Mae Radio Cymru, mewn partneriaeth â Chyngor Llyfrau Cymru, wedi cyhoeddi enwau’r deg bardd sydd wedi cyrraedd rhestr fer ymgyrch Hoff Fardd Cymru.
Yn dilyn llwyddiant Hoff Awdur Cymru a Hoff Ddyfyniadau’r Genedl, mae Radio Cymru am ddarganfod Hoff Fardd y Cymry.
Yn dilyn trafodaeth ddwys, mae panel o arbenigwyr llenyddol wedi llunio rhestr fer o ddeg bardd.
Y deg bardd sydd wedi eu gosod ar restr fer Hoff Fardd Cymru yw:
- Dic Jones
- Gerallt Lloyd Owen
- Gwenallt
- Gwyn Thomas
- Iwan Llwyd
- Mererid Hopwood
- R Williams Parry
- T Gwynn Jones
- T H Parry-Williams
- Waldo Williams
Dros yr wythnos nesaf bydd deg o unigolion yn trafod gwaith y beirdd ac yn annog gwrandawyr Radio Cymru i bleidleisio dros eu hoff fardd.
Bydd y sgyrsiau hyn ar raglen foreol Shân Cothi (Bore Cothi am 10 y bore).
Rhwng 14 a 28 Ebrill bydd modd i wrandawyr Radio Cymru bleidleisio dros eu hoff fardd ar y we – a bydd enw’r bardd buddugol yn cael ei ddatgelu ar 1 Mai.
Dywedodd Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru,
"Mae’n bleser gan BBC Radio Cymru gynnal ymgyrch i ddewis Hoff Fardd Cymru ar y cyd â Chyngor Llyfrau Cymru. Fel gorsaf sy’n dathlu barddoniaeth yn gyson ac sydd newydd ddechrau cydweithio â bardd preswyl bob mis, mae rhoi’r cyfle i wrandawyr Radio Cymru dewis eu hoff fardd Cymraeg yn beth cyffrous iawn."
Ychwanegodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru,
"Yn dilyn y cydweithio rhwng y Cyngor Llyfrau a Radio Cymru ac S4C ar ddathliadau Diwrnod y Llyfr, rydym yn falch o allu cefnogi ymgyrch arall gan Radio Cymru i ganfod Hoff Fardd Cymru.
"Y llynedd cafwyd ymgyrch lwyddiannus i ddewis Hoff Awdur Cymru, pryd y daeth Caryl Lewis i’r brig, ac rydym yn sicr y caiff yr ymgyrch hon yr un sylw. Mae’r Cymry wedi rhoi lle haeddiannol i’w beirdd ar hyd y blynyddoedd a dyma ni’n cael cyfle eto i ddathlu eu gwaith a phori yn eu cyfrolau."
Bydd modd defnyddio’r hashnod #dathludarllen i drafod yr ymgyrch ar y we.