a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

  1. Loncian i Lille!

    'Da ni wedi rhedeg i Baris, ond rŵan mae hi'n amser i loncian i Lille!

    Hwyl i chi.

    View more on twitter
  2. Unrhyw un ffansi yr wyth olaf?

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd Cymru nawr yn mynd ymlaen i chwarae yn erbyn Hwngari neu Wlad Belg yn Lille nos Wener. 

    Fyddwch chi yno?

    Mi fydda ni, ac fe fydd y cyfeillion o Fryncoch United hefyd!

    Bale Jonny Gunter
  3. Post update

    Wali Tomos

    Anghofish ddeud - dwi'n meddwl fod 'y Dadwisgo Difeidus' wedi'u hysbfydoli nhw heddiw!!!!! ha!

  4. Coleman: 'Cymru ddim ar eu gorau'

    BBC Cymru Fyw

    Ar ôl y gêm, dywedodd Chris Coleman mae nid dyma berfformiad gora Cymru yn y gystadleuaeth, ond fod ei dim wedi dangos calon ac angerdd wrth chwarae, dywedodd hefyd fod Gogledd Iwerddon yn chwarae yn well na Chymru ar brydiau, ond ei fod yn hapus dros ben fod Cymru yn camu 'mlaen i rownd yr wyth ola'.

  5. Post update

    Wali Tomos

    Dacia! Fideo afall fwan!!!! Mi fydd Gel wfth ei fodd!!!!! O! a finna!!!!!!  Welai chi nos Wenaf.

  6. Y dathlu ym Mharis!

    BBC Cymru Fyw

    Video content

    Video caption: Dathlu ym Mharis
  7. PACIWCH EICH BAGIAU!!!!!

    SGÔR TERFYNOL- CYMRU 1-0 GOGLEDD IWERDDON

    Euro 2016

    MAE CYMRU YN Y CHWARTERI!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!

  8. 30 eiliad...

    BBC Cymru Fyw

    Unwaith eto mae'r heniaith yn atseinio yn y stadiwm!

  9. Pedwar munud o artaith!!!

    Cic Rydd

    Gyda phedwar munud o amser ychwanegol, mae Cymru yn ennill cic rydd, ydi hi o fewn cyrraedd y dewin?

  10. ... tan y diwedd!

    Yn amlwg, mae tîm hyfforddi Cymru yn awyddus i dynnu’r capten, Ashley Williams oddi ar y cae yn dilyn yr ergyd, ond mae'n gwrthod dod i ffwrdd gan fynnu ei fod yn iawn i chwarae - ARWR!

    ashley
  11. Eilydd i Ogledd Iwerddon

    Eilyddio

    Y sgoriwr Gareth McAuley wedi gadael y cae a Josh Magennis yn dod ymlaen.

  12. Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon

    Ac mae'r ddau yn ôl ar eu traed, ac mae'r gêm yn parhau...

  13. Post update

    Wali Tomos

    Fudish i y basa Gaf yn sgofio 'ndo!!!!!

  14. Post update

    Wali Tomos

    O mam bach!!! Cfoesiad gin Gafeth a Gafeth yn sgofio!!!!!

  15. O na!

    Joniesta ac Ashley Williams yn taro yn erbyn eu gilydd yn frwnt - Mae'r ddau yn gorwedd ar y cae, a thîm meddygol Cymru yn ymwneud a nhw. Roedd y gleg i'w theimlo yng Nghaerdydd hogia bach!

  16. Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon

    Dim ond 10 munud o'r chwarae ar ôl, mae angen i Gymru gadw meddiant llwyr o'r bel er mwyn cymhwyso i rownd yr wyth ola'.

  17. Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon

    Mae Parc y Tywysogion wedi deffro, a'r Cymry yn bloeddio wrth i'r genedl ddathlu fod hogia Coleman ar y blaen!

    Mcauley
  18. GÔÔÔÔÔÔÔÔLLL!!!!!!

    Bale yn croesi'r bel o'r asgell chwith i gyfeiriad Robson-Kanu, ond Gareth McAuley yn rhoi'r bel yng nghefn rhwyd ei hun!

    gol