Main content

Geraint Lovgreen ar Enw'r Gân

Geraint Lovgreen

Cyflwynydd

Daeth cais gan Radio Cymru - a oeddwn i isio gwneud pumed cyfres o "Geraint Lovgreen ar Enw'r Gân"? Doedd dim angen gofyn ddwywaith! Lle arall faswn i'n cael y cyfle i sgwrsio efo rhai o eicons y byd roc a phop Cymraeg am yr hanes y tu ôl i'w caneuon gorau?

Yng nghyfresi'r gorffennol dwi wedi mwynhau'r fraint o drafod caneuon efo pobol fu'n arwyr imi er pan oeddwn i yn fy arddegau, yn mynd i gigs prin ac yn prynu eu recordiau – pobol fel Ems a Sbardun o'r Tebot Piws, Delwyn Siôn a Derec Brown o Hergest, Endaf Emlyn, Tecwyn Ifan o Ac Eraill, ac eraill...

Mae'r gyfres newydd o bum rhaglen yn cynnwys yr un cymysgedd o glasuron ein hen stejars ac ambell i lais newydd hefyd. Mi fydd yn werth gwrando petai ddim ond i glywed hanes Geraint Jarman yn cyfarfod un o'i arwyr, Saunders Lewis, mewn tŷ-bach yng Nghaerdydd! Fel mae'n digwydd bydd Dafydd Iwan yntau'n hel atgofion am wên DJ Williams, felly dim ond un o driawd Penyberth fydd yn absennol o'r gyfres.

Mi ges hwyl efo Meic Stevens wrth iddo haeru bod un o'i ganeuon yn ddim byd ond "ffol-di-rol" (gair neis am rywbeth arall nad oedd yn teimlo y dylai ei ddweud ar Radio Cymru). Ac roedd Bryn Fôn a Rhys Wyn Parry'n gwmni difyr yn esbonio holl gefndir Gwlad yr Astra Gwyn – sori, y Rasta Gwyn, yn ogystal â hel atgofion am y cynhyrchydd annwyl Les Morrison.

Mi wnes i alw i weld artistiaid ym mhob rhan o Gymru, a chael croeso cynnes gan bawb. Chewch chi ddim blasu'r baned hyfryd wnaeth Lisa Jên imi yn nhopiau Gerlan uwchben Bethesda, na chacen Dolig hynod flasus mam Gwyneth Glyn, ond mi gewch chi rannu eu sgyrsiau dadlennol am blant diflanedig Awstralia, a'r adeg y daeth y Dansin Bêr i Gricieth. Stori gan daid Gwyneth oedd honno, a taid neu dad-cu wnaeth ysbrydoli Huw Chiswell a Dyfrig 'Topper' Evans hefyd.

Rhaid oedd taro heibio stiwdio Fflach yn Aberteifi i gael esboniad gan Rich Ail Symudiad am Garej Paradwys (nid garej, nac yn Aberteifi), a chefais sgyrsiau braf a dadlennol efo Cleif Harpwood (Edward H), Arwel Lloyd (Gildas), ac Elin Fflur hefyd.

Bydd rhaglen gynta'r gyfres newydd yn cael ei darlledu am 12.30 ar 30 Ionawr, a bob wythnos wedi hynny am bum wythnos. Gobeithio y câ'i eich cwmni chi!

Geraint

Rhaglen Geraint Lovgreen ar Enw'r Gân

Sgwrs estynedig Bryn Fon a Rhys Parry

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Ar Y Marc: Enillydd Tir Morfa