Main content

Telerau ac Amodau Stori Fer Geth a Ger

1. Trefnir y gystadleuaeth gan y BBC mewn cydweithrediad ag ysgolion cynradd Cymru.

2. Mae'r gystadleuaeth yma yn dod o dan God Ymddygiad y BBC o ran Cystadlaethau a Phleidleisiau. Gallwch ddarllen mwy amdano yma: Polisi Cystadlaethau'r BBC.

3. Mae'r gystadleuaeth yma'n agored i ddisgyblion ysgol gynradd, sydd ym mlynyddoedd 5 a 6 unrhyw ysgol gynradd yng Nghymru. Efallai y byddai angen prawf o oedran, enw ac os yw'r plentyn yn gymwys i gystadlu.

4. Dylai cystadleuwyr ysgrifennu stori fer ffuglennol (dim hirach na 500 gair). Dylir cyflwyno'r stori i'r ysgol, a fydd yn anfon y straeon mewn un amlen, ynghyd â llythyr yn egluro o ba ysgol maen nhw. Bydd y stori yn cynnwys ffugenw'r cystadleuydd ac enw'r ysgol ar frig pob dalen. Ni ddylai enw go iawn y plentyn ymddangos ar y papur nac yn yr amlen. Bydd yr athro yn cadw rhestr o enwau a ffugenwau'r plant yn yr ysgol.

Bydd rhaid i oedolyn (athro/pennaeth) roi caniatâd er mwyn i blentyn gael cystadlu. Pan mae rhestr fer o bedwar wedi eu dewis, bydd y BBC yn cysylltu â'r athro i ofyn am gadarnhad neu ganiatâd gan riant neu warchodwr y cystadleuydd.

Bydd y manylion personol sy'n cael eu darparu yn cael eu defnyddio er mwyn gweinyddu'r gystadleuaeth ac yn unol â Pholisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC. Bydd y BBC yn defnyddio'r manylion cyswllt sy'n cael eu darparu gan yr oedolyn i anfon diweddariadau ar e-bost. ynglŷn â'r gystadleuaeth. Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen Pholisi Preifatrwydd a Chwcis y BBC.

5. Dim ond drwy eu hysgol gynradd mae modd i blant gystadlu. Dim ond un stori gan bob plentyn.

6. Mae'n rhaid i'r straeon fod yn ddarn o ffuglen gwreiddiol wedi ei osod adeg y Nadolig, ac nid yn cyfeirio at ddigwyddiadau go iawn – nail ai'n hanesyddol neu yn y presennol. Fodd bynnag, gallai straeon gynnwys ffigwr cyhoeddus adnabyddus o'r presennol neu'r gorffennol (e.e Gareth Bale neu Owain Glyndwr), gael ei osod mewn cyfnod hanesyddol (e.e yng nghyfnod Llywelyn Fawr) neu ddefnyddio profiadau go iawn fel sail greadigol, dim ond fod y stori yn un FFUGLENNOL. Y cystadleuydd sydd yn sicrhau nad ydyn nhw wedi defnyddio deunydd neu yn adrodd ar digwyddiadau sydd wedi digwydd neu yn defnyddio manylion personol unrhyw berson byw, yn y stori. Gan ei bod hi'n bosib y bydd y straeon yn cael eu cyhoeddi, mae hi'n bwysig nad yw'r straeon yn cynnwys manylion personol am yr awdur.

7. Nid oes modd dychwelyd y straeon, felly cofiwch gadw copi. Ni fyddwn yn cysylltu â chystadleuwyr aflwyddiannus ac ni fydd adborth yn cael ei roi ar unrhyw stori.

8. Dylai pob stori fod yn waith gwreiddiol gan y cystadleuydd a ddim yn effeithio ar hawliau unrhyw berson arall. Nid yw'r BBC yn derbyn cyfrifoldeb os yw cystadleuwyr yn anwybyddu'r Telerau ac Amodau yma ac mae cystadleuwyr yn cytuno i sicrhau na fydd y BBC yn cael eu heffeithio gan unrhyw honiad fod y Telerau ac Amodau wedi eu torri.

9. Ni ddylai unrhyw stori gynnwys deunydd difenwol, anweddus, ymosodol neu anaddas. Mae'n rhaid i'r straeon fod yn addas i gael eu darlledu, cyhoeddi neu eu defnyddio ar-lein gan gynulleidfa'r BBC o bob oed, ond yn arbennig, plant. Darllenwch y wybodaeth ychwanegol yma. Canllawiau Golygyddol y BBC, os oes cynnwys sy'n achosi pryder, efallai bydd rhaid i'r BBC gael cyngor gan yr NSPCC, ac yn cyfeirio'r cynnwys at yr awdurdodau perthnasol Polisi Amddiffyn Plant y BBC.

10. Mae'r cystadleuwyr yn cadw hawlfraint ar eu stori ond yn rhoi trwydded bythol nad yw'n gyfyngedig, nad yw'r rhoi taliadau, i'r BBC i gyhoeddi, darlledu (ar draws pob cyfrwng) a rhoi'r stori ar-lein neu ar unrhyw blatfform posib. Bydd y trwydded yma yn cynnwys yr holl hawliau a chaniatâd i alluogi defnydd o'r fath gan y BBC, er mwyn gwireddu'r gwobrwyon a gweinyddu'r gystadleuaeth yma.

11. Drwy gyflwyno stori, mae'r cystadleuydd yn cytuno y gallai'r BBC olygu, addasu, crynhoi neu gyfieithu'r stori at bwrpas yr hyn a restrir yn 11 uchod.

12. Os yw stori yn cael ei gyhoeddi ar-lein yn www.bbc.co.uk/radiocymru, cyn i'r enillydd gael ei gyhoeddi, er mwyn eglurder, ni fydd hyn yn rhan o, nac yn dylanwadu mewn unrhyw ffordd ar, y broses feirniadu. Dim ond teitl y stori, enw ac oed y cystadleuydd fydd yn cael eu cyhoeddi gyda stori.

13. Bydd straeon yn cael eu beirniadu ar yr isod:

- Gwreiddioldeb

- Plot

- Cymeriadu

- Iaith

- Mwynhad

14. Bydd y rownd gyntaf, os yw nifer y straeon yn y gystadleuaeth yn ei gwneud hi'n angenrheidiol, yn cael ei beirniadu gan grŵp o gyn-athrawon. Bydd pob cyn-athro yn derbyn set o straeon di-enw, gan gystadleuwyr wedi eu lleoli mewn rhan arall o Gymru, er mwyn darllen a rhoi sgôr yn ôl y meini prawf uchod. Bydd pob cyn-athro yn derbyn y straeon yn bersonol, ynghyd â manylion y meini prawf a sut i sgorio'r straeon. Bydd y stori â'r sgôr uchaf yn y set yn ennill lle yn y rownd nesaf. Bydd aelod o staff golygydd o'r BBC â throsolwg o hyn.

15. Bydd y stori â'r sgôr uchaf o bob set yn cael eu casglu a bydd panel o feirniaid a fydd yn cynnwys awduron plant Cymraeg, mewn partneriaeth ag aelod o staff golygyddol y BBC, yn darllen a rhoi sgôr y straeon di-enw hyn yn ôl y meini prawf uchod, er mwyn creu rhestr o bedair stori buddugol.

16. Bydd y bedair stori fuddugol yn cael eu darllen â'u recordio gan actorion neu ffigurau adnabyddus ac yn cael eu darlledu ar Radio Cymru. Yn ogystal, mae hi'n bosib y bydd y pump stori yn cael eu cyhoeddi mewn papurau newydd rhanbarthol a lleol.

17. Y gwobrau fydd casgliad o lyfrau Cymraeg ar gyfer y cystadleuydd buddugol a'r ysgol.

18. Mae penderfyniad y BBC ynglŷn â pha straeon sydd yn cael eu hanfon at y beirniaid a'r pedwar enillydd yn derfynol. Ni fyddwn yn llythyru ynglŷn a'r penderfyniad.

19. Mae'r BBC yn neilltuo'r hawl i wahardd unrhyw stori sydd yn torri'r Telerau ac Amodau hyn, neu i wahardd y wobr os yw o'r farn nad yw'r straeon yn cyrraedd y safon angenrheidiol.

20. Mae'r BBC yn neilltuo'r hawl i ddiwygio'r Telerau ac Amodau hyn neu i ganslo'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg, os ydyw o'r farn ei bod hi'n hanfodol gwneud hynny, neu os oes yna sefyllfa tu hwnt i reolaeth yn codi.

21. Nid yw'r BBC, ei is-gontractwyr, ei is-gwmnïau, asiantaethau ac/neu unrhyw sefydliad arall sydd â chysylltiad â'r gystadleuaeth yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw fethiant technegol neu ddiffyg neu unrhyw broblem arall ag unrhyw weinydd, mynediad â'r we, system neu unrhyw beth arall a allai olygu fod stori yn cael ei golli neu ddim yn cael ei gofrestru neu ei gofnodi'n gywir. Nid yw prawf o anfon y gwaith yn brawf o'i dderbyn.

22. Mae'r Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Lloegr a Chymru.

23. Y dyddiad cau yw hanner nos ar yr 11eg o Ragfyr.