladol - y cyfweliadau yn mynd fel watsh, y cyflwynwyr yn gyfforddus ac yn hyderus a'r lluniau a'r lleisiau yn plethu yn berffaith.
Cyfrinachau yn ei glust
Yn ystod y gêm, Gareth Charles, Gwyn Jones a Dwayne Peel oedd yn sywlebu. Roedd Iolo Evans, cyfarwyddwr Y Clwb Rygbi yn plethu'r cyfweliadau, y graffeg a'r sylwebaeth Gymraeg gyda'r lluniau yma, ac roedd yn cadw llygad ar bopeth.
Os oedd 'na sylw gan un o'r sylwebwyr am un o chwaraewyr Cymru, mi fyddai'r Cyfarwyddwr yn gofyn i un o'r camerâu ganolbwyntio ar y chwaraewr dan sylw.
Roedd 'na gyfathrebu cyson rhwng y Cyfarwyddwr, y Cynhyrchydd a Gareth Roberts, ac roedd yn anhygoel gwybod faint oedd yn cael ei ddweud yn ei glust tra roedd e'n cyflwyno, ond fydde'r gwyliwr ddim callach.
Cyffrous
Roedd cyffro hanner cyntaf y gêm yn anhygoel, gyda'r frwydr rhwng y ddau dîm yn agos, ond yn y scanner, roedd gan bawb ei waith ac roedd gan bawb ei ddyletswydd, ac roedd pawb yn weddol dawel. Doedd dim posib ymgolli yn y gêm, neu mi fyddai'r rhaglen wedi mynd yn yfflon.
Doedd dim amser gan bobl i ymlacio, ac yn ystod yr hysbysebion, roedd y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd yn siarad yn gyson gyda Gareth Roberts, ac roedd yn gyfle iddo fe, Gareth Edwards a Ken Owens wylio clipiau o'r sgrym, er mwyn gallu eu trafod â Paul James mewn mwy o fanylder ar ôl y toriad.
Chwarae am 80 munud
Roedd proffesiynoldeb pawb oedd ynghlwm â chreu'r rhaglen yn anhygoel ac roedd hi'n amlwg fod gan bawb yr un nod - sef i greu rhaglen gyffrous, o safon.
Roedd hi'n gêm anhygoel, gyda Chymru yn rheoli am ran helaeth o'r gêm, ond fe ddangosodd y Crysau Duon pa mor bwysig yw chwarae am wythdeg munud, ac roedden nhw unwaith eto yn fuddugoliaethus.
Dotio ar Dot
Roedd Dot Davies yn cyfweld â Warren Gatland ar ddiwedd y gêm ac roedd hi'n cael negeseuon cyson gan y Cynhrychydd -
"Cofia holi am injuries. Injuries Dot. Injuries… gofyn shwd ma'r chwaraewyr ga'th eu hanafu. Injuries Dot…"
.
Gyda hyn i gyd yn mynd ymlaen yng nghlust Dot, fyddech chi byth 'di gwybod wrth ei gwylio hi'n cyfweld â Gatland. Cwbwl broffesiynol a dim owns o banic
"And to finish Warren - any news on the injured players?" - Da iawn Dot.
Diwrnod cofiadwy
Ro'dd hi'n gêm gofiadwy, ac i mi roedd cael cipolwg y tu ôl i'r llen yn sicr yn brofiad bythgofiadwy. Es i adre ar ôl i'r gêm orffen, ca'l glased o win, a setlo o flaen y teledu.
Nes wylio'r gêm a rhaglen Y Clwb Rygbi unwaith eto, gan wybod ychydig mwy am yr hyn oedd wedi digwydd y tu ôl i'r llenni.
Gallwch glicio yma i wybod rhagor am Clwb Rygbi , dolen allanol