Leanne Wood: Cymru 'annibynnol o fewn cenhedlaeth'

  • Cyhoeddwyd
Leanne WoodFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Leanne Wood yn Yr Alban ddydd Gwener

Bydd Cymru yn annibynnol o fewn cenhedlaeth ac yn rhan o "gymdogaeth gwledydd" Prydain, yn ôl arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Ym mhapur newydd "The Scotsman" dywedodd fod holl wledydd y DU yn rhannu iaith a diwylliannau yn seiliedig ar eu perthynas â'i gilydd.

"Nid cymydog yn unig yw Lloegr i ni," meddai. "Mae'n chwaer genedl i ni hefyd."

Wrth i'r Alban baratoi am refferendwm ar annibyniaeth, ychwanegodd ei bod yn gyfnod allweddol yn hanes Prydain ac awgrymodd y gallai Cyngor Prydain ac Iwerddon fod yn fforwm cydweithio rhwng gwledydd yn y dyfodol.

'Rhannu atebion'

"Gyda sedd i bawb wrth y bwrdd," meddai, "bydd digon o faterion lle gallwn ni rannu atebion a chreadigrwydd mewn partneriaeth gref o wledydd cyfartal fydd, o fewn cenhedlaeth rwy'n siŵr, yn cynnwys Cymru annibynnol.

"Yn hytrach na glynu at gulni un wladwriaeth, mae'n bryd i ni ddechrau cofleidio'r syniad o Brydain y dyfodol - cymdogaeth o wledydd sofran, democrataidd a rhydd."

Bydd hi yn Yr Alban ddydd Gwener ar gyfer cyfarfod Gymdeithas Cyllid Ewrop, grŵp yn Senedd Ewrop y mae Plaid Cymru a'r SNP yn aelodau ohono.