Main content

Creme Brulee Pwmpen a Nytmeg

Rysait Creme Brulee Pwmpen a Nytmeg gan Angharad Elias.

Gweini 4 go fawr!

Cynhwysion:

200g o Gnawd Pwmpen

350ml o Hufen Dwbl

120ml o Laeth Cyfan

1/4 llwy de o sinamon

3/4 llwy de o nytmeg

1/4 llwy de sinsir gwaddod

4 melyn wy

150g o siwgr gronynnog

4 llwy fwrdd o siwgr Demarera

Dull:

Gosod y popty ar 150 C

1.) Stemio'r cnawd pwpen nes ei fod yn feddal a'i hylifo mewn peiriant nes ei fod yn biwri.

2.) Rhoi'r hufen, llaeth a'r sbeisys mewn sosban o dan wres canolig, aros nes iddo ddod i ferw a rhoi'r gwres i ffwrdd. Gadael y gymysgedd am ryw chwarter awr i gymryd blas y sbeis.

3.) Curo'r melyn wy gyda'r siwgr nes ei fod yn fflyfflyd, yna ychwanegu'r gymysgedd hufen cynnes yn araf tra'n dal i guro.

4.) Curo'r bwmpen i mewn.

5.) Rhannu'r gymysgedd i bedwar ramacin a'u gosod mewn tre ddyfn. LLenwi'r tre hynd at hanner ffordd gyda dwr a'i osod yn y popty am 30-40 munud. Bydd y creme brulee yn barod pan fydd dal ychydig yn 'wobli' yn y canol (bydd yn setio mwy wrth iddo oeri)

6.) Eu gorchuddio gyda cling a'u gosod yn yr oergell am gwpwl o oriau

7.) Pan rydych yn barod i weini, sbrinclo llwyed o siwgwr demarera ar ben y cwstard.

8.) Gosod dan y gril, eu gwylio yn ofalus, pan mae'r sigwr wedi toddi, mae'n barod.

9.) Aros cwpwl o funudau iddo gwlio ac yna'i weini.

Mwynhewch!