Lluniau: 'Y Llyfrgell'

  • Cyhoeddwyd
Darllen

Bydd ffilm 'Y Llyfrgell', addasiad o nofel Fflur Dafydd yn cael ei dangos yn gyhoeddus am y tro cyntaf yr haf yma. Bydd hi i'w gweld yng Ngŵyl Ffilm Caeredin a bydd yna ddangosiad arbennig yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn y Fenni.

Enillodd y nofel Wobr Goffa Daniel Owen i Fflur yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala yn 2009.

Hon yw ffilm fawr gyntaf y cyfarwyddwr nodedig, Euros Lyn. Mae Euros yn adnabyddus am ei waith ar gyfresi teledu poblogaidd fel 'Happy Valley', 'Broadchurch' a 'Doctor Who'.

Mae'r stori yn dilyn hanes efeilliad Nan ac Ana (Catrin Stewart sy'n portreadu'r ddwy yn y ffilm) sy'n ymchwilio i farwolaeth eu mam Elena sy'n awdures enwog. Ydy hi wedi lladd ei hun ynteu oedd yr amgylchiadau yn fwy sinistr?

Yn ystod shifft nos mae'r ddwy efaill yn dechrau ar eu hymchwilaid yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru...

Dyma i chi rai o'r lluniau dynnodd y ffotograffydd Iestyn Hughes yn ystod y ffilmio:

Disgrifiad o’r llun,

Barod am yr olygfa gynta'?

Disgrifiad o’r llun,

Tawelwch yn y llyfrgell... ac ar y set!

Disgrifiad o’r llun,

Ydy awdur 'Y Llyfrgell' (Fflur Dafydd, chwith) yn hapus efo'r ffilmio hyd yma?

Disgrifiad o’r llun,

Mae Dan y porthor (Dyfan Dwyfor) yn cael ei dynnu i mewn i'r dirgelwch gan yr efeilliaid

Disgrifiad o’r llun,

Mae Camera 3 yn barod ar gyfer yr olygfa nesa'

Disgrifiad o’r llun,

Nan ac Ana ar drywydd atebion...

Disgrifiad o’r llun,

Fyddech chi yn ddigon dewr i gerdded coridorau'r Llyfrgell Genedlaethol liw nos?

Disgrifiad o’r llun,

Eben (Ryland Teifi) yw cofiannydd Elena. Oes ganddo e rywbeth i'w wneud â'i marwolaeth?

Disgrifiad o’r llun,

Na, nid ail-wneud 'Vertigo' maen nhw!

Disgrifiad o’r llun,

Dyma ffordd fwy diogel o ffilmio o'r entrychion!

Disgrifiad o’r llun,

Wel am lanast! Gobeithio bod Llawysgrifau Peniarth yn ddiogel!

Disgrifiad o’r llun,

Euros Lyn yn rhoi cyfarwyddiadau manwl i'r criw

Disgrifiad o’r llun,

Oes 'na siop lanhau dillad dda yn Aberystwyth?

Disgrifiad o’r llun,

Nan 'ta Ana? Y'ch chi'n gallu dweud y gwahaniaeth?