Main content

Cast Pobol y Cwm i berfformio 'Dan y Wenallt'

Newyddion

Bydd actorion y gyfres Pobol y Cwm i’w clywed mewn cynhyrchiad o Dan y Wenallt - sef addasiad newydd T James Jones o’r ddrama radio enwog Under Milk Wood - ar BBC Radio Cymru i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas.

Darlledir y cynhyrchiad arbennig am ddeg o’r gloch fore Llun, Hydref 27ain, union gan mlynedd ers geni Dylan, ac mae’r achlysur hefyd yn rhan o ddathliadau pen-blwydd Pobol y Cwm yn ddeugain oed eleni.

Mae’r addasiad Dan y Wenallt yn ddrama am gymeriadau mewn tref ddychmygol, wedi’i chreu yn arbennig ar gyfer y lleisiau amrywiol sy'n ymddangos ynddi. Ynyr Williams, cynhyrchydd cyfres Pobol y Cwm, sydd yn gyfrifol am ddod â’r cynhyrchiad unigryw hwn at ei gilydd.

Ffion Emlyn, Dylan Hughes, Betsan Powys, T James Jones, Ynyr Williams

Meddai Ynyr: “Mae’n debyg mai Under Milk Wood oedd yr opera sebon gyntaf a ’sgrifennwyd erioed. Pan drafodwyd y syniad yn wreiddiol, fe feddyliais i - pam na fedrwn ni gael y cymeriadau clasurol hynny sydd yn Pobol y Cwm i chwarae yr un fath o rai yn Dan y Wenallt a’i darlledu ar Radio Cymru? Mae addasiad newydd Cymraeg T James Jones yn un ffantastig - ac yn un oedd angen ei roi ar gôf a chadw ar gyfer y dyfodol. Ro’n i hefyd eisiau cyhoeddusrwydd ar gyfer ein dathliadau pen-blwydd yn 40 ac ar gyfer y talentau gwych sydd gennym ni yn Pobol y Cwm.”

Eglura Ynyr bod cysylltiad arbennig rhyngddo â’r awdur - a hefyd gyda fersiwn wreiddiol yr addasiad - sydd yn dyddio’n ôl i’w ddyddiau coleg yn y saithdegau, a bod hynny wedi arwain at gyfle gwych i sicrhau bod llais T James Jones yn cael lle canolog yn y cynhyrchiad radio newydd.

“Mi es i Goleg y Drindod, Caerfyrddin ym 1977,” meddai Ynyr, “a pwy oedd yno fel darlithydd drama ond T James Jones ei hun - ac un diwrnod fe gynigiodd i mi rannau’r 'Llais 1' a 'Llais 2' yn ein cynhyrchiad coleg.

“Roeddwn i felly yn awyddus i dalu’r ffafr yn ôl a chynnwys Jim yn y cynhyrchiad newydd hwn. Wrth gwrs mi fu’n brif olygydd sgriptiau Pobol y Cwm rhwng diwedd yr wythdegau a chanol y nawdegau, sydd yn reswm da iawn i’w gynnwys ochr yn ochr â gweddill y cast. Dwi’n falch ei fod wedi cael cyfle i roi perfformiad gwych i ni gyda chefnogaeth wych yr actorion.”

Eleni mae Pobol y Cwm yn dathlu ei phenblwydd yn 40 mlwydd oed. Dros y blynyddoedd mae’r gyfres wedi diddannu cynulleidfaoedd ledled Cymru ac, i ddathlu’r garreg filltir hanesyddol hon, cafwyd cyfres o ddathliadau ar y sgrîn - ac oddi arni. Mae 24 o actorion y gyfres yn y cynhyrchiad hwn, gan gynnwys Emyr Wyn fel Capten Cat, Nia Caron fel Rosie Probert a Victoria Plucknett fel Mrs Beynon.

Nia Caron

Arwyn Davies sy’n chwarae rhan Mr Puw yn y cynhyrchiad - ond mae hefyd wedi cyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y ddrama.

Bydd nifer o raglenni arbennig eraill yn cael eu darlledu ar Radio Cymru er mwyn nodi canmlwyddiant Dylan Thomas, gan gynnwys drama wreiddiol newydd gan T James Jones, Dylan yn Fern Hill, am blentyndod y bardd a’r cyfnodau lu a dreuliodd yn ymweld ag Anti Annie ac Wncwl Jac yn Fern Hill, Sir Gaerfyrddin. Dyma gyfnodau a sbardunodd sawl cerdd ganddo dros y blynyddoedd. Y cast yw Rhodri Miles, Sharon Morgan, Ifan Huw Dafydd, Sion Ifan a Sam King, ac fe ddarlledir y ddrama brynhawn dydd Sul, Hydref 26 am 3pm.

A bydd rhaglen fyw arbennig gyda Hywel Griffiths yn Efrog Newydd, Dylan Thomas 100: Efrog Newydd yn Dathlu am 6.15pm nos Lun, Hydref 27, yn trafod y Cymry yn y ddinas ac yn cael eu barn nhw am gyfnod Dylan yno.

Rhaglen Dan Y Wenallt

Rhaglenni Dylan Thomas Radio Cymru

Blog Ynyr Williams

T James Jones - addaswr a phrif lais

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf