a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro!

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni! Y llif byw wedi dod i ben ar ddiwrnod cynta' Eisteddfod Genedlaethol 2016.

    Ymunwch efo ni yfory am 10:00 am y diweddara' o holl ddigwyddiadau'r Maes.

    Diolch am ddilyn - hwyl!

  2. I mewn i'r gôl

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mewn ymgais i osgoi problemau'r dyddiau diwetha' efallai, mae 'na ddarpariaeth dysgu plant i chwarae pêl-droed ar y Maes eleni. Ymlaen at Gwpan y Byd!

    peldroed
  3. Ydw i'n edrych yn dew-in y wisg yma?

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Dewin ar y Maes
  4. Llwyfan y Maes

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae llwyfan y Maes wedi bod yn brysur yn barod yn y Fenni, gydag Olion Byw ymhlith y rhai sydd wedi bod yn diddanu gyda'u set gwerin.

    Olion Byw
  5. Y maes yn llawn lliw

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae llwyfan y pafiliwn yn llenwi gyda lliw ar y dydd Sadwrn cyntaf wrth i'r grwpiau dawns gystadlu. Un o'r grwpiau oedd wrthi heddiw oedd y Rhyfelwyr Llwythol, sy'n rhan o grŵp Byd Dawns Môn.

    Rhyfelwyr Llwythol
    Image caption: Eurgain, Haf a Catrin o'r Rhyfelwyr Llwythol
  6. Cofio Gwyn Thomas

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn y Babell Lên prynhawn 'ma roedd cydweithwyr a chyfeillion Gwyn Thomas wedi dod ynghyd i gofio amdano.

    Y newyddiadurwr, Dylan Iorwerth, oedd yn cadeirio gyda Karen Owen, Jason Walford Davies, Gerwyn Wiliams a Gruffydd Aled Williams yn cyfrannu.

    Cafodd y sesiwn ei recordio ar gyfer rhaglen ‘Dan yr Wyneb’ Radio Cymru gyda rhai yn cofio amdano ar dap.

    Dywedodd Gruffydd Aled Williams ei fod yn “fardd dwys yn y bôn”.  

    DI
  7. Lluniau'r dydd o'r Steddfod

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    I weld rai o uchafbwyntiau diwrnod cyntaf Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau, ewch i oriel luniau y dydd ar Cymru Fyw.

    Ci
    Image caption: Mae Banjo'r labradoodle wedi dod i'r Maes gyda'i berchennog Kerry Jones i lon-gyfarth y buddugwyr
  8. Canlyniadau'r diwrnod cyntaf

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    I weld holl ganlyniadau dydd Sadwrn 30 Gorffennaf a chlipiau o'r cystadlaethau o'r Steddfod, cliciwch yma.

  9. Ffarwel i'r Pafiliwn Pinc

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Maes eleni yn edrych yn dra gwahanol i'r blynyddoedd diwethaf, wrth i bafiliwn newydd gymryd lle y Pafiliwn Pinc.

    Bydd y profiad a geir yn y pafiliwn 'Evolution', sy'n cael ei ddarparu gan gwmni Neptunus, yn gwbl wahanol i'r hyn a gafwyd yn y babell fawr binc dros y blynyddoedd diwethaf meddai trefnwyr yr Eisteddfod.

    Golygfa gyfarwydd i eisteddfodwyr dros y ddegawd ddiwethaf
    Image caption: Golygfa gyfarwydd i eisteddfodwyr dros y ddegawd ddiwethaf
  10. Huw Edwards a Will Gompertz

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae golygydd celfyddydol y BBC, Will Gompertz, yn cyflwyno rhaglen deledu yn Saesneg am yr Eisteddfod eleni. Mae'n siŵr bod ganddo gant o mil o gwestiynau ar gyfer Huw Edwards ar y maes heddiw!

    Huw Edwards a Will Gompertz
  11. Gwneud y pethau bychain

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd y cerddor Jaffro yn perfformio wrth fws #PechauBychain ar faes y Steddfod. #PethauBychain yw ymgyrch Llywodraeth Cymru i rannu a hyrwyddo syniadau syml i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein bywydau bob dydd.

    Jaffro
  12. 'Adfywiad yn Sir Fynwy'

    BBC Cymru Fyw

    Mae Frank Olding wedi bod yn siarad â Cymru Fyw am yr heriau sydd ynghlwm â bod yn gadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod eleni.

    Dyw'r Eisteddfod Genedlaethol heb fod yn Sir Fynwy ers 1913, ac roedd Mr Olding yn cydnabod nad oedd y gwaith yn hawdd ond ei fod wedi dod â mwynhad aruthrol iddo.

    Frank Olding
    Image caption: Frank Olding
  13. Joe Ledley - ti'n fy ngwneud i'n hapus!

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae un o'r darnau o waith celf sy'n addurno maes y Steddfod eleni yn cyfeirio at un o ganeuon mwya' poblogaidd ffans pêl-droed Cymru yn ystod Euro 2016 - 'Ain't nobody like Joe Ledley, makes me happy, makes me feel this way'!

    Joe Ledley
  14. Rownd derfynol Y Talwrn

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn y Babell Lên ar hyn o bryd mae rownd derfynol Y Talwrn yn cael ei recordio rhwng tîm Aberhafren a thîm Ffoaduriaid Caerdydd.

    Os na fedrwch chi fod yna, mae'r rhaglen yn cael ei darlledu'n fyw ar dudalen Facebook BBC Radio Cymru.

    Y Meuryn yn trafod gyda'r Ffoaduriaid cyn recordio'r rhaglen
    Image caption: Y Meuryn, Ceri Wyn Jones (ail o'r chwith), yn trafod gyda'r Ffoaduriaid cyn recordio'r rhaglen
    Ac i gadw'r ddisgyl yn wastad, mae hefyd yn trafod gyda thîm Aberhafren
    Image caption: Ac i gadw'r ddisgyl yn wastad, mae hefyd yn trafod gyda thîm Aberhafren
  15. Corau ym mhob man

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ar ddiwrnod y corau a'r bandiau pres, allwch chi ddim symud o gwmpas Maes yr Eisteddfod heddiw heb weld rhywun yn ymarfer.

    Dyma gôr Bro Meirion yn ymarfer ym mhabell y Principality.

    cor
  16. Memorabilia'r Maes

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Oeddech chi'n arfer treulio wythnos gyntaf mis Awst yn cystadlu efo'ch ffrindiau am y gorau i gasglu'r celc mwyaf o fathodynnau, sticeri, beiros a hetiau papur o faes yr Eisteddfod Genedlaethol?

    Mae Cymru Fyw wedi bod yn tyrchu yn yr atig am rai o'r eitemau y gallai plentyn ei gasglu yn ei fag-plastig-am-ddim o bebyll gwahanol sefydliadau yn y Steddfod ers talwm. Ydyn nhw'n procio'r cof?

    Cysylltwch os oes gennych chi ychwanegiad i'r casgliad: cymrufyw@bbc.co.uk

    Pwy sy'n cofio'r het bapur yma?
    Image caption: Pwy sy'n cofio'r het bapur yma?
  17. Tŷ Gwerin

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Y gerddorfa werin yn ymarfer yn galed yn y Tŷ Gwerin bore 'ma yn barod i berfformio'n hwyrach yn y dydd.

    cerddorfa
  18. Gosodiad celf newydd?

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn anffodus, na.

    Dim ond ychydig o waith paratoi munud olaf ar y Maes bore 'ma.

    celf