Mae'r llif byw wedi dod i ben am y dyddwedi ei gyhoeddi 18:00 Amser Safonol Greenwich+1 27 Mehefin 2016
BBC Cymru Fyw
A dyna ni am heddiw - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd, ond fe fydd yn ôl yfory am 08:00.
BBC Cymru Fyw
A dyna ni am heddiw - mae'r llif byw wedi dod i ben am y dydd, ond fe fydd yn ôl yfory am 08:00.
BBC Wales News
Gallai nifer fawr o bobl ifanc gael problemau gyda'u dannedd a mynd yn ordew am eu bod yn yfed diodydd egni neu ddiodydd chwaraeon yn rheolaidd, medd arbenigwyr deintyddol.
Mae'r gwaith ymchwil ar ran Prifysgol Caerdydd yn awgrymu fod 89% o bobl ifanc rhwng 12 ac 14 oed yn yfed y diodydd, sydd â lefelau uchel o siwgr.
Yn ôl ymchwilwyr, dyw nifer o rieni a phlant ddim yn sylweddoli nad yw'r diodydd yn addas i blant.
Cyngor Caerdydd
Mae Cyngor Dinas Caerdydd wedi rhyddhau datganiad trawsbleidiol yn dilyn canlyniad y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr UE. Pleidleisiodd ardal Caerdydd dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Meddai'r datganiad: "Mae'r Cyngor hwn - a'i bartneriaid - yn gwbl ymrwymedig i adeiladu ar hanes Caerdydd fel dinas ryngwladol. Dinas sydd wedi croesawu pobl o Gymru benbaladr a phedwar ban byd. Dinas lloches.
"Mae ein croeso'n cyfleu yr hyn yr ydym ni fel dinas. O ganlyniad dyma un o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus a mwyaf cosmopolitan y DU. Rydym yn ymrwymedig i adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y dyfodol. Mae'n hanfodol bod pawb yn cydnabod y cryfder sy'n deillio o'n hamrywiaeth a'r rôl sydd ganddo wrth wneud y ddinas hon yn ddinas wych."
BBC Cymru Fyw
Mae dyn 39 oed wedi ymddangos yn y llys i wadu ceisio cipio merch 10 oed ger Caernarfon ym mis Mai.
Mae Steven James Hickling, oedd yn arfer byw ym Mhrestatyn ond sydd nawr heb gyfeiriad sefydlog, wedi'i gyhuddo o geisio cipio'r ferch yn Neiniolen.
Plediodd yn ddieuog i'r cyhuddiad yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Llywodraeth Cymru
Mae'r Frenhines wedi cymeradwyo penodiad Mick Antoniw AC yn brif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru.
Mae hyn yn dilyn argymhelliad Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones a chymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol ar ddydd Mawrth 21 Mehefin.
Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn darparu cyngor cyfreithiol i Lywodraeth Cymru a’i chynrychioli mewn achosion cyfreithiol.
BBC Cymru Fyw
Mae'r cyntaf o chwe loc i gael eu hadfer gan wirfoddolwyr ar ddarn o hen gamlas yng Nghwmbrân yn gwbl weithredol am y tro cyntaf mewn bron i 100 mlynedd.
Mae Brake Lock Isaf, ar adran Tŷ Coch o Gamlas Mynwy ac Aberhonddu, wedi ei adfer fel rhan o Brosiect Gwaith Dŵr sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Dechreuodd y gwaith adfer yn 2012 ac mae gwirfoddolwyr wedi mynd ati i wneud y rhan fwyaf o'r gwaith - gan ddatblygu eu sgiliau treftadaeth mewn gwaith cerrig a gwaith saer fydd yn eu helpu i gael swyddi yn y pen draw meddai'r trefnwyr.
Theatr Genedlaethol Cymru
Mae Lowri Haf Cooke wedi bod i weld y ddrama 'Nansi' gan y Theatr Genedlaethol, dolen allanol, sydd ar daith o gwmpas Cymru ar hyn o bryd. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn Llanfair Caereinion, yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Meifod y llynedd.
Meddai am y cynhyrchiad: "...unwaith eto, fe’m cyfareddwyd gan gynhyrchiad theatr Nansi, am fywyd cynnar ‘Telynores Maldwyn’, Nansi Richards."
BBC Cymru Fyw
Bydd camerâu fideo'n cael eu gwisgo gan holl swyddogion Heddlu'r Gogledd ar ddyletswydd yn y dyfodol, yn dilyn buddsoddiad o £163,000 i brynu dros 300 yn ychwanegol o'r teclynau.
Mae 120 o'r camerâu yn cael eu defnyddio'n barod gan y llu, ac fe ddywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Arfon Jones, heddiw fod defnyddio'r camerâu fideo yn cryfhau'r dystiolaeth yn erbyn unrhyw ddrwgweithredwyr, ac o gymorth wrth gasglu tystiolaeth.
Cafodd y camerâu eu defnyddio gan heddweision y llu am y tro cyntaf y llynedd.
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi y bydd ardal gefnogwyr yn cael ei sefydlu ym Mhontypridd ddydd Gwener er mwyn dangos y gêm rhwng Cymru a Gwlad Belg.
Bydd modd i 3,000 o gefnogwyr wylio'r gêm yn yr ardal gefnogwyr ym Mharc Coffa Ynysangharad yn y dref.
Cynhaliwyd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Môn yng Nghaergybi ddydd Sadwrn, ac yn ei anerchiad fe gofiodd Geraint Llifon, yr Archdderwydd newydd, am gyfraniad merched i fywyd y genedl ac i fyd llenyddiaeth, yn ôl gwefan Y Cymro, dolen allanol.
Mae oriel luniau o'r Ŵyl Gyhoeddi ar wefan Cylchgrawn Cymru Fyw.
Yr Archdderwydd Christine yn trosglwyddo'r awennau i Geraint Llifon
BBC Cymru Fyw
Mae David Cameron wedi bod yn ateb cwestiynau aelodau seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin am y camau nesaf yn dilyn y bleidlais o blaid gadael yr UE.
Dywedodd wrth ASau y byddai unrhyw baratoadau am drafodaethau i adael yr Undeb yn cynnwys llywodraethau datganoledig y DU.
Daily Post
Bydd ardal gefnogwyr yn cael ei sefydlu ym Môn ar gyfer yr ornest fawr rhwng Cymru a Gwlad Belg nos Wener.
Fe fydd y gêm yn cael ei dangos ar sgrîn fawr ar faes Sioe Mona, ac mae disgwyl i gannoedd fod yno yn cefnogi carfan Chris Coleman ar y noson yn ôl y Daily Post., dolen allanol
Dyma fydd yr ardal gefnogwyr swyddogol gyntaf yn y gogledd, lle mae cefnogwyr wedi bod yn dathlu llwyddiant Cymru ar strydoedd nifer o drefi'r ardal.
Dathliadau diweddar yng Nghaernarfon
BBC Cymru Fyw
Mae prif weinidog Cymru Carwyn Jones newydd ryddhau datganiad yn dilyn cyfarfod o gabinet Llywodraeth Cymru'n gynharach heddiw, ac mewn ymateb i'r bleidlais dros adael yr UE.
Dywedodd Mr Jones mai'r flaenoriaeth oedd derbyn sicrwydd am bron i hanner biliwn o bunoedd o arian o Ewrop sydd yn cael ei dderbyn gan Gymru'n flynyddol, gan ddweud ei fod wedi ysgrifennu at David Cameron yn gofyn os oedd yr arian yma wedi ei ddiogelu yn dilyn canlyniad y bleidlais.
Dywedodd hefyd y byddai unrhyw gytundeb ar adael yr UE yn gorfod derbyn sêl bendith y seneddau a chynulliadau datganoledig yn gyntaf, er na fyddai hyn yn golygu ail-edrych ar ganlyniad y refferendwm.
Wales Online
Mae cwmni Google wedi cyhoeddi map yn dangos y pynciau mwyaf poblogaidd, dolen allanol i bobl chwilio amdanyn nhw ar eu gwefan cyn y refferendwm ar yr UE.
Mae'n ymddangos mai mewnfudo oedd y pwnc mwyaf poblogaidd yn rhai ardaloedd o'r canolbarth, gyda'r Gwasanaeth Iechyd a ffawd Prydeinwyr sy'n byw dramor hefyd yn boblogaidd mewn ardaloedd eraill, meddai WalesOnline.
Golwg 360
Does neb yn gallu sicrhau y bydd Cymru’n cael “siâr o’r gacen” yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Guto Harri ar wefan Golwg 360, dolen allanol.
Heddlu Gogledd Cymru
Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am wybodaeth wedi i yrrwr fan farw yn Sir Ddinbych ddydd Sul.
Roedd yn gyrru fan Ford Transit yn Y Rhyl pan fu mewn gwrthdrawiad ar Heol Hardy ychydig cyn 09:00.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymchwilio i'r digwyddiad.
The Guardian
Mae sawl un wedi cwestiynu a oedd Cymru'n ddoeth i bleidleisio dros adael yr UE er mai hi yw'r genedl sy'n elwa' fwya' o arian Ewropeaidd o holl wledydd y DU.
Mewn erthygl ar wefan y Guardian, mae'r arbenigwr gwleidyddol yr Athro Richard Wyn Jones yn holi a oes mwy iddi na hynny, dolen allanol?
Meddai: "Yn hytrach na digaloni a chasáu pethau, fe ddylai'r Cymry bleidleisiodd o blaid aros ddechrau adeiladu, cyfathrebu a chynnig gweledigaeth wahanol o wleidyddiaeth ble mae sefydliadau datganoledig ac arweinwyr yn dod yn rhan o wleidyddiaeth obeithiol."
Daily Post
Mae'r Daily Post yn dweud bod rhai yn ceisio elwa o lwyddiant Cymru yn cyrraedd wyth ola' Euro 2016 drwy werthu tocynnau i'r gêm yn erbyn Gwlad Belg nos Wener am grocbris, dolen allanol.
Yn ôl y wefan, mae pâr o docynnau gwerth £37.50 yr un yn cael eu gwerthu am bron i £150,000.
BBC Cymru Fyw
Mae cwest wedi clywed fod claf dementia 88 oed wedi marw ar ôl disgyn a tharo'i ben yn dilyn digwyddiad gyda chlaf arall ar ward seicolegol.
Roedd Gwilym Lumley, oedd yn cael ei adnabod fel Ivor, wedi'i gadw dan y ddeddf iechyd meddwl a bu'n cael gofal yn Uned Heddfan yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Clywodd y cwest yn Rhuthun bod Mr Lumley yn gallu bod yn ymosodol ar adegau oherwydd ei salwch.
Tywydd, BBC Cymru
Pnawn sych i’r mwyafrif, gydag ambell gawod yn bosib yn y gogledd. Bydd cyfnodau heulog hefyd gyda thipyn o awel ar hyd glannau’r gorllewin. Y tymheredd ucha’ yn rhyw 20C.
Am fanylion llawn y tywydd yn eich ardal chi, ewch i wefan dywydd y BBC.