Tipyn o Lol

  • Cyhoeddwyd
Clawr Lol Eisteddfod Bala 1967Ffynhonnell y llun, Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Clawr Lol Eisteddfod Bala 1967

Mae Lol yn dathlu 50 mlynedd eleni, ac i nodi'r garreg filltir yn hanes lliwgar a dadleuol y cylchgrawn dychanol mae 'na gyfrol newydd, 'Llyfr Mawr Lol' wedi ei chyhoeddi yn llawn o'r straeon, cartwnau a'r cerddi gorau.

Penri Jones a Robat Gruffudd sefydlodd y cylchgrawn ym Mangor yn 1965 ond yn Eisteddfod y Bala 1967 y dechreuodd Lol gynhyrfu'r dyfroedd o ddifri.

Cafodd Cymru Fyw y cefndir gan Robyn Léwis, y gŵr fu'n rhoi cyngor cyfreithiol i'r cyhoeddwyr:

Mynd i'r gyfraith

Cynan oedd yr Archdderwydd ar y pryd a doedd 'na ddim llawer o heddwch pan welodd e un o dudalennau'r cylchgrawn.

Roedd e'n bygwth achos enllib yn erbyn y cyhoeddwyr, Y Lolfa. Y cyfreithiwr oedd yn cynrychioli'r cyhoeddwyr, oedd gŵr ifanc o Ben Llŷn o'r enw Robyn Léwis. Esboniodd:

"Roedd Lol wedi cyhoeddi llun o ferch bronnoeth gyda'r geiriau "Bu Cynan Yma" mewn baner dros ei bronnau. Y resymeg oedd bod Cynan yn gweithio fel sensor i'r Arglwydd Chamberlain ar y pryd, ac yn gyfrifol am safonau moesol dramâu Cymraeg, a felly dyna oedd gwraidd y dychan."

Disgrifiad o’r llun,

Y llun wnaeth achosi'r drafferth

Cynan yn conan!

Ond doedd Cynan ddim wedi gweld y jôc o gwbl ac aeth at gyfreithiwr yr Orsedd, Brinley Richards (yr Archdderwydd Brinli rhwng 1972 a 1975), a gofyn iddo ddechrau camau cyfreithiol yn erbyn Y Lolfa. Lluniodd y cyfreithiwr lythyr yn gofyn am bedwar peth:

a) Ymddiheiriad ysgrifenedig

b) Iawndal o £50

c) Tynnu pob copi oddi ar y silffoedd

ch) Tynnu'r dudalen oedd â'r enllib o bob copi fyddai'n cael eu gwerthu wedyn

Disgrifiad o’r llun,

Yr Archdderwydd, Cynan mewn Cadillac

Aeth Robyn Léwis ymlaen i esbonio:

"Aeth Brinley â'r llythyr i stondin y cyhoeddwyr ar y Maes yn y Bala, a rhoi'r llythyr yn eu dwylo. Roedd pawb yn y babell yn credu mai jôc oedd y cyfan yn wreiddiol, a dim ond ar ôl ychydig sylweddoli fod Cynan o ddifrif. Dyna pryd penderfynwyd galw arna i i'w cynrychioli a chesio datrys y sefyllfa anffodus hon."

Man cywir, amser cywir

Ond pam gafodd Robyn Léwis y swydd? Wel roedd wedi cynrychioli rhai o aelodau Cymdeithas yr Iaith yn ystod y cyfnod ac o bosib, dyma'r unig gyfreithiwr roedd y cyhoeddwyr wedi clywed amdano.

Derbyniodd Robyn y cyfrifoldeb, felly, o ddechrau trafod gyda Brinley Richards, oedd yn cynrychioli Cynan.

Dros gyfnod o gwpwl o ddyddiau ar faes yr Eisteddfod, aeth y ddau yn ôl ac ymlaen, yn cyfarfod, trafod a cheisio cyfaddawdu er mwyn llunio rhyw fath o gytundeb rhwng y ddwy ochr. Yn ôl Robyn:

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Dr Robyn Léwis yn ystod ei gyfnod fel Archdderwydd

"Mi wnaeth Brinley a minnau gyfarfod droeon ar y maes ac yn wir, tyfu'n gyfeillion agos oherwydd y digwyddiad. Cyfeillgarwch wnaeth barhau am flynyddoedd lawer wrth i'r ddau ohonom gydweithio eto fel aelodau Gorsedd y Beirdd."

Cytundeb

Yn y diwedd, cafodd llythyr ei lunio a oedd yn dderbyniol i'r ddwy ochr, wedi ei eirio'n ofalus a chlir ac oedd yn sylfaen i'r ddwy ochr fedru cytuno a symud ymlaen.

Cytunodd Y Lolfa i dalu £50 o iawndal i Cynan, a thynnu'r dudalen gyda'r llun dadleuol allan o bob copi.

Cafodd y cytundeb ei arwyddo gan y ddwy ochr, a dyna ddiwedd y mater. Am ychydig.

Disgrifiad o’r llun,

Cartŵn Dai Moses gan Robat Gruffydd

'Cronfa Cynan'

Erbyn hyn, roedd yr hanes yn destun trafod ymhlith y miloedd ar y Maes, wedi ei helpu'n rhannol gan y blwch casglu arian enfawr oedd wedi ymddangos tu fas i stondin Lol ar y Maes gyda'r geiriau 'Cronfa Cynan' arno.

Roedd yna gwestiwn hefyd os oedd Y Lolfa wedi ufuddhau a thynnu'r holl dudalennau dadleuol o'r cylchgrawn.

Mae golygyddion Lol ar y pryd, Penri Jones a Robat Gruffydd, yn cyfaddef yn agored erbyn hyn nad oedden nhw wedi tynnu'r dudalen allan o'r cylchgrawn o gwbl, a bod eu gwerthiant ychwanegol yn ystod yr Eisteddfod wedi bod yn ddigon i hen dalu'r iawndal.

Yn fwy na hynny, datgelodd Robat Gruffudd ar raglen deledu yn ddiweddar ei fod wedi synnu faint o fawrion y genedl ar y pryd ddaeth i'r stondin i brynu copi, gan gynnwys DJ Williams a Lewis Valentine.

Disgrifiad o’r llun,

Gweithio'n galed i gael y cylchgrawn yn barod

Colli limpyn

Aeth Cynan yn gandryll, yn ôl y sôn, ac anfonodd Brinley Richards draw i'r stondin eto i alw ar y cyhoeddwyr i stopio ar unwaith.

Ond erbyn hyn, roedd y niwed wedi'i wneud, roedd bron pob copi wedi ei werthu, roedd yr Eisteddfod bron ar ben, ac roedd statws Lol fel un o ffynonellau dychan pwysicaf Cymru wedi ei gadarnhau!

Yn ôl at Robyn:

"Yn sydyn roedd Cymru wedi dod yn gyfarwydd â gair oedd efallai'n ddieithr iddyn nhw'n gynt. Enllib."

Y cyfreithiwr yn cael ei ddychanu

Ond beth yw teimladau Robyn tuag at y cylchgrawn erbyn hyn? Fel Archdderwydd daeth yn darged cyfleus i ddychan miniog y cylchgrawn ar sawl achlysur.

"Dydi marn i heb newid rhyw lawer dros y blynyddoedd. Hwyl a sbort ydi'r cylchgrawn a rhaid ei dderbyn a derbyn ei sylwadau.

"Ond mae'r sylwadau ar adegau, yn arbennig pan oeddwn yn Archdderwydd, wedi bod yn hynod finiog. Trwy lwc, mae'n ysgwyddau i'n ddigon llydan a nghroen i yn hen ddigon trwchus."

Ffynhonnell y llun, Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Robat Gruffydd, un o'r cyhoeddwyr: Athrylith neu naïf?

Cynllwyn cyfrwys?

A beth am y sefyllfa gododd ym 1967? Ai cynllwyn cyfrwys gan gyhoeddwyr craff oedd y cyfan, ynteu lwc pur gan bobl oedd ddim yn deall nag erioed wedi clywed am gyfraith enllib?

"Roedd hi'n amlwg yn weddol gyflym nad oedd y cyhoeddwyr yn ymwybodol o gwbl o'r gyfraith a goblygiadau enllib, ac felly yn hynny o beth efallai eu bod bach yn naïf"

Ond ydy'r ffaith fod pawb yn llawer mwy ymwybodol o'r oblygiadau cyfreithiol o gyhoeddi, bellach yn golygu fod Lol efallai'n llai miniog nawr nag yr oedd yn y gorffennol?

Meddyliodd Robyn Léwis yn ofalus.

"Efallai."

Llyfr Mawr Lol, Y Lolfa