BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Yr Ergyd Olaf
Ydi Cymru'n barod am y ffilm?
  • Adolygiad Kate Crockett o Yr Ergyd Olaf gan Llwyd Owen. Lolfa. £7.95.


  • Bu'n daith ryfeddol o fyr i Llwyd Owen o fod yn enfant terrible y byd cyhoeddi, i gamu i lwyfan gwesty'r Hilton i dderbyn gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei ail nofel, Ffydd Gobaith Cariad, yn gynharach eleni.

    Mae'r croeso a gafwyd i'w ddwy nofel gyntaf yn profi nad yw'r sefydliad llenyddol Cymraeg mor geidwadol ag y mae rhai'n credu ac nid yw defnydd Llwyd Owen o "fratiaith" na'i ysgrifennu cignoeth am ryw, cyffuriau a thrais yn ddigon i godi aeliau fawr neb heblaw am Gwilym Owen bellach.

    Clawr y llyfr Mae'r llwyddiant wedi golygu bod Llwyd Owen wedi gallu ymroi i'r hyn yr oedd yn ei ddymuno ei wneud, sef ysgrifennu yn gyson, ac mae'n braf gweld trydedd nofel ganddo yn ymddangos o'r wasg o fewn llai na dwy flynedd.

    Wedi dweud hynny, mae ambell i wall cysodi, sillafu, a threiglo yn ei nofel ddiweddaraf sy'n awgrymu efallai iddi gael ei rhuthro o'r wasg ar gyfer y farchnad Nadolig.

    Ond go brin y bydd hynny'n amharu gormod ar fwynhad y rhan fwyaf fydd yn darllen y nofel.

    Yn chwithig
    Ni fydd gwaith Llwyd Owen fyth yn debygol o blesio'r rhai sy'n dymuno darllen Cymraeg coeth: mae llawer o'i frawddegau yn darllen fel cyfieithiadau uniongyrchol o'r Saesneg ac mae ei ddefnydd o ambell air yn taro'r glust yn chwithig.

    Ond nid ysgrifennu Cymraeg graenus yw ei flaenoriaeth.
    Plotiwr yw Llwyd Owen yn bennaf oll ac un sy'n llwyddo i argyhoeddi gyda stori sy'n torri tir newydd eto o ran testun i nofel Gymraeg.

    Er bod ei ddwy nofel gyntaf wedi'n cyflwyno ni i isfyd Caerdydd, roedd y prif gymeriadau yn deipiau digon cyfarwydd yn y Gymru Gymraeg: cyfryngis a chyfieithwyr.

    Mewn isfyd
    Mae Yr Ergyd Olaf yn ein tynnu ymhellach fyth i'r isfyd, ac er bod y prif gymeriadau'n Gymry Cymraeg, go brin eu bod y math o bobl byddem yn disgwyl eu cyfarfod yng Nghlwb Ifor Bach.

    Ergydiwr, neu lofrudd cyflogedig, yw Tubbs, y prif gymeriad, mab i Foxy, putain o Abertawe. Mae ei fentor, T-Bone, yn bennaeth ar gang o feicwyr, a'i gyfaill, Luca Parenti, yn Eidalwr o Geredigion sy'n cyfuno gyrfa fel un o sêr cerddorol mwyaf yr Eidal gyda thyfu canabis mewn planhigfa yn ei blasty ger Aberporth.

    Camp Llwyd Owen yw ein galluogi i gredu yn y cymeriadau hyn er gwaetha'u cefndir annhebygol ac, yn wir, mae rhywun yn rhyfeddu at ei allu i greu cymeriadau sy'n groes i'r disgwyl.

    Awydd Tubbs i ddial am lofruddiaeth ei fam yw craidd y nofel. Mae'n stori sy'n gafael yn syth, wrth i Llwyd Owen wau'r gwahanol olygfeydd a'r gwahanol gyfnodau ym mywyd Tubbs i greu cyfanwaith cyffrous.

    Mae hwn yn waith byrrach a thynnach na'i nofelau blaenorol ac mae'n amlwg yn datblygu fel awdur gyda phob llyfr.

    Dylanwad Tarantino
    Unwaith eto mae dylanwad ffilmiau Quentin Tarantino i'w gweld yn gryf ar y gwaith, yn arbennig yn y golygfeydd graffig o drais.

    Eto hefyd, mae'n defnyddio lleoliadau daearyddol go iawn sy'n ychwanegu at yr elfen ffilmig, wrth i'r digwydd ddod yn fyw yn nychymyg y darllenydd.

    Mae'r ddau ddihiryn comig, Vexl a Gimp, yn sicr yn haeddu cael eu portreadu ar seliwloid.

    Mae gwaith llenyddol Llwyd Owen wedi'i groesawu yn gyflym iawn, a bydd Yr Ergyd Olaf yn sicr o blesio'r rheiny sydd wedi gwirioni ar ei ddawn fel storïwr.

    Y cwestiwn i'w ystyried nawr yw a yw Cymru'n barod am y ffilmiau?

    Cysylltiadau Perthnasol
  • Ennill gwobr Llyfr y Flwyddyn

  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy