Main content

Gatland a’i griw o dan bwysau

Cennydd Davies

Gohebydd rygbi

Wel am benwythnos , ac nid yn unig y chwaraewyr sydd wedi gadael yr Ynys Werdd yn waglaw ddydd Sul. Nid prifddinas y weriniaeth yw’r lle rhata’ bellach!

Cefnogwyr Cymru yn mwynhau

Serch hynny, roedd gweld yr olygfa wedi i mi fod yn darlledu yn ardal y Temple Bar nos Sadwrn yn awgrymu nad o’dd hynny’n poeni’r miloedd a heidiodd ar draws môr Iwerddon, gyda’r ‘deml’ yn ymdebygu i Heol Santes Fair yng Nghaerdydd.

Yr olygfa o'r gwesty



Yn eu plith roedd aelodau o aelwydydd Pantycelyn , JMJ a Gym Gym Caerdydd a diolch i’r ferch a geisiodd gynnal sgwrs â chyn flaenasgellwr Cymru Martyn Williams yn Gymraeg. A Martyn ei hun ddim callach drwy gydol y drafodaeth!! Roedd yr olygfa werth ei gweld!

Er gwaetha’r presenoldeb o Gymru mae’r niferoedd yn lleihau bob tro. Pan ofynnais i bennaeth un cwmni teithio ddydd Sul, dywedodd mai wyth cant o deithwyr yr oedden nhw’n eu cludo draw i Ddulyn eleni a hynny o gymharu â dros ddwy fil o bobl yn y gorffennol. Ac yn ystod yr wythdeg munud o gêm ddydd Sadwrn, fyddai’r rheiny a fentrodd wedi gofyn pam, ac mae hynny yn fy arwain yn ddestlus at y gêm ei hun.

Gêm waethaf cyfnod Warren Gatland

Ymddiheuriadau os dwi di bod yn trafod pethau ymylol hyd yn hyn ond yn syml iawn does dim lot i’w drafod o safbwynt y gêm - gêm waethaf yn ystod cyfnod Warren Gatland heb os nag oni bai.

Yn yr iath fain ma’r term ‘bad day at the office‘ yn cael ei ddefnyddio yn nhermau chwaraeon a falle’n wir dyma ddigwyddodd bnawn Sadwrn . Yr ystrydeb arall sy’n cael ei or-ddefnyddio yw ‘dyw timoedd da ddim yn troi’n wael dros nos’. Ymysg yr holl farnu wedi’r llanast ddydd Sadwrn mae’n rhaid cymryd munud i feddwl a phwyllo.

Gatland a’i griw o dan bwysau

Y tebygrwydd yw na fydd yna newidiadau mawr ar gyfer ymweliad y Ffrancwyr i Stadiwm y Mileniwm wythnos i nos Wener gyda’r hyfforddwr o Seland Newydd yn rhoi ail gyfle i’r rheiny dan-berfformiodd cymaint yn Stadiwm Aviva.

Detholiad o bapurau newydd fore Sul


Roedd Cymru mewn sefyllfa debyg y llynedd ac ar ôl colli wyth gêm o’r bron a chael buddugoliaeth dros y Ffrancwyr taniodd y tîm ac mewn tair gêm roedd y cochion unwaith yn rhagor yn feistri ar rygbi hemisffer y Gogledd.

Mae’ r dasg y tro hwn serch hynny’n ymddangos yn anoddach a bydd perfformiad o’r fath yn cael ei gosbi gan dîm sy’ eisoes wedi ennill dwy gêm o’r bron. Mae’r garfan felly wedi cyrraedd croesffordd a Gatland ai griw o dan bwysau

Tan y tro nesaf.

Gwefan Chwe Gwlad BBC Radio Cymru.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - 11 Chwefror 2014

Nesaf

A Fo Ben bid bont