a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Newid i'r llif byw

    BBC Cymru Fyw

    O hyn tan ddiwedd y dydd, bydd ein llif byw yn newid rhyw fymryn - fe fydd y prif newyddion yn dal i ymddangos ar Hafan Cymru Fyw, ond arhoswch ar ein llif byw os ydych chi am wylio'r holl gystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod yn Y Fenni a seremoni Tlws y Cerddor. 

  2. Trigolion lleol yn chwifio'u fflagiau

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae rhai o'r tai cyfagos yn awyddus i ddangos eu bod yn cefnogi'r ŵyl - ac mae Arglwyddes Llanofer i weld yn cymeradwyo hynny...

    Fflagiau
  3. Eurig yn diolch

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Wrth i bobl ei longyfarch o wrth adael y Pafiliwn, ag yntau'n brif lenor yr Eisteddfod eleni, ymatebodd Eurig Salisbury gyda slogan answyddogol Cymdeithas Bêl-droed Cymru... "diolch!" 

    Dywedodd hefyd mai darllen nofel The Lord Of The Rings gan JRR Tolkien a'i ysbrydolodd i fod eisiau bod yn awdur.

    "Ar ôl darllen y gyfrol honno, ro'n i'n ben set ar fod yn sgwennwr fy hun. Nes i fynd ati i ddechrau sgwennu straeon," meddai. 

    "Nes ymlaen ddaeth y barddoniaeth a theimlo fy mod i'n gallu torri cwys i fi fy hun fel bardd, ond y cariad cynta o'r dechrau oedd rhyddiaith a straeon."

    Eurig Salisbury
  4. Robin a chyfeillion o Lydaw

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ceidwad y cledd, Robin McBryde, gyda chynrychiolaeth o Lydaw - Ludovic Loubouten ac Emilie Vegourou - gefn llwyfan ar ôl y seremoni.

    Cyfeillion o Lydaw
  5. Llorente ar y ffordd?

    BBC Cymru Fyw

    Mae cyfarwyddwr pel-droed Sevilla wedi dweud ei fod yn disgwyl cyhoeddi newyddion am Fernando Llorente "yn y dyddiau nesaf".

    Y disgwyl yw y bydd Abertawe yn arwyddo'r ymosodwr 31 oed, sydd wedi ennill 24 cap dros Sbaen.

    Fernando Llorente
  6. Pabell lawn

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Roedd pabell Prifysgol Aberystwyth yn orlawn prynhawn 'ma ar gyfer aduniad fawreddog Aber, lle gwahoddwyd pawb oedd erioed wedi bod yn fyfyriwr yna.

    Efallai fod y bwyd a'r diod am ddim wedi bod o gymorth i ddenu pobl hefyd...

    adunioad
  7. Y llenor a'r Archdderwydd

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Eurig Salisbury, enillydd y Fedal Ryddiaith, yn cael ei gyfarch gan yr Archdderwydd Geraint Llifon yn y seremoni'n gynharach.

    Eurig Salisbury
  8. Ymddiheuriadau

    BBC Cymru Fyw

    Yn anffodus rydyn ni wedi bod yn cael trafferthion technegol gyda'r llif byw y prynhawn yma. Ymddiheuriadau am hynny, ond fe ddylai fod popeth yn gweithio'n iawn bellach.    

  9. Eurig Salisbury yn cipio'r Fedal Ryddiaith

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Eurig Salisbury sydd wedi cipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016.

    Cafwyd 14 o ymgeiswyr i gyd, ond fe ddyfarnwyd gwaith y gŵr o Sir Gâr yn fuddugol gan y beirniaid Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis.

    Mae Eurig Salisbury yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, ble bu hefyd yn fyfyriwr, ac fe enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych yn 2006.

  10. Medal Ryddiaith: Y beirniad yn canmol

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    bbc
    Image caption: Angharad Dafis
  11. Medal Ryddiaith

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae'r Fedal Ryddiaith yn cael ei roi am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Galw'.

  12. Seremoni'r Fedal Ryddiaith

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Mae seremoni'r Fedal Ryddiaith newydd ddechrau yn y Pafiliwn ar faes yr Eisteddfod.

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Angharad Dafis, Jane Aaron a Dafydd Morgan Lewis.

  13. Noson Lawen Llanofer

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn y Tŷ Gwerin ar y Maes roedd noson lawen Llanofer yn cael ei pherfformio prynhawn 'ma gydag Eiry Palfrey yn chwarae rhan Gwenynen Gwent oedd yn cyflwyno'i hanes drwy ddull perfformiadau canu a dawnsio. 

    Mae'n amlwg na chafodd y delynores yma'r neges am yr hetiau!

    het
  14. Anafiadau'r Cymry

    Wales Online

    Ar wefan WalesOnline mae erthygl yn trafod yr anafiadau sy'n wynebu chwaraewyr Cymru ar ddechrau'r tymor newydd

    Bydd llawer o ser Cymru'n methu dechrau'r tymor oherwydd anafiadau gan gynnwys Justin Tipuric, Dan Lydiate a Samson Lee.

    Dan
    Image caption: Y blaenasgellwr Dan Lydiate
  15. Lisa'n creu 'tagine'

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Ym mhabell ctyngor sir Y Fenni, roedd cyfle i chi ddarganfod sut oedd creu tagine blasus gyda'r gogyddes Lisa Fearn.

    Mae'r babell yn cynnal arddangosfeydd coginio rheolaidd yn ddyddiol...

    lisa
  16. Angen 'achub' Amina, medd barnwr

    BBC Cymru Fyw

    Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dweud bod cyfrifoldeb ar dad o Saudi Arabia i ddod â'i ferch 21 oed yn ôl i Brydain.

    Yn ôl Amina Al-Jeffery, gafodd ei magu yn Abertawe ac sydd â dinasyddiaeth Brydeinig a Saudi, mae ei thad Mohammed Al-Jeffery yn ei chadw hi yn erbyn ei hewyllys yn ninas Jeddah.

    Dywedodd y barnwr fod Amina "mewn perygl" ar hyn o bryd ac angen cael ei "hachub".

    Amina Al-Jeffery
    Image caption: Mae Amina Al-Jeffery wedi bod yn Saudi Arabia ers 2012
  17. Meithrinfa yn Aberystwyth i ailagor

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Mudiad Meithrin wedi cadarnhau y bydd meithrinfa Camau Bach yn Aberystwyth yn ailagor fory.

    Cafodd y feithrinfa ei chau am gyfnod wedi i blentyn gael eu gadael ar fws am ddwy awr, a hynny ar ddiwrnod pan gyrhaeddodd y tymheredd dros 30C.

  18. '13% o bobl yn siarad Cymraeg bob dydd'

    BBC Cymru Fyw

    Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi cyhoeddi ei hadroddiad pum mlynedd cyntaf ar yr iaith Gymraeg ar faes yr Eisteddfod heddiw.

    Ymhlith y canfyddiadau mae'r ffaith bod canran y plant 5-15 oed sy'n medru siarad Cymraeg wedi dyblu ers 1981, ac mae 13% o bobl bellach yn defnyddio'r Gymraeg bob dydd.

    Ond does dim cynnydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer y plant sy'n derbyn addysg a gofal blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r niferoedd sy'n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg mewn addysg bellach ac uwch yn parhau i fod yn isel.

  19. Disgwyl ei dro

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Steffan Rhys Hughes (dde) yn disgwyl yn eiddgar yng nghefn llwyfan y Pafiliwn yng nghystadleuaeth unawd tenor 19 ac o dan 25 oed.

    Ar y llwyfan yn gynta', ac i'w weld yma ar y teledu, mae Huw Ynyr Evans.

    Gallwch ddilyn holl ddigwyddiadau'r Pafiliwn yn fyw yma ar Cymru Fyw.

    Steffan a Huw