Main content

Radio Cymru'n chwilio am hoff ganeuon yn yr Eisteddfod

Newyddion

Beth yw eich hoff ganeuon Cymraeg chi erioed? Dyna'r cwestiwn sydd yn wynebu gwrandawyr BBC Radio Cymru fydd yn ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014, wrth i'r orsaf baratoi ar gyfer rhaglen arbennig, #40MAWR - Siart Fawr yr Haf, gyda Richard Rees a Lisa Gwilym yn cyflwyno, fydd yn cael ei darlledu brynhawn Gŵyl y Banc, dydd Llun 25 Awst.

Dyma rhai o ffrindiau Radio Cymru yn dewis traciau ar gyfer #40Mawr - Siart Fawr yr Haf.

"Fe fyddwn ni’n lansio'r ymgyrch ddydd Sadwrn, Awst 2 am ddau o'r gloch ym mhabell Radio Cymru ar y maes," meddai Richard Rees. "Felly rwy'n annog pawb i ddod draw er mwyn cael eu hysbrydoli ac, efallai hefyd, i gael eu hatgoffa o rai o'r caneuon gorau sydd gan Gymru '’w gynnig. Beth sy'n gyffrous, wrth gwrs, yw bod gennym ni fel cenedl gasgliad anhygoel o ganeuon gwych - cannoedd ar gannoedd o ganeuon dros y blynyddoedd, mewn gwirionedd, felly fe fydd yn ddiddorol iawn gweld pa rai sy’n dod i feddwl gwrandawyr."

 

Bydd cyfle i bobl ddewis hyd at dair o'u hoff ganeuon a llenwi ffurflen arbennig tra'n ymweld â phabell BBC Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod drwy gydol yr wythnos. A bydd cyfle hefyd i bobl recordio negeseuon sain yn sôn am eu hoff ganeuon mewn stiwdio fach yn y babell - a bydd detholiad o'r negeseuon hynny yn cael eu cynnwys yn y rhaglen ei hun.

 

Ond nid dim ond ymwelwyr â'r Brifwyl fydd yn cael datgan eu dewisiadau - bydd cyfle i bawb arall ffonio 03703 500 600 a gadael negeseuon rhwng dydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod (Awst 2) a dydd Llun, Awst 18. Bydd gwybodaeth lawn am sut i ddewis i'w gael ar wefan Radio Cymru: bbc.co.uk/radiocymru

 

Ymgyrch #40MAWR fydd un o brif weithgareddau Radio Cymru ar faes yr Eisteddfod eleni, ond mae arlwy llawn o berfformiadau a sesiynau wedi’u trefnu yn ogystal.

 

Dywed Betsan Powys, Golygydd Radio Cymru: "Mae'n mynd i fod yn wythnos sy'n llawn hwyl yn y babell - gyda chyfle i bobl fwynhau llu o ddarllediadau byw, perfformiadau cerddorol a sgyrsiau diddorol. Ac rwy'n hynod o falch ein bod yn gofyn i'n gwrandawyr am eu hoff ganeuon Cymraeg - yn rhoi cyfle iddyn nhw ddylanwadu'n uniongyrchol ar gynnwys rhaglen arbennig ar gyfer Gŵyl y Banc, a dathlu degawdau o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg ar yr un pryd."

Mwy o wybodaeth am #40MAWR

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr - Awst 2, 2014