Barod am yr Awstraliaid?

  • Cyhoeddwyd
Toby FaletauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ar ol colli o drwch blynedd yn erbyn Awstralia'r llynedd, a fydd Toby Faletau a'r Cymry yn dathlu'r Sadwrn nesa?

Gyda dim ond wythnos i fynd tan ymweliad Awstralia â Stadiwm y Mileniwm, Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru sy'n edrych ar baratodau'r Cymry ar ran BBC Cymru Fyw:

Rhedeg

Er mwyn bod y gorau mae'n anochel bod dyn yn cymharu'i hun gyda'r goreuon ac fe gafwyd ambell enghraifft ddiddorol yng nghyd-destun rygbi Cymru wythnos ma. Dadlennol iawn oedd sylwadau hyfforddwr ymosod Cymru Rob Howley ddechrau'r wythnos.

Mae technoleg GPS yn dangos bod chwaraewyr Cymru mewn gem Pro 12 ar gyfartaledd yn rhedeg 55 metr y funud. Mewn gêm Super 15 yn hemisffer y De mae'r cyfartaledd ryw 65-70 ac mae'n codi i 75-80 metr y funud mewn gem ryngwladol. Nawr nid mater o ffitrwydd yw hyn ond dwyster y gêm ac mae'n golygu bod gan chwaraewyr lot llai o amser i feddwl ac ymateb.

Dyma rhan o'r rheswm efallai bod Cymru'n tueddu dechrau cystadlaethau'n araf a gwella wrth fynd ymlaen, a dyma'r her sy'n wynebu hyfforddwyr Cymru yn yr amser prin sydd ganddyn nhw i baratoi cyn gem Awstralia wythnos i Ddydd Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl ei bedwar cais yn erbyn y Gweilch mae hi'n argoeli yn dda i George North a Chymru

Gwers boenus

O leia mae'r chwaraewyr yn ymuno a'r garfan ar ôl pythefnos o gystadlu yn Ewrop lle mae'r dwysder yn uwch. Ond mae cystadleuthau Ewrop yn rhoi cyfle arall i gymharu gyda'r safon tu draw i Glawdd Offa.

Fe ddysgodd y Gweilch wers go boenus yn Franklin's Gardens. Efallai'u bod nhw'n mynd mewn i'r gêm gyda record 100% ond roedd byd o wahaniaeth rhyngddyn nhw a'r clwb sy'n arwain y ffordd yn Lloegr ar hyn o bryd.

Roedd Northampton yn rhagori ym mhob agwedd a'r un llygedyn bach o oleuni oedd mai George North sgoriodd y pedwar cais gan ddangos y math o safon welsom ni ganddo fe cyn ac yn ystod taith y Llewod.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Harry Robinson yn croesi llinell gais i'r Scarlets yn erbyn Caerlŷr

Hwb

Mae'r pythefnos wedi bod o fudd mawr i chwaraewyr y Scarlets lwyddodd i ddilyn y perfformiad grymus yn Toulon gyda buddugoliaeth bwysig yn erbyn Caerlŷr, er eu bod nhw ar y funud yn gysgod o'r tîm oedd yn rheoli Ewrop ar droad y Mileniwm.

Bydd y Gleision hwythau wedi cael hwb mawr i'w hyder o sicrhau ail bwynt bonws olynol er nad oedd y gwrthwynebwyr o'r safon uchaf a bydd y Dreigiau druain yn dal i feddwl eu bod wedi taflu cyfle bant ac nad oes dim i'w ofni mewn tîm cyffredin o waelodion cynghrair Lloegr fel Newcastle.

Tu hwnt i'r rhanbarthau

Roedd 'na gyfle i wneud cymariaethau wrth ddisgyn lefel hefyd. Ar waetha ymdrechion y dyfarnwr o Iwerddon ar y cyfan fe lwyddodd Pontypridd i ddal eu tir yn erbyn tîm cwbwl broffesiynol Bryste a chanlyniad yr wythnos oedd gweld Cwins Caerfyrddin yn trechu tîm A Leinster gan wneud nonsens o osodiad un swyddog o Loegr mai ail dimau rhanbarthau Cymru ddylai gystadlu yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon.

Mae chwaraewyr ar bob lefel yn haeddu'r cyfle i brofi'u hunain yn erbyn y goreuon - dros yr wythnosau nesaf fe gawn ni weld faint yw'r bwlch ar y lefel uchaf un.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mi fydd hi'n frwydr galed rhwng Cymru ac Awstralia ar Hydref 8