"Fel camu i freuddwyd"

  • Cyhoeddwyd
Gorfoledd Camp Lawn 2005
Disgrifiad o’r llun,

Gorfoledd Camp Lawn 2005

Ond doedden nhw'n ddyddiau da? Yr wythnos hon mae Gareth Charles, Gohebydd Rygbi BBC Cymru, yn camu nôl i'r gorffennol ac yn hel atgofion am Gamp Lawn Cymru ddeng mlynedd yn ôl:

Bechgyn Ruddock

I gael dyfynnu Mike Peters ar drothwy Pencampwriaeth y Chwe Gwlad "Eiliadau fel hyn sy'n aros yn fy meddwl i." Mae'n ddeng mlynedd ers i Gymru ennill eu Camp Lawn gyntaf ers dros chwarter canrif ac mae'n dal yn fyw iawn yn y cof. Doedd y disgwyliadau ddim yn uchel o flaen llaw.

Roedd Graham Henry a Steve Hansen wedi mynd a dod a Mike Ruddock wrth y llyw am ei bencampwriaeth gyntaf. Lloegr oedd y gwrthwynebwyr cyntaf a doedd Cymru ddim wedi'u curo yng Nghaerdydd ers cais enwog Ieuan Evans yn 1993.

Ond gêm Gav oedd hon - gyda Gavin Henson yn gyfrifol am gymaint o eiliadau cofiadwy - tacl bwysig ar Josh Lewsey i atal cais, codi Matthew Tait a'i rhoi yn ei boced bron iawn, ac wrth gwrs mynydd o gic gosb funudau o'r diwedd i roi buddugoliaeth nodedig o 11 i 9.

Disgrifiad o’r llun,

Dau o gymeriadau allweddol Camp Lawn 2005: Gavin Henson a'r hyfforddwr Mike Ruddock

Chwech yn yr haul

I ddilyn gêm llawn tyndra a thensiwn roedd yr ateb perffaith - taith i Rufain, ac yn yr heulwen fe ddaeth chwe chais gan gynnwys un yr un i ddau gyn-glo Pontypridd Brent Cockbain a Robert Sidoli - arwydd bod Cymru'n chwarae rygbi mentrus pymtheg dyn gyda'r blaenwyr yn barod i drafod pêl a chyfrannu gymaint i'r agweddau agored a'r agweddau tynn.

Roedd 'na gais hefyd i un arall o gyn-ffefrynnau Heol Sardis - Martyn Williams - ond wythnos yn ddiweddarach oedd ei awr fawr e!

Tensiwn

Ar yr egwyl hanner amser yn Stade de France roedd Cymru'n lwcus ond i fod ar ei hôl hi o 15 i 6 ac yn wynebu problemau pellach gyda'r capten Gareth Thomas wedi torri'i fawd.

Ond o fewn pum munud fe drowyd y gêm a'r tymor ar ei ben gydag eiliadau o athrylith gan Martyn Williams - sgoriodd ddwywaith i roi Cymru ar y blaen 18-15. Diolch i amddiffyn arwrol ac esgid Stephen Jones fe wasgodd Cymru adre 24-18. Tair mas o dair.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Martyn Williams yn helpu Cymru i gyrraedd y nod yn erbyn y Ffrancwyr

Roedd yr hyder yn llifo'n llawn ar gyfer yr ymweliad â'r trydydd o'r Gleision bythefnos wedyn. Yn Murrayfield fe chwaraeodd Cymru rygbi gwefreiddiol.

Ar yr egwyl roedden nhw ar y blaen o 38 i 3 ac erbyn y diwedd roedd 'na chwe chais gyda Ryan Jones yn sgori cais rhyngwladol prin a Kevin Morgan a Rhys Williams yn cael dau'r un. Nawr doedd dim osgoi'r gwirionedd na'r freuddwyd roedd Camp Lawn un cam i ffwrdd.

"Môr o goch"

Ac roedd deffro yng Nghaerdydd ar 19 Mawrth 2005 fel camu i freuddwyd. Awyr las, heulwen braf a strydoedd y brifddinas yn fôr o goch - gydag ambell boced o wyrdd o blith y Gwyddelod sydd wastad yn gwybod lle i fynd am barti da!

A doedd dim am sbwylio'r parti o'r eiliad tarwyd cic Ronan O'Gara lawr gan Gethin Jenkins am y cais cynta' i'r eiliad sgoriodd Kevin Morgan gais gwych ar ôl awr i goroni'r tymor.

Mae 'na ddwy Gamp Lawn a Phencampwriaeth wedi dilyn ers hynny ond yr un gynta' ar ôl cyfnod mor hesb yw'r un fwya' arbennig - er byddwn i ddim yn gwrthod rhagor o eiliadau fel hyn - gan ddechrau nos Wener nesa!

Disgrifiad o’r llun,

"Ni di ennill bois!" Rhyddhad wrth guro'r Gwyddelod i gipio'r Gamp Lawn