a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Gan Cai Llwyd a Rhodri Tomos

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl fawr am y tro

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan o'r llif byw etholiadol arbennig. Os hoffech chi edrych yn ôl ar ddigwyddiadau'r noson wrth iddyn nhw ddigwydd, ewch i waelod y llif byw yma a sgrolio i fyny.

    Bydd y canlyniadau rhanbarthol sy'n weddill a mwy o ddatblygiadau i'w gweld ar ein llif byw dyddiol arferol fydd yn dechrau ymhen ychydig funudau - diolch yn fawr am aros gyda ni... ar noson hir iawn.

  2. Straeon mawr y noson

    Sian Morgan Lloyd

    Darlithydd Newyddiaduraeth, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    "Heb amheuaeth straeon mawr y noson yw: buddugoliaeth Leanne Wood (ond Plaid hefyd yn methu â chipio seddi targed Llanelli ac Aberconwy), Llafur yn dal eu tir yn y de-ddwyrain, Gwyr a Bro Morgannwg, y Ceidwadwyr Cymraeg heb adeiladu ar lwyddiant yr etholiad cyffredinol ac wrth gwrs UKIP yn ennill eu seddi rhanbarthol cyntaf. 

    "A, beth ar y ddaear wnaeth ddigwydd gyda'r oedi am ganlyniad Gorllewin Caerdydd?

    "Mae Kirsty Williams a Leanne Wood wedi creu tipyn o argraff yn eu hetholaethau nhw - arwydd o'u poblogrwydd fel gwleidyddion neu cafodd y ddwy hwb o fod yn arweinwyr sydd wedi cael sylw'r wasg a'r cyfleoedd i drafod eu gweledigaeth yn gyhoeddus? Oes tuedd yn ymddangos i bleidleisio am berson yn fwy na phlaid?

    "Gydag 8 sedd dal i fynd mae'r damcaniaethu yn parhau am beth mae heno yn golygu i dymor nesaf Llywodraeth Cymru.

    "Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r llif byw, dw i wedi mwynhau cyfrannu. Nos/bore da!"

  3. Tyngu llw

    Etholiad 2016

    Mae gan yr aelodau Cynulliad newydd yr hawl i dyngu'u llw yn y Senedd o 08:00 y bore 'ma, ac mae un sy'n dychwelyd yno eisoes ar ei ffordd.

    View more on twitter
  4. Tri chanlyniad ar ôl

    Etholiad 2016

    ...ond mae hynny'n golygu bod naw Aelod Cynulliad eto i'w penderfynu. Os oes rhywun yn gwrando yng Ngorllewin Caerdydd, 'newch chi plis frysio!

  5. Gwên ar wynebau cefnogwyr UKIP

    O'r 'stafell sbin

    Mae cefnogwyr UKIP yn y 'stafell sbin yn hapus iawn hefo canlyniadau'r rhanbarthau hyd yn hyn!

    Faint yn fwy wnawn nhw ennill tybed?

    Cefnogwyr UKIP
  6. Y blaid biws yn cyrraedd y Senedd

    Sian Morgan Lloyd

    Darlithydd Newyddiaduraeth, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    "Noson hir a braidd dim newid o ran lliwiau ein llywodraeth - heblaw am ganlyniadau'r rhestrau rhanbarthol sydd yn dechrau ein cyrraedd nawr ac sy'n golygu seddi i UKIP wrth gwrs.

    "Mae'r canlyniadau drwy gydol y noson wedi dangos bod tuedd pleidleisio pobl Cymru wedi newid, ac mae'r niferoedd wnaeth bleidleisio wedi codi rhywfaint, ond dim digon i weld seddi yn newid dwylo ac felly dim digon i weld newid syfrdanol yn ffabrig gwleidyddiaeth Cymru.

    "Dw i'n meddwl bod yr hyn ddywedodd fy ngyrrwr tacsi bron i 12 awr yn ôl yn wir - os dyw pobl ddim yn barod i ddefnyddio'u pleidlais neu i fentro i bleidleisio yn wahanol yna mae'n anodd iawn iddyn nhw gwyno am yr holl faterion mae'r cyhoedd yn dueddol o gwyno amdanyn nhw sydd yn nwylo gwleidyddion!" 

  7. Canlyniad rhanbarth Gorllewin De Cymru

    Etholiad 2016

    Bethan Jenkins (Plaid Cymru)

    Dr Dai Lloyd (Plaid Cymru)

    Suzy Davies (Ceidwadwyr)

    Caroline Jones (UKIP)

    View more on twitter
  8. Canlyniad rhanbarth Dwyrain De Cymru

    Etholiad 2016

    Mark Reckless (UKIP)

    Steffan Lewis (Plaid Cymru)

    David Rowlands (UKIP)

    Mohammed Asghar (Ceidwadwyr)

    View more on twitter
  9. Cymylau hefyd dros doriad y wawr?

    Sian Morgan Lloyd

    Darlithydd Newyddiaduraeth, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

    "'Mae gwawr newydd wedi torri dros gymoedd y Rhondda,' meddai Plaid Cymru y bore 'ma, a does dim amheuaeth fod buddugoliaeth Leanne Wood yn stori sy'n werth ei hadrodd ac yn llwyddiant nodweddiadol iawn. Ond, ydi'r dathlu ynghylch y sedd yma yn eclipsio perfformiad eitha' siomedig i'r Blaid fel arall?

    "Fel soniodd Yr Athro Richard Wyn Jones ar S4C, roedd amgylchiadau arbennig a ffafriol iawn i Blaid Cymru wrth adeiladu tuag at ddiwrnod y bleidlais. Hynny yw, rhaniadau mawr yn y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr yn hawlio'r penawdau, a sôn bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn syrthio oddi ar y map yn llwyr yn creu amgylchiadau perffaith i hawlio seddi a’n ennill tir.

    "Ond nid felly y bu hi, ac mae angen i'r Blaid edrych ar y ddwy sedd wnaethon nhw dargedu - Llanelli ac Aberconwy - ac ystyried beth wnaeth eu rhwystro rhag ennill tir yma, er mor agos y bleidlais." 

  10. Arwyr y 'stafell sbin

    O'r 'stafell sbin

    Mae'r 'stafell sbin wedi gwagio dros yr ychydig oriau diwethaf, ond mae'r criw yma'n parhau yno.

    Arwyr, chwi oll!

    'Stafell sbin
  11. Canlyniad rhanbarth Gogledd Cymru

    Etholiad 2016

    Nathan Gill (UKIP)

    Llyr Gruffydd (Plaid Cymru)

    Mark Isherwood (Ceidwadwyr)

    Michelle Brown (UKIP)

    View more on twitter
  12. Y farddoniaeth yn dal i lifo

    O'r 'stafell sbin

    Mae Gruffudd Owen - rhyw naw awr ar ôl dechrau - yn dal i farddoni yn y 'stafell sbin.

    Leanne Wood yw testun y gerdd ddiweddaraf, gyda'r enw 'Y Rhondda'.

    Video content

    Video caption: Etholiad 2016: Cerdd Leanne Wood