a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Merci et au revoir!

    BBC Cymru Fyw

    Er i Gymru fethu a gwneud yr un cam olaf, mae'n rhaid diolch i Chris Coleman, Osian Roberts, eu tîm, a'r holl gefnogwyr sydd wedi bod yn cynrychioli'r wlad ar lwyfan y byd dros yr wythnosau diwethaf. 

    Pwy fysa'n meddwl bedair mlynedd yn ol y buasai Cymru'n cyrraedd rownd gyn derfynol un o gystadlaethau chwaraeon mwya’r byd? 

    Mae'r garfan wedi llwyddo i gydio yng nghalon a dychymyg cenedl, ac er fod y freuddwyd ar ben am rŵan, mae'r tîm wedi hoelio'u lle yn y llyfrau hanes.

    ffans
  2. 'Cefnogwyr wedi bod yn anhygoel'

    BBC Cymru Fyw

    John Hartson: "Mae cefnogwyr Cymru wedi bod yn anhygoel.

    "Mae pawb dros y byd yn siarad am pa mor dda mae'r chwaraewyr wedi gwneud.

    "Ond y cefnogwyr, dydyn nhw heb stopio, a dim trwbwl o gwbl, gwych gan bob un ohonyn nhw."

    Coleman
  3. Bale: 'Rhaid bod yn falch'

    BBC Cymru Fyw

    Gareth Bale: "Siomedig iawn, ond rhaid bod yn falch o'n hunain.

    "Rydyn ni wedi cyflawni llawer iawn fel grŵp, ond yn y pen draw, siomedig.

    Ychwanegodd: "Y cefnogwyr yw'r gorau yn y byd o bell ffordd, yn dal i ganu pan oedden ni'n colli."

    Bale
  4. Gair rhwng y Galacticos

    BBC Cymru Fyw

    Bale a Ronaldo
  5. Post update

    Wali Tomos

    Wel, ma'f daith wedi dod i ben, ond wyddoch chi be' hogia, ma' hi wedi bod yn gythfal o feid!!!!!!!!!!!!! Da bo.

  6. A dyna ni...

    Euro 2016

    Mae taith Cymru yn Euro 2016 drosodd.

    Portiwgal yn ennill o 2-0 yn y rownd gyn derfynol.

    bale
  7. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cic Rydd

    Cic rydd i Portiwgal, wedi i Joe Allen, daclo Quaresma yn galed.

  8. Portiwgal 2-0 Cymru

    Fe fydd o leiaf tri munud o amser ychwanegol.

  9. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cerdyn Melyn

    Cerdyn melyn i Gareth Bale am fynd i mewn i dacl gyda'i goes yn uchel.

    Bale
  10. Portiwgal 2-0 Cymru

    Eilyddio

    Ricardo Quaresma ymlaen yn lle Luis Nani.

  11. Portiwgal 2-0 Cymru

    Dim y tro hwn, ond mae Cymru'n bendant yn codi eu gêm.

    Mae pawb yn ymosod!

    Bale
  12. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cic Rydd

    Tacl galed ar Bale, cic rydd, ai dyma'r cyfle???

  13. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cymru yn ceisio codi tempo, wrth i ergydion ddechrau cyrraedd cwrt cosbi Portiwgal, oes 'na ddigon o amser?

    Ergyd wych gan Bale o 30 llath ond arbediad campus gan Rui Patricio.

  14. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cymru yn gwasgu a phwyso, ceisio gwneud yn fawr o bob cyfle.

  15. Portiwgal 2-0 Cymru

    Eilyddio

    Joao Moutinho ymlaen yn lle Adrien Silva gyda ychydig dros 10 munud yn weddill.

  16. Portiwgal 2-0 Cymru

    Eilyddio

    Andre Gomes o glwb Valencia ymlaen yn lle Renato Sanches i Portiwgal.

    Rentao Sanches
  17. Portiwgal 2-0 Cymru

    Cerdyn Melyn

    Y dyfarnwr yn dangos y cerdyn melyn i Bruno Alves, wrth iddo wneud niwsans  o'i hun.

    Yna Cristiano yn cael cerdyn melyn hefyd am dacl ar Jonathan Williams.