a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.

  2. Blog cyntaf Geordan am ddysgu Cymraeg

    Mae Americanes a gafodd gryn sylw ar ôl rhoi fideo o'i hun yn siarad Cymraeg ar y we wedi sgrifennu ei blog cyntaf am am y profiad o ddysgu'r iaith.

    Mae Geordan Burress yn egluro pam ei bod wedi dechrau dysgu'r iaith a pham ei bod wedi gafael ynddi. 

    Fe gafodd BBC Cymru Fyw sgwrs efo hi yn gynharach eleni hefyd.

    Geordan Burres
    Image caption: Doedd ei theulu a'i ffrindiau ddim yn gwybod bod Geordan Burres yn siarad Cymraeg pan roddodd fideo ar y we
  3. Pum ar eu ffordd i Rio

    BBC Sport

    Bydd pum seiclwr o Gymru yn nhîm Prydain yn Y Gemau Olympaidd yn Rio ym mis Awst.

    Bydd Geraint Thomas yn cystadlu ar y ffordd a bydd Owain Doull, Elinor Barker, Becky James a Ciara Horne ar y trac.

    Geraint Thomas
  4. Gwobr ryngwladol i actores o Gymru

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Gymraes Catrin Stewart wedi ennill y wobr am y perfformiad gorau yn Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin em ei rhan yn y ffilm Y Llyfrgell.

    Mae'r ffilm Gymraeg, sydd wedi ei lleoli yn y Llyfrgell Genedlaethol, wedi ei seilio ar nofel Fflur Dafydd o’r un enw ac wedi ei chyfarwyddo gan Euros Lyn.

    Catrin Steward mewn golygfa o Y Llyfrgell
  5. Llai trymaidd heno

    Tywydd, BBC Cymru

    "Heno bydd y cawodydd yn clirio'n raddol, gan wneud iddi deimlo'n llai trymaidd," meddai Llyr Griffiths-Davies. 

    "Dros nos fe fydd hi'n gymylog i'r mwyafrif, gyda'r tymheredd ar ei isaf yn rhyw 12C." 

    Am ragolygon y pum diwrnod nesaf ewch i'r wefan dywydd.

  6. Cyfle i holi Malcs

    Facebook

    Bydd y sylwebydd a'r cyn bêl-droediwr Malcolm Allen yn ateb cwestiynau yn fyw o Ffrainc ar dudalen Facebook Cymru Fyw heno am 18:00.

    Bydd yn ymuno gyda'n gohebydd Rhodri Tomos o do eu gwesty ym Mharis.

    Malcolm Allen
  7. Cefnogaeth i Corbyn

    Refferendwm UE

    Mae 12 o arweinwyr undebau llafur wedi llofnodi llythyr yn cefnogi'r arweinydd Llafur Jeremy Corbyn.

    Mae'r rhestr yn cynnwys Len McCluskey, Unite, David Prentis, Unsain a Tim Roache o GMB. 

    Daw hyn ar ôl i ddau o aelodau seneddol wneud cais i herio Mr Corbyn, gan ei feirniadu o ddiffyg arweinyddiaeth yn ystod ymgyrch y refferendwm.  

  8. Cerdd bardd y mis Radio Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Mae bardd y mis Radio Cymru, Hywel Griffiths, wedi ysgrifennu cerdd i Cymru Fyw yn dilyn canlyniad y refferendwm.Cafodd y gyntaf ei chyhoeddi neithiwr wrth i'r pleidleisiau gael eu cyfrif ac mae i'w chlywed yma.

    Ym Mhontblyddyn a Blaenau,

    Penrhiwllan a PhontlliwYng Nghaerdydd a Chaernarfon,Cwm Rheidol a Rhiw

    lle mae'n anodd adnabodpwy sy'n elyn, yn ffrind,a chyfandir o wahaniaethrhwng gadael a mynd 

    daeth y cyfri i ben.Rhaid gadael, mi wn,ac mor oer ydi heulwenY Mehefin hwn.

    hywel
  9. Kinnock yn cefnogi'r cynnig

    BBC Cymru Fyw

    Mae Aelod Seneddol Llafur Aberafan wedi dweud ei fod yn cefnogi'r cynnig o ddiffyg hyder yn arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn. 

    Dywedodd Stephen Kinnock bod yr arweinyddiaeth Llafur wedi dangos "ddiffyg brwdfrydedd" yn ymgyrch y refferendwm a'i fod angen cael ei ddal i gyfrif am y canlyniad.  

    kinnock
  10. Schulz eisiau cyfylmu'r broses o adael

    Refferendwm UE

    Yn ôl y Guardian fe fydd yr Undeb Ewropeaidd eisiau i Brydain adael yr Undeb mor fuan â phosib. 

    Mae Martin Schulz, pennaeth y Senedd Ewropeaidd, wedi dweud wrth gyfreithwyr am gyflymu'r broses.

    "Ansicrwydd yw'r peth olaf sydd ei angen," meddai Mr Schulz..

    Ers i'r canlyniad gael ei gyhoeddi mae David Cameron a Boris Johnson wedi awgrymu nad oes brys i adael, a byddai'n well i drafodaethau ddechrau ar ôl i'r Ceidwadwyr benodi arweinydd newydd. 

  11. Apêl wedi lladrad

    Heddlu Gwent

    Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad arfog yng Nghasnewydd.

    Fe ddigwyddodd y lladrad ar siop fetio Betfred ar Ffordd Caerllion tua 21:20 ar 18 Mehefin. 

    Maen nhw'n awyddus i holi dyn gwyn rhwng 5' 9" a 5'11" ac o bosib yn ei 40au.  

    Camera cylch cyfyng
    Image caption: Mae'r heddlu yn awyddus i holi'r dyn yma
  12. Ymateb i ganlyniad y refferendwm

    BBC Radio Cymru

    Mae gan Radio Cymru grynodeb o ymatebion gwahanol i ganlyniad y refferendwm ar eu gwefan.

    Yno mae cyfweliadau gydag Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, Eurfyl ap Gwilym o Blaid Cymru a barn yr ifanc.

  13. Diwedd streic staff Amgueddfa Cymru

    BBC Cymru Fyw

    Mae streic staff Amgueddfa Cymru ynglŷn ag amodau gwaith ar ben, wedi i'r gweithwyr bleidleisio o blaid cynnig newydd.

    Ers 28 Ebrill mae'r gweithwyr wedi cynnal cyfres o streiciau mewn protest yn erbyn cynlluniau i newid y taliadau ar gyfer gweithio penwythnosau. 

    Fe wnaeth 78% bleidleisio o blaid cynnig newydd gan Amgueddfa Cymru, oedd yn cynnwys iawndal gwerth 5 mlynedd o lwfans, er mwyn dod â'r taliadau premiwm i ben.   

    streic ar ben
  14. Rhaid i Gymru 'roi popeth'

    Euro 2016

    Mae Chris Coleman ac Ashley Williams yn siarad gyda'r wasg am her gêm Cymru yn erbyn Gogledd Iwerddion ym mhencampwriaeth Euro 2016 fory. 

    Dywedodd Coleman fod rhaid iddyn nhw "roi popeth" er mwyn ennill y gêm.

  15. Gwadu symud swyddi

    The Independent

    Mae banc Morgan Stanley wedi gwadu dechrau'r broses o symud 2,000 o swyddi o Lundain i Ddulyn a Frankfurt yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai'r Independent.

    Yn ôl ffynonellau'r BBC, mae'r broses eisoes wedi dechrau.

  16. Gwrthod cynnig am Allen

    Mae BBC Wales Sport yn dweud bod Lerpwl wedi gwrthod cynnig o £8m gan Abertawe am eu chwaraewr ganol cae, y Cymro, Joe Allen.

    View more on twitter
  17. Cymru Fyw yn y Parc des Princes

    Ymysg cynnwrf gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hawdd anghofio bod Cymru'n chwarae yn rownd yr 16 olaf yn erbyn Gogledd Iwerddon yfory.

    Ond mae Gohebydd Cymru Fyw, Rhodri Tomos, wedi cyrraedd y Parc des Princes ym Mharis yn barod!

    View more on twitter
  18. Ai diwedd y gân yw'r geiniog?

    Sarah Dickins

    Gohebydd BBC Cymru

    Mae Gohebydd Economeg  BBC Cymru, Sarah Dickins, wedi ysgrifennu darn ar oblygiadau'r penderfyniad i adael ar economi Cymru

    Mae hi'n ystyried y posibiliadau ynghylch yr arian mae Cymru'n dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd.

  19. Boris yw ffefryn y bwcis

    Taro'r Post

    BBC Radio Cymru

    Ar raglen  Taro'r Post mae Alun Thomas wedi bod  yn rhoi'r ods betio diweddara i Garry Owen  ynglŷn a phwy fydd arweinydd newydd y Ceidwadwyr a'r Prif Weinidog nesa.

    Boris Johnson yw'r ffefryn ar 4-5, mae Theresa May yn 3-1 a Michael Gove yn 5-1.