Beth yw Gorsedd y Beirdd?

  • Cyhoeddwyd

Cymdeithas o feirdd, awduron, cerddorion, artistiaid ac eraill sydd wedi gwneud cyfraniad i Gymru, yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yw Gorsedd y Beirdd (neu Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.)

Fe'u gwelir yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol wedi eu gwisgo mewn gwyn, gwyrdd a glas yn cael eu harwain gan yr Archdderwydd. Gelwir aelodau'r Orsedd yn dderwyddon ac mae gan bob un ei enw barddol unigryw ei hun.

INTERACTIVE
  • Meini'r Orsedd

    ×

    Lluniwyd y cynllun manwl yma o Gylch yr Orsedd ar droad yr ugeinfed ganrif. Mae 12 maen yn ffurfio siâp cylch. Y garreg fawr wastad yng nghanol y cylch yw'r Maen Llog, a dyma lwyfan yr Archdderwydd yn ystod y seremonïau urddo.

  • Yr Archdderwydd

    ×

    Yr Archdderwydd yw Pennaeth yr Orsedd. Mae’n cael ei ethol gan yr Orsedd am gyfnod o dair blynedd. Dim ond Prifeirdd a Phrif Lenorion all ddal swydd archdderwydd. Mae'n gyfrifol am arwain seremonïau'r Orsedd gan gynnwys seremonïau'r Coroni, y Fedal Ryddiaith a'r Cadeirio.

  • Y Wisg Wen

    ×

    Enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod sy’n gwisgo’r wisg wen. Gallwch adnabod enillwyr y Gadair neu’r Goron gan eu bod yn gwisgo llawryf am eu penwisg.

  • Y Wisg Werdd

    ×

    Mae’r aelodau sy’n gwisgo gwyrdd yn arbenigo ym myd y celfyddydau. Gall hynny ddigwydd er anrhydedd, trwy radd neu drwy arholiad. Mae enillwyr cadair a choron Eisteddfod yr Urdd hefyd yn gwisgo’r wisg werdd.

  • Y Wisg Las

    ×

    Mae’r wisg las ar gyfer rhai sydd wedi rhoi gwasanaeth arbennig i’w bro neu i’r genedl a thrwy anrhydedd ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth neu’r Cyfryngau.

  • Morwyn y Fro a'r Flodeuged

    ×

    Tusw o flodau'r maes sy’n symbol o dir a phridd Cymru yw’r Flodeuged. Mae merch ifanc o fro'r Eisteddfod yn ei chyflwyno i'r Archdderwydd fel symbol o ddymuniad ieuenctid Cymru i gynnig blagur eu doniau i'r Eisteddfod.

  • Y Ddawns Flodau

    ×

    Dyma un o ddefodau mwyaf poblogaidd y Brifwyl. Mae’r ddawns yn cyfleu casglu blodau’r maes ac yn cael ei pherfformio gan ferched ysgol lleol. Cyfunir y ddawns gyda chyflwyniad y Flodeuged wrth i ddwy o'r dawnswyr ychwanegu'u blodau nhw at y tusw.

  • Y Corn Gwlad

    ×

    Mae seiniau'r ddau Gorn Gwlad yn rhan bwysig o ddefodaeth yr Orsedd ers yr 1860au. Gallwch glywed y ffanffer cyfarwydd pan mae enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod yn cael eu galw i’r llwyfan.

  • Mam y Fro a'r Corn Hirlas

    ×

    Yn ei chlogyn coch hardd a phenwisg o lês aur, un o famau bro’r Eisteddfod sy'n cyflwyno’r Corn Hirlas i’r Archdderwydd fel symbol o'r gwin a estynnir i groesawu'r Orsedd.

  • Ceidwad Y Cledd

    ×

    Mae’r cleddyf yn cael ei ddefnyddio i agor a chau'r Orsedd ac yn ystod seremonïau'r Eisteddfod. Ceidwad y Cledd sy’n gofalu ar ôl y Cleddyf. Gan ei fod yn gleddyf heddwch, nid yw byth yn cael ei ddadweinio’n llwyr. Sylwch hefyd mai wrth y llafn y caiff ei ddal yn hytrach na’r carn.

Cychwyn yr Orsedd

Ar Fryn y Briallu (Primrose Hill), Llundain, y sefydlwyd yr orsedd i gychwyn yn 1792 gan ŵr o'r enw Iolo Morganwg a oedd yn awyddus i roi gwybod i'r byd bod na gysylltiadau uniongyrchol rhwng y Cymry a'r diwylliant Celtaidd.

Ar ddechrau'r 19eg ganrif y cysylltwyd Gorsedd y Beirdd yn swyddogol â'r Eisteddfod a hynny mewn Eisteddfod yng Ngwesty'r Llwyn Iorwg yng Nghaerfyrddin. Mae'r cysylltiad yn parhau hyd heddiw.

Cylch yr Orsedd

Gwelir Cylch yr Orsedd, sef cylch o feini, mewn nifer o drefi a phentrefi ar hyd a lled Cymru, wedi eu gadael yno i nodi i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â'r dref neu'r ardal honno. Erbyn hyn, meini ffug sy'n cael eu cludo o Eisteddfod i Eisteddfod yn flynyddol.

Enwogion yr yr Orsedd

Dros y blynyddoedd, mae nifer o enwogion wedi eu hurddo i'r Orsedd. Yn 1946, cafodd y Frenhines Elizabeth II ei hurddo i'r wisg werdd. Ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r canlynol wedi eu hurddo: y cyflwynydd radio Huw Stephens, y gantores Caryl Parry Jones, y sêr Hollywood Ioan Griffiths a Matthew Rhys, y canwr opera byd-enwog Bryn Terfel, yr athletwraig Tanni Grey-Thompson, y cogydd a'r cyflwynydd teledu Bryn Williams, cyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams, y Prif Weinidog Carwyn Jones, y cyflwynydd adnabyddus Alex Jones, y gantores werin Siân James a'r cerddor a'r cynhyrchydd, Endaf Emlyn.