Main content

A’r Gymraeg a wylodd...

A’r Gymraeg a wylodd ...

Ac meddai ...

‘Gollish i hen ffrind heddiw.
O’n i’n ei nabod o
O’i grud,
A thyfodd yntau
I’n nabod innau,
Yn ôl drwy eonau
Fy chwedlau i.

Gollish i hen ffrind heddiw,
Oedd yn gwneud i mi wenu,
Oedd yn gwybod lle dwi’n goglais,
Oedd yn tynnu arna’i
A gwneud i mi deimlo
Yn gynnes, gynnes.

Gollish i hen ffrind heddiw,
Oedd yn fy nhroi
Rownd ei fys bach,
Oedd yn gwneud i mi deimlo fel brenhines
Yn fy slipars,
A nghyrlars
Yn gwtj ar y soffa’n
Gwatjiad ffilm.

Gollish i hen ffrind heddiw.
Efo’n gilydd fe wylon ni
Yn anwes hallt,
Y naill yng ngwallt y llall.
Ond roedd o’n fy nallt i
A thrwy’r cwbl
Yn gwybod
Be o’n i’n feddwl.

Am heddiw,
’Dyw ngeiriau ddim yn goglais,
’Sdim tro yn fy ymadrodd,
Mae’r soffa’n wag
A’r sgrin yn fud,
Oherwydd heddiw
Fe gollish i hen ffrind.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau