BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau
Byd doniol, dychanol, dig, chwerw, unig a thrist
  • Adolygiad Rhodri Ll Evans o Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau gan Llwyd Owen


  • Athrylithgar. Budr. Gwych. Gwarthus.
    Arloesol. Di-chwaeth. Herfeiddiol.
    Gwan. Crefftus. Di-raen.
    Amrwd. Masweddus. Ffres. Amharchus. Campus.

    Rhai o'r ansoddeiriau a ellir eu defnyddio i ddisgrifio nofel gyntaf Llwyd Owen - mae'r cyfan yn dibynnu ar eich chwaeth bersonol.

    Fy hun, ni allaf beidio a'i chanmol. O'r diwedd, mae'r Nofel Gymraeg yn mentro blasu pleser a phechod y ganrif newydd!

    Clawr y llyfr Luc Swan.
    Ein prif gymeriad a gwrtharwr trasig y stori. Mae wedi syrffedu'n lân ar ei swydd fel rhedwr i gwmni cynhyrchu.
  • Mae ei elyn pennaf (ei fos) yn mwynhau pleserau'r cnawd gyda'r ferch y mae'n ei ffansïo.
  • Mae ei dad mewn cartref i'r gwallgof.
  • Mae'n gor-yfed. Mae'n gor-ysmygu. Mae'n arbrofi â chyffuriau.
  • Mae ganddo broblemau 'down belô' ac i goroni'r cyfan, mae'n gorfod bod yn gi bach i fand pop mwyaf hunan-ganolog Cymru.
    Nid yr arwr confensiynol, felly.

    Cyfarfod â'r Diafol
    Er yn nofel real iawn ar adegau, mae rhannau ohoni'n swrrealaidd iawn.

    Trwy gydol y stori, mae sôn cyson am gymeriadau gwahanol yn ceisio cyfarfod â'r Diafol ac yn ceisio bargeinio ag o.

    Gallaf ddeall sut y buasai rhai yn gweld y rhannau hyn yn chwithig mewn nofel sydd i fod yn trafod bywyd pob dydd ond eto i gyd, o fewn strwythur stori - ble mae iselder ysbryd, insomnia a pharanoia'n themâu amlwg - credaf i'r darnau hyn weddu'n eithaf rhwydd.

    Hynny yw, yn nhywyllwch eithaf iselder, gall y digwyddiadau mwyaf swrrealaidd ac absẃrd ymddangos yn rhai real iawn.

    Gwau'n grefftus
    Hoffais y modd yr oedd y stori wedi ei gwau'n grefftus a sut y mae hi'n llwyddo i gyflwyno storïau'r cymeriadau eraill o fewn ei fframwaith - hynny heb dorri ar gynfas stori Luc ei hun.

    Mae'r naratif yn llifo'n esmwyth o'r person cyntaf i'r trydydd person heb unrhyw drafferth.

    Yn y bôn, yr un llais sy'n adrodd y stori gyfan - llais Luc - ond mae'r darnau trydydd person yn caniatáu inni gael cipolwg ar y cymeriadau eraill - a hynny heb bellhau'n ormodol oddi wrth stori'r prif gymeriad.

    Cawn ein tywys yn ôl i blentyndod Luc a gweld sut y cafodd rhai digwyddiadau erchyll effaith barhaol arno ac maent yn fodd effeithiol o geisio ateb pam fod 'Luc yr oedolyn' yn teimlo mor annigonol, mor anhapus ac mor ddig.

    Yn hyn o beth, rydym yn cydymdeimlo ag o ac mae rhyw rym rhyfedd yn peri i ni ddal ein gafael ar y cydymdeimlad hwnnw hyd at ddiwedd y stori.

    Dawn arbennig
    Mae gan yr awdur ddawn arbennig i greu cymeriadau credadwy a hynny heb ddefnyddio gormodedd o ddisgrifiadau a heb fod yn ystrydebol.

    Roeddwn yn coelio ynddynt - Whitey, Doc, Emlyn a Cariad - a theimlais eu bod yn bobl go iawn.
    Dichon eu bod!

    Dod yn ail
    Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau oedd y gwaith a ddaeth yn ail yng Nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eryri y llynedd.

    O ran gwreiddioldeb y stori, mae'n debyg mai hon fuasai wedi ennill y gystadleuaeth ond roedd un maen tramgwydd yn ei hatal rhag cipio'r brif wobr - iaith ei mynegiant.

    Gallaf gydymdeimlo'n fawr â beirniaid y gystadleuaeth honno oherwydd rwyf mewn ychydig o gyfyng-gyngor fy hun ynghylch hyn.

    Bratiaeth Caerdydd
    Mae wedi ei hysgrifennu ym mratiaith Caerdydd a chyda'r fratiaith honno y daw popeth - defnydd helaeth o'r Saesneg, rhegi (yn Saesneg yn bennaf), cystrawennau llafar, dylanwad ymadroddion Saesneg a.y.y.b.

    Hynny yw, popeth sy'n cael ei gondemnio'n angerddol gan athrawon o'r lefel gynradd ymlaen!

    Gwir, mae llawer o'n nofelau diweddar yn dilyn patrwm eithaf tebyg ond yn y rheini, nid yw'r Saesneg yn gymaint o bresenoldeb a phan ddefnyddid y Saesneg ynddynt, roedd fel arfer wedi ei argraffu mewn italig.

    Pe gwnaed hynny yn Ffawd... yna buasai dros ei hanner yn italig ac yn bersonol, rwy'n credu y buasai hynny'n atal llif ei mynegiant yn sylweddol.

    Yn y pen draw, os ydym yn llwyr dderbyn y stori, yna dylem dderbyn y modd y mae'r prif gymeriad yn dewis mynegi ei hun.

    Er hyn, weithiau cefais fy hun yn darllen gair Saesneg fel gair Cymraeg a gorfod ail-ddarllen y frawddeg honno er mwyn parhau.

    Yn bersonol, rwy'n credu mai ei mynegiant fydd, o bosib, yn gyfrifol dros ei ffawd - a fydd yn cael ei chyfarch fel chwa o fywyd newydd i'r nofel Gymraeg ynteu ei halltudio i ddyfnderoedd yr 'annerbyniol' neu beidio.
    Amser a ddengys...

    Holl regi
    Gallaf ragweld gyda pheth hyder y bydd rhai'n ei beirniadu am gynnwys yr holl regi - er y rhybudd ar y clawr.

    Yn bersonol, roeddwn i yn derbyn mynegiant Luc. Roeddwn yn clywed ei lais ac felly, i mi, nid oedd y rhegfeydd yn ddim ond rhan o'i gymeriad.

    Goddefgarwch yw'r rhinwedd y mae'n rhaid i'r darllenydd werthi wrth ddarllen y nofel hon. Rhaid derbyn bod y math yma o fyd yn bodoli o dan groen melys y Cyfryngau a'r Ddinas ac rwy'n hynod falch i'r nofel hon ddatgelu bodolaeth y byd hwnnw - a'i feirniadu.

    Yn bersonol, roeddwn wrth fy modd yn plymio i fyd tywyll Luc - byd doniol, byd dychanol, byd dig, byd chwerw, byd unig a byd trist.

    Mwynheais Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau yn fawr.
    Mae hon yn nofel arloesol - o ran gwreiddioldeb ei stori ac o ran ei mynegiant unigryw. Dylid ei derbyn â chroeso brwd.

  • Gweler Gwales Cliciwch



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy