Llwyd Owen - Beca Brown yn trafod 'Mr Blaidd'

Rhan o glawr Mr Blaidd

27 Hydref 2009

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Disgrifwyd nofel ddiweddaraf Llwyd Owen, Mr Blaidd, fel "romp gynhyrfus o whodunit - math o thriller a dweud y gwir gan Beca Brown a fu'n adolygu'r nofel ar Raglen Dewi Llwyd, BBC Radio Cymru, Hydref 25 2009.

Ac er bod yna yr hyn a alwodd hi yn "gyfeiriad masweddus" ati hi yn bersonol yn un arall o nofelau Llwyd Owen yr oedd yn hael ei chanmoliaeth i'w bedwaredd nofel gan ei disgrifio fel un aeddfatech na'r tair blaenorol.

Fe'i disgrifiodd fel "stori dda fydd yn apelio at unrhyw un sy'n mwynhau stori dda gyda lot o droeon annisgwyl . . ."

"Ond dydi hi ddim at rai sydd â natur swil neu ddelicet . . .mae hi'n llawn rhyw a thrais a chyffuriau ac isfyd tywyll Caerdydd . . . ond mae hon yn aeddfetach nofel [na'r tair arall a sgrifennodd]. Mae'r genre yn dywyllach ond oherwydd ei bod yn whodunit mae'n fwy eang ei hapêl," meddai.

"Roeddwn i'n teimlo bod ei dair nofel ddiwethaf er yn dda iawn - dwi'n meddwl ei fod yn awdur ffantastig o ran gallu apelio at bobl na fuasent fel arfer yn darllen stwff yn y Gymraeg."

Clawr 'Mr Blaidd'

Ond disgrifiodd dair nofel gyntaf yr awdur fel rhai "boysie ofnadwy".

"A dydw i ddim yn dweud hynny jyst am bod yna gyfeiriad masweddus tu hwnt ataf i yn un o'i lyfra fo [Ffawd Cywilydd a Chelwyddau]" meddai.

"Mae o'n wahanol iawn [fel awdur], dyda chi ddim yn gweld llawer o stwff fel hyn yn y Gymraeg. Mae o'n medru saernïo plot yn ofnadwy o gelfydd. Mae rhywun wedi'i alw yn blotfeistr ac mae hynny'n sicr yn wir - am hon yn arbennig," ychwanegodd.

Dywedodd ei bod yn "wych o stori".

"Mae yna adegau yn y nofel pan ydych chi'n meddwl da chi'n gwybod be sy'n mynd i ddigwydd wedyn mae o'n rhoi rhyw dro arall . . . a da chi'n cicio'ch hun am fod mor slo. Mae o'n wych iawn am eich syrpreisio chi ," meddai.

Nofel yw hi am Fflur sy'n dod I gyrion Caerdydd o fferm ei rhieni i chwilio am ei chwaer Ffion sydd wedi diflannu

"Mae na lot o droeon annisgwyl; yr ydych chi'n meddwl eich bod yn gwybod i lle mae'n mynd ac mae'n cymryd tro annisgwyl arall nes eich bod chi bron a bod a cholli'ch gwynt," meddai.

"Mae'n gweithio'n wych fel stori ac mae themâu difyr iawn ynddi hi [gyda] hwiangerddi a straeon plant yn thema gyson drwyddi . . . ac mae pob pennod yn dwyn teitl neu linell o ryw hwiangerdd neu stori blant," meddai.

Er y peryg weithiau I'r awdur fynd yn or glyfar yn y cyfeiriad hwn dywed ei fod "yn ffrwyno ei hun gyda'r pethau hyn ac mae'r cyfan yn gweithio'n dda achos os yda chi'n meddwl am straeon plant traddodiadol a hwiangerddi mae yna ryw elfen sinistr a thywyll iawn i lot ohonyn nhw ac mae o'n cymryd llwyr fantais o hynny ac yn eu gweithio i mewn i'r nofel yn gelfydd iawn ac yn glyfar iawn heb dynnu sylw'n ormodol at y clyfrwch," meddai.

Disgrifiodd yr arddull fel Cymraeg cyhyrog with extra English ond gwrthododd gyhuddiadau o fratiaith.


A - Z llyfrau

Pori gwefan Cylchgrawn BBC Cymru

Ffilm

Rhys Ifans

Pobl y sgrin

Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

Theatr

Llion Williams

Barn a gwybodaeth

Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.