Main content

Lansio Cystadleuaeth Newydd Brwydr Y Bandiau

Newyddion

Mae C2 Radio Cymru, Maes B a Mentrau Iaith Cymru yn chwilio am fandiau newydd gorau Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, sy'n cael ei lansio ar ei newydd wedd am y tro cyntaf heddiw (26 Ionawr).

Bwriad y gystadleuaeth yw rhoi llwyfan i ddoniau ifanc sy'n awyddus i dorri i mewn i'r Sîn Gymraeg, ac mae'r cynllun yn cynnig pob math o brofiadau go iawn i'r cystadleuwyr, er mwyn iddyn nhw gael blas ar nifer o agweddau o'r Sîn.

Mae'r gystadleuaeth eleni'n cyfuno'r ddwy gystadleuaeth a fu'n cael eu cynnal yn y gorffennol, y naill wedi'i threfnu gan yr Eisteddfod a Maes B a'r llall gan C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru, a'r bwriad yw cynnig profiad gwerthfawr i'r cystadleuwyr ac annog rhagor o fandiau a pherfformwyr i gymryd rhan.

Wrth groesawu'r gystadleuaeth a'r bartneriaeth newydd, dywedodd y cyflwynydd Lisa Gwilym, "Un o uchafbwyntiau 2014 i mi oedd cael darlledu'n fyw o Maes B ar C2 gyda Huw Stephens, felly mae'n newyddion gwych ein bod ni'n dod at ein gilydd fel hyn i roi cyfleoedd anhygoel i fandiau ifanc. Mae cyflwyno cerddoriaeth newydd gyffrous yn rhywbeth rwyf wrth fy modd yn ei wneud yn wythnosol ar C2, ac mi fydd Brwydr y Bandiau 2015 yn ffordd wych o ddarganfod y genhedlaeth nesaf o dalent sydd allan yna."

Meddai Guto Brychan, ar ran Maes B, "Yn syml, bwriad y gystadleuaeth hon yw cryfhau'r Sîn yma yng Nghymru, a rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu doniau. Rydym yn croesawu'r cyfle i weithio'n agosach gyda C2 Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru, ac mae'n gyfle i arbrofi gyda syniadau newydd, a'r gobaith yw y bydd y bandiau a'r Sîn yn gyffredinol yn elwa o hyn."

Yn ogystal â'r cyfle i chwarae ym Maes B yn yr Eisteddfod eleni a pherfformio sesiwn ar C2 Radio Cymru, bydd enillydd y gystadleuaeth hefyd yn cael eu ffilmio ar gyfer rhaglen Ochr 1, S4C ac yn cael eu cynnwys yng nghylchgrawn Y Selar. Bydd yr enillydd hefyd yn derbyn gwobr ariannol o £1,000, gyda gwobr arall o £100 ar gael i'r cerddor gorau yn y gystadleuaeth.

Bydd pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol hefyd yn rhan o gynllun mentora newydd a drefnir gan C2 Radio Cymru, a fydd yn gyfle i'r cerddorion ifanc gael cyngor a chymorth gan rai sy'n amlwg ac sydd â phrofiad o weithio yn y Sîn. Bydd y rowndiau cynharach yn cael eu cynnal yn ystod gigs mewn gwahanol rannau o Gymru, a chyhoeddir manylion y rhain cyn bo hir.

Mae'r cyfleoedd ychwanegol a gynigir i'r cystadleuwyr yn sgil lansio'r gystadleuaeth yn rhan bwysig o'i apêl yn ôl Emily Cole o Fentrau Iaith Cymru. Dywed, "Mae Mentrau Iaith Cymru yn edrych ymlaen i gydweithio gyda C2 Radio Cymru a Maes B i lwyfannu'r gystadleuaeth eleni, ac yn awyddus i weld pa dalent newydd Cymraeg y byddwn ni'n ei ddarganfod. Rydym ni am ddenu amrywiaeth o fandiau a cherddorion i gystadlu, efallai'r rheini na fyddai'n cael cyfle i berfformio mewn gigs neu i gynulleidfa fawr fel arall."

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 16 Mawrth, a chynhelir rowndiau rhanbarthol mewn gwahanol rannau o Gymru yn ystod Ebrill a Mai, gyda'r rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, nos Fawrth 4 Awst. Gellir cofrestru drwy wefan Maes Bwww.maesb.com – a dyma lle y ceir yr amodau a'r rheolau i gyd hefyd ar gyfer y gystadleuaeth. Mae'r gystadleuaeth yn agored i'r rheini rhwng 16 a 25 oed.

Gwefan Maes B – Y Ffurflen Gofrestru

Oriel luniau Enillwyr Brwydr y Bandiau C2 - 2004 - 2014

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog Ar Y Marc: Merthyr a Wrecsam

Nesaf