Main content

Yr hampers yn amlwg a'r Champers yn llifo

Cennydd Davies

Gohebydd rygbi

Felly does dim pencampwriaeth i fod eleni ac ar sail perfformiadau anghyson tymor hwn mae’r tîm cenedlaethol ymhell o gyrraedd safonau'r gorffennol.

‘Na’i drafod mwy am ymweliad yr Alban yn y man, ond cyn hynny ‘na’i edrych nôl ychydig ar y penwythnos a aeth heibio.

Dwi nawr yn gallu uniaethu â chefnogwyr Lloegr y llynedd pan chwalwyd eu gobeithion yn deilchion yng Nghaerdydd; rodd yr esgid ar y droed arall eleni ac mae Twickenham yn lle unig i fod pan mae pethe yn mynd ar chwâl!

Yn wahanol i ddinasoedd eraill y Chwe Gwlad, mae HQ yng nghanol nunlle mewn gwirionedd ac felly rhaid brwydro drwy'r maes parcio gorllewinol ble roedd yr hampers yn amlwg a'r Champers yn llifo - ydy mae hi'n naws hollol wahanol i Heol y Santes Fair yng Nghaerdydd!

Mi fydd Lloegr felly yn y ras am y bencampwriaeth gan obeithio bydd y Gwyddelod yn baglu ar y cymal olaf yn erbyn Ffrainc - er byddai ennill ym Mharis yn ddiweddglo cwbl addas i Brian O'Driscoll ar ei ymddangosiad olaf i’w wlad - heb os un o'r chwaraewyr gore o'i genhedlaeth!

Mwy o sêr a thalent yn nhîm yr Alban

Ac felly at y gêm olaf. Fel arfer mae’r genedl ar bigau’r drain yn edrych ymlaen at y penwythnos olaf ond dyma'r tro cyntaf mewn pedair blynedd nad oes dim yn y fantol i'r tîm cenedlaethol. Bydd y bwrlwm arferol yn y brifddinas ddydd Sadwrn serch hynny, ond o bosib mae’r ymgyrch eleni yn benllanw wedi sawl blwyddyn lwyddiannus.

Dyw'r ymgyrch chwaith ddim wedi bod yn un cofiadwy i'r Alban ac mewn gêm ofnadwy yn Murrayfield ddydd Sadwrn diwethaf, collon nhw gyfle euraidd i nodi buddugoliaeth dros Ffrainc, tîm mae nifer o'r gwybodusion wedi cyfeirio ato fel y gwaetha’ i ddod o'r wlad erioed.

Diddorol oedd clywed sylwadau di-flewyn-ar-dafod cyn-hyfforddwr yr Alban a'r Llewod (Jim Telfer) yn gynharach yn yr wythnos. Nawr mae unrhyw un sydd wedi gweld y ffilm ddogfen ‘Living with Lions’ yn gwybod faint oedd ei gyfraniad fel hyfforddwr ar daith lwyddiannus y llewod yn Ne Affrica ym 1997 ond dwi ddim yn siŵr faint o ddoethineb oedd dweud bod mwy o sêr a thalent yn nhîm yr Alban!

Yn ôl Telfer dyw Cymru ddim mor dda â falle yr oedden nhw'n meddwl - digon teg, ond dwi dal yn ffyddiog mai'r cochion fydd yn trechu yn Stadiwm y Mileniwm, ble nad yw'r Alban wedi ennill ers 2002.

Nes i ddefnyddio'r gair penllanw i ddisgrifio'r ymgyrch eleni oherwydd mi fydd yna daith anodd i Dde Affrica i ddilyn yn yr haf ac mae’r tîm hyfforddi wedi rhyw led awgrymu y bydd angen ystyried sawl wyneb newydd a sicrhau bod 'na ffresni wrth adeiladu tuag at y dyfodol.

Mae’r cynllun chware yn gynyddol wedi dod o dan y lach ac er bod ‘Warrenball' (term sydd wedi ei fathu i ddisgrifio arddull Cymru) wedi gweithio yn y gorffennol, ‘dyw'r timoedd gorau ddim yn gallu aros yn yr unfan!

Cwta flwyddyn a hanner sydd i fynd tan gwpan y byd, ble byddwn ni yn yr un grŵp ag Awstralia a Lloegr! Mae’r cloc yn tician ac amser yn brin, ac mae angen gweithredu nawr!

Gareth Charles yn trafod tim rygbi Cymru i wynebu'r Alban yn stadiwm y Mileniwm.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mawrth 18, 2014