a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni....

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Iau.

  2. Vaughan yn barod am noson hir!

    Mae Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru yn barod am noson hir arall. 

    Fory bydd pobl yn pleidleisio ar gyfer Refferendwm Ewrop ac bydd rhaglen S4C yn dod â'r holl ganlyniadau yn fyw atoch chi.

    Dyma ddadansoddiad Vaughan Roderick o'r ymgyrchu ar y ddwy ochr. 

    Video content

    Video caption: Vaughan
  3. Cymru wedi 'gwneud eu gwaith cartref'

    Golwg 360

    Mae is-reolwr tîm pêl-droed Cymru wedi dweud eu bod nhw wedi “gwneud eu gwaith cartref” cyn wynebu eu gwrthwynebwyr yn rownd yr 16 olaf yn Ewro 2016, meddai Golwg360.

    Daeth sylwadau Osian Roberts wrth i'r tîm aros i glywed pwy fyddan nhw’n eu hwynebu ddydd Sadwrn ym Mharis.

    Bydd Cymru’n herio’r trydydd tîm gorau allan o grwpiau A, C neu D yn y Parc des Princes.

  4. Carreg filltir y podledwyr

    BBC Cymru Fyw

    Mae nhw wedi bod yn darlledu ers chwe blynedd ac rwan mae tím yr Haclediad yn dathlu eu hanner canfed podlediad.

    Daeth Sioned Mills, Bryn Salisbury ac Iestyn Lloyd at ei gilydd (nid yn llythrennol, gan eu bod mewn tair canolfan wahanol) yn 2010 i ddarlledu podeldiad am ddatblygiadau technolegol trwy gyfrwnf y Gymraeg. 

    Mae Sioned wedi sgwennu erthygl i Cymru Fyw yn trafod esblygiad y gwe-ddarllediad.

    haclediad
  5. Ymarfer ciciau o'r smotyn

    BBC Sport Wales

    Mae Cymru wedi bod yn ymarfer ciciau o'r smotyn ers cyrraedd Euro 2016, meddai'r rheolwr, Chris Coleman.

    Mae hi'n bosib i'r tîm wynebu'r sefyllfa os ydi hi'n gêm gyfartal wedi amser ychwanegol ddydd Sadwrn ym Mharis.

    Ond dywedodd Coleman hefyd ei bod yn amhosib creu'r sefyllfa o giciau o'r smotyn mewn sesiynau ymarfer.  

  6. Cefnogi Cymru o Guingamp

    Euro 2016

    Mae papur newydd yng ngorllewin Ffrainc yn adrodd bod canolfan ddiwylliannol yn Guingamp am ddangos gêm 16 olaf Cymru ddydd Sadwrn. 

    Mae Ouest-France yn lansio apêl i gefnogi tîm Chris Coleman sydd wedi "cyfathrebu mewn Llydaweg yn systematig".

    Eu gobaith nhw ydi y bydd hyn yn cael dylanwad ar glybiau Llydewig yno.  

  7. Wrecsam yn arwyddo dau chwaraewr

    Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi arwyddo dau chwaraewr newydd ar gyfer y tymor nesa'.

    View more on twitter
  8. Swyddi dan fygythiad

    BBC Cymru Fyw

    Mae Celtic Energy wedi cadarnhau bod y cwmni yn ystyried cau safle glo brig Nant Helen ger Abercraf, y mwyaf o'r tri sydd ganddyn nhw. 

    Mae 90 o swyddi o dan fygythiad a bydd cyfnod o ymgynghori ffurfiol yn dechrau’r wythnos nesa, meddai'r Prif Weithredwr, Will Watson.

    Cafodd yr undebau wybod am y cynlluniau mewn cyfarfod yn gynharach heddiw.

  9. Dadl yr Undeb Ewropeaidd

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r gwleidyddion fydd yn cymryd rhan yn nadl refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ar BBC 1 Wales heno wedi eu cyhoeddi.

    Bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, ar ran yr ochr aros, yn mynd benben gydag arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill, a'r AS Ceidwadol, David TC Davies, sydd o blaid gadael yr undeb.

    Bydd y ddadl i'w gweld yn fyw am 20:00.

  10. Ailagor yr M4 ym Mhen-y-bont

    BBC Wales News

    Mae'r M4 ym Mhen-y-bont wedi ailagor ar ôl i dân mewn lori arwain at gau dwy lôn.

    Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad rhwng cyffordd 36 a 37 yn gynnar fore Mercher.

  11. Pryderon ym Mlaenau Ffestiniog

    BBC Cymru Fyw

    Mae pryderon ym Mlaenau Ffestiniog wedi i fanc yr HSBC gyhoeddi eu bwriad i gau'r gangen yno, gan adael y dref heb yr un sefydliad bancio.

    Yn ôl dwy sy'n gynghorwyr sir yn yr ardal, Mandy Williams-Davies a Annwen Daniels, fuodd yna ddim ymgynghoriad am y sefyllfa gyda busenesau lleol cyn y cyhoeddiad ddydd Llun.

    Mae HSBC yn dweud eu bod nhw nhw'n cydweithio â phartneriaid fel Swyddfa'r Post er mwyn sicrhau y bydd cwsmeriaid yn dal i allu bancio o ddydd i ddydd.  

  12. Newyddion da gan Chris Coleman

    Euro 2016

    Mae Chris Coleman wedi bod yn siarad mewn cynhadledd i'r wasg yn edrych ymlaen i gêm nesaf Cymru yn Euro 2016.

    Bydd Cymru yn chwarae naill ai Gogledd Iwerddon neu Dwrci brynhawn Sadwrn am 17:00.

    View more on twitter
  13. Academi Abertawe ymhlith y goreuon

    Swansea City

    Mae clwb pêl-droed Abertawe wedi trydar bod eu academi ar gyfer hyfforddi chwaraewyr ifanc wedi cael ei dynodi yn y categori cyntaf.

    Mae hynny yn golygu bod y gwaith sy'n cael ei wneud yno yn cael ei gydnabod ymhlith goreuon y gamp yn y DU.

  14. Newydd dorri: Dyn yn euog o lofruddio

    BBC Cymru Fyw

    Mae rheithgor wedi cael dyn yn euog o lofruddio ei landlord yn Abertawe mewn ymosodiad yr haf diwethaf.

    Fe wnaeth David Craig Ellis, 41, ladd Alec Warburton, 59, gyda morthwyl mewn tŷ yn ardal Sgeti o'r ddinas fis Gorffennaf.

    Roedd wedi cyfaddfef dynladdiad ond yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.  

  15. Jade i Rio

    BBC Sport Wales

    Mae’r bencampwraig Olympaidd Taekwando Jade Jones o Lannau Dyfrdwy  wedi ei chynnwys yn nhîm Prydain ar gyfer y gemau Olympaidd yn Rio

    Fe wnaeth Jones ennill y fedal aur yn Llundain bedair blynedd yn ôl yn y dosbarth 57 kg.   

    Jade Jones
  16. BMA am ymestyn polisi organau Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cymdeithas Feddygol y BMA yn galw am ymestyn y drefn o roi organau sydd wedi ei chyflwyno yng Nghymru i weddill y Deyrnas Unedig. 

    Ers mis Rhagfyr y llynedd, oni bai fod rhywun yn nodi eu bod am eu heithrio o'r drefn, mae eu horganau ar gael i'w defnyddio. 

    Yn eu cynhadledd yn Belfast mae'r BMA wedi galw am ymestyn y drefn i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  

  17. Cofnodi llwyddiant Euro 2016

    Euro 2016

    Mae Cadw wedi cyhoeddi y bydd yna fynediad am ddim i sefydliadau yng Nghymru ar ddydd Sul 26 Mehefin er mwyn cofnodi llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn Euro 2016.

    Ddydd Llun fe wnaeth Cymru guro Rwsia 3-0 gan sicrhau lle yn y 16 olaf yn y gystadleuaeth.   

    Dathliadau
  18. Glaw yn lledaenu

    Tywydd, BBC Cymru

    Yn parhau yn sych yn y gogledd ond mae'n debyg y bydd cawodydd trymion yn lledaenu ar draws ardaloedd dwyreiniol a'r de. Rhagor o wybodaeth ar wefan dywydd y BBC. 

  19. 11,000 yn ardal y cefnogwyr

    ITV Cymru

    Mae dros 11,000 o bobl wedi ymweld ag ardal y cefnogwyr Caerdydd i wylio Cymru yn Euro 2016. 

    Yn ôl ITV Cymru fe ddaeth 3,000 o gefnogwyr i wylio'r gêm yn erbyn Lloegr, er y tywydd garw.

  20. Ailenwi'r Cynulliad?

    BBC Wales News

    Fe all y Cynulliad gael ei ailenwi yn Senedd cyn i Aelodau Cynulliad gael yr hawl cyfreithiol i wneud y newid.

    Mae'r hawl i wneud hynny ymysg y pwerau fydd yn cael eu datganoli yn rhan o Fesur Cymru sy'n mynd trwy'r Senedd yn San Steffan ar hyn o bryd.

    Ond mae Jane Hutt, prif chwip Llafur yn y Cynulliad, eisiau i'r enw Senedd Cymru gael ei fabwysiadu cyn gynted ag sy'n bosib, gan ei ddefnyddio yn answyddogol cyn y newid ffurfiol. 

    Mae cartref y Cynulliad ym Mae Caerdydd eisoes yn cael ei alw yn Senedd.