Banc am gau cyfrif Nicaragua Cymru

  • Cyhoeddwyd
banc co-op

Mae mudiad o Gymru, sy'n ymgyrchu i wella bywydau pobl gyffredin yn Nicaragua, yn dweud bod eu banc yn bwriadu cau eu cyfrif ariannol "heb reswm digonol".

Honnodd Ben Gregory, Ysgrifennydd Ymgyrch Cefnogi Nicaragua Cymru, fod banc y Co-op am gau cyfrifon rhai mudiadau gwleidyddol nad ydyn nhw'n credu sy'n "addas".

Ond mae'r banc wedi dweud eu bod yn gorfod cyflawni camau gwerthuso gyda'u cwsmeriaid, eu cyfrifon a'r taliadau maen nhw'n eu gwneud i sicrhau fod y banc yn dilyn rheolau trin arian ac yn rheoli risg y banc.

'Sail wleidyddol'

Dywedodd Mr Gregory wrth BBC Cymru Fyw: "Mae'r Co-op wedi gwneud penderfyniad i gau'r cyfrif banc yn yr haf.

"Rydyn ni wedi apelio'n erbyn y penderfyniad ac mae'n cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae'r cyfrif yn dal yn weithredol.

"Mae'n edrych i mi fod rheswm gwleidyddol tu ôl i hyn. Dwi'n meddwl bod dau reswm. Yn gyntaf rydyn ni'n grŵp cymunedol, a dydan ni ddim yn gwneud elw i'r Co-op.

"Yn ail, dwi'n meddwl eu bod nhw'n defnyddio 'money laundering' fel esgus i gael gwared o unrhyw gyfrif dydyn nhw ddim yn meddwl sy'n addas.

"Mae sawl mudiad wedi cael ffurflenni yn ymwneud â rheolau money laundering, ond dydyn nhw heb esbonio dim i ni. Mae'n edrych fel eu bod wedi gwneud y penderfyniad ar sail wleidyddol.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n siarad gyda'r Palestinian Solidarity Campaign, ac mae'r banc wedi cau cyfrifon mudiad Cuba Solidarity Campaign hefyd (CSC). Dydi'r Co-op heb roi rheswm i ni pam eu bod yn bwriadu cau ein cyfrif."

Ffynhonnell y llun, Ymgyrch Cefnogi Nicaragua Cymru

'Anfon arian dramor'

Ychwanegodd Mr Gregory: "Mewn achosion eraill mae'r banc wedi dweud ei fod oherwydd mudiadau sy'n anfon arian dramor, ond rydyn ni wedi bod yn hollol transparent am hyn, a dydan ni ddim wedi cael unrhyw sgwrs gyda'r banc - am y rheswm pam fod hyn wedi digwydd maen nhw'n osgoi cael y fath sgwrs."

Ddiwedd mis Tachwedd fe gyhoeddodd mudiad Cuba Solidarity Campaign fod banc y Co-op wedi cau eu cyfrifon banc.

Dywedodd cyfarwyddwr y mudiad Rob Miller mewn datganiad ar y pryd: "Rydym wedi bancio gyda'r Co-op ers dros 20 mlynedd ac fe gafodd y banc ei ddewis gan ei fod yn cynnig ei hun fel banc 'moesegol' oedd gyda chysylltiadau â mudiadau cymunedol a hawliau dynol.

"Mae eu penderfyniad unochrog diweddar wedi peryglu ein harian a'n gweithredoedd ymgyrchu. Rydym yn meddwl bod eu gweithredoedd yn anfoesol, annerbyniol a niweidiol.

"Mae CSC yn cyfnewid arian yn gyson i ac o Giwba. Rydym yn meddwl bod gweithredoedd y Co-op yn erbyn CSC yn gwahaniaethu yn erbyn Ciwba a phobl Ciwba."

Ffynhonnell y llun, Ymgyrch Cefnogi Nicaragua Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r mudiad o Gymru yn ymgyrchu i wella bywydau pobl gyffredin yn Nicaragua

'Safonau'

Dywedodd llefarydd ar ran y banc wrth BBC Cymru Fyw: "Nid yw'r penderfyniadau hyn yn adlewyrchu ar y gwaith sy'n cael ei gwblhau gan lawer o'n cwsmeriaid drwy'r byd, na'n ddatganiad am yr ymgyrchoedd y maen nhw'n ei gefnogi. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi mudiadau sy'n cyrraedd safonau disgwyliedig y diwydiant bancio.

"Ond, fel pob banc arall, rhaid i ni gyflawni camau gwerthuso gyda'n cwsmeriaid, eu cyfrifon a'r taliadau maen nhw'n eu gwneud i sicrhau fod y banc yn dilyn rheolau trin arian ac i reoli risg y banc. Mae'n rhan o brosesau cyffredinol y banc ac mae'n faes lle rydym wedi gwneud rhai newidiadau'n ddiweddar er mwyn dilyn safonau'r diwydiant yn gyffredinol."

Ychwanegodd y datganiad: "I gwsmeriaid sydd yn gweithredu yn neu'n anfon arian i leoliadau sydd â risg uchel drwy'r byd, mae camau gwirio ychwanegol yn ddisgwyliedig i bob banc eu cwblhau i sicrhau nad yw taliadau'n ariannu gweithredoedd anghyfreithlon yn anuniongyrchol.

'Gwaith gwirio'

"Yn dibynu ar amgylchiadau arbennig mae'n bosib nad yw'n bosib i ni gwblhau'r gwaith gwirio yma i'n safonnau disgwyliedig ac mae'r penderfyniad i gau nifer o gyfrifon yn ganlyniad anochel o'r broses.

Dywedodd llefarydd y banc: "Yn anffodus, yn dilyn gwaith ymchwil manwl, nid oedd y mudiadau dan sylw yn cyrraedd ein gofynion na, yn ein barn ni, yn ein galluogi i gyflawni ein dyletswyddau."

"Hoffem sicrhau cwsmeriaid ein bod yn defnyddio llinyn mesur cyson wrth ddelio gyda chwsmeriaid a gwledydd ac mae'r penderfyniad hwn yn ymwneud â chyrraedd y disgwyliadau hynny sy'n ofynnol o dan y ddeddf ac nid am unrhyw benderfyniad mympwyol neu unrhyw fath o anffafriaeth neu anghydraddoldeb."