Crimp am grempog: Ryseitiau arbennig cogyddion Cymru
- Cyhoeddwyd
Dydd Mawrth Ynyd yw'r diwrnod traddodiadol i wledda ar grempogau, ac mae'r hen ddywediad "Dydd Mawrth Ynyd, crempog bob munud" yn wir i ran helaeth ohonon ni.
Mardi Gras (Dydd Mawrth Tew) yw'r enw ar y diwrnod mewn llawer o wledydd Catholig gan mai'r arferiad oedd bwyta pob math o fwydydd a danteithion cyn dechrau ar ymprydio, a oedd yn rhan o'r Grawys, y deugain diwrnod sy'n rhagflaenu'r Pasg.
Yng Nghymru mae'n hen ŵyl ddaeth yn boblogaidd iawn yn yr Oesoedd Canol pan oedd Cymru'n wlad Babyddol.
Gan fod cyfnod hir o ymprydio o'u blaen, roedd pobl yn arfer bwyta'r olaf o stôr menyn a saim yn y tŷ trwy wneud crempogau.
Roedd y tlodion yn arfer 'blawta' a 'blonega', sef hel blawd a braster i wneud crempogau.
Mewn rhannau o'r wlad hyd at ddechrau'r 20fed ganrif byddai plant yn mynd o dŷ i dŷ i ofyn am grempogau - tebyg iawn i'r traddodiad o hel Calennig adeg y Calan.
Roedd arferion eraill ar Ddydd Mawrth Ynyd yn cynnwys ymladd ceiliogod a chwarae math o bêl-droed gyntefig.
Bu Cymru Fyw yn siarad â'r cogyddion Elliw Gwawr, Gareth Richards a Beca Lyne-Pirkis er mwyn cael ambell i syniad gwahanol am sut i ddathlu Diwrnod Crempog mewn steil...