Tîm y Cymry Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
"Be? Siaradwyr Cymraeg yn unig? Mae hon yn her fawr!"
Disgrifiad o’r llun,

"Be? Siaradwyr Cymraeg yn unig? Mae hon yn her fawr!"

Gyda'r holl anafiadau i garfan Cymru, mae dewis tîm holliach wedi bod yn ddigon o gur pen i Warren Gatland dros yr wythnosau diwethaf. Ond, meddyliwch petai'n rhaid iddo ddewis siaradwyr Cymraeg yn unig, sut olwg fyddai ar ei dîm wedyn?

Dyna'r pwnc llosg gafodd ei drafod ymhlith timau cynhyrchu Y Clwb Rygbi a Scrum V yn ddiweddar. Ar ôl ymgynghori gyda'r gwylwyr dyma'r rhestr wnaethon nhw eu llunio.

Gareth Rhys Owen sydd yn ein tywys trwy'r dewisiadau:

Dyw hi ddim yn dasg hawdd am amryw o resymau.

Yn gyntaf, mae gormod o ddewis yn yr olwyr, yn enwedig yn safle'r mewnwr (Mike, Gareth, Dwayne, Lloyd, Tavis, Darren Allinson ayb). Tra bod prinder y blaenwyr mawr yn awgrymu bod y rheiny sy'n meddu ar iaith y nefoedd yn tueddu i osgoi'r ochr mwyaf corfforol o'r gêm.

Y cwestiwn arall yw eu medr ieithyddol.

Felly dyma fy newis terfynol i. Diolch i fy nghyd-weithwyr a'r trydar-fyd am eich help:

Disgrifiad o’r llun,

15. Rhys Patchell - "Yno am ei sgiliau rygbi a sgiliau ieithyddol sydd o'r safon ucha'."

Disgrifiad o’r llun,

14. George North - "Wedi ei eni ar draws Clawdd Offa, ond iaith Ynys Môn sy'n dod o enau Siôr y Gogledd."

Disgrifiad o’r llun,

13. Jonathan Davies - "Y llais dyfna' yn y tîm. Os oes angen rhywun i leisio hysbyseb gwerthu ceir ar y radio yna Foxy yw'r dyn."

Disgrifiad o’r llun,

12. Jamie Roberts - "Meddyg, mynydd a meistr y brifddinas. Wedi perffeithio 'acen Glantaf'."

Disgrifiad o’r llun,

11. Scott Williams - "Allan o safle ar yr asgell ond yn un o driawd Castell Newy' sy' yn y tîm."

Disgrifiad o’r llun,

10. Rhys Priestland - "Cymraeg naturiol a graenus sydd i'w ddisgwyl gan gyn-ddisgyblion Ysgol Bro Myrddin."

Disgrifiad o’r llun,

9. Gareth Davies - "Gareth Cawdor i'w ffrindiau. Caewch eich llygaid ac mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddo e a'i gyfaill Scott Williams."

Disgrifiad o’r llun,

1. Rhodri Jones - "Mae'n 'dde iawn' cael clywed acen Mach ar y cae..."

Disgrifiad o’r llun,

2. Ken Owens - "Un arall ddaeth trwy academi Bro Myrddin. Naturiol mewn cyfweliadau."

Disgrifiad o’r llun,

3. Eifion Lewis-Roberts -"Y mwya' o ran maint, y tawela o ran sŵn. Mae 'The Fridge' yn swil dros ben. Ar yr adegau prin pan mae'n siarad, acen Dyffryn Clwyd sydd i'w chlywed."

Disgrifiad o’r llun,

4. Andrew Coombs - "Acen hyfryta'r tîm. Cymraeg y Cymoedd naturiol sy'n beth prin iawn. Alle'n i wrando arno'n siarad trwy'r dydd."

Disgrifiad o’r llun,

5. Macauley Cook - "Fel ei bartner yn yr ail reng mae Macauley yn rhoi llwyfan i lais y Cymoedd."

Disgrifiad o’r llun,

6. James Davies - "Brawd Jonathan Fox. Ei lys enw yw 'Cubby Boi'. Dyna sydd wedi ei baentio ar ei fysedd gan arlunydd tatŵ yn Las Vegas. Tonfedd yn is na'i frawd o ran dyfnder llais."

Disgrifiad o’r llun,

7. Nic Cudd - "Acen Cwm Gwendraeth. Hawdd iawn ei ddychymgu fel cymeriad yn Pobol y Cwm."

Disgrifiad o’r llun,

8. Josh Turnbull - "Y trydydd o Gastell Newy' a'r wythfed chwaraewr o'r Gorllewin. 'West is best' fel ma' nhw'n dweud..."

Cytuno gyda dewis Gareth Rhys Owen? Cysylltwch @BBCCymruFyw ar Twitter neu cymrufyw@bbc.co.uk

Cofiwch am safle arbennig Cwpan y Byd ar BBC Cymru Fyw.