a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan am heddiw. Bydd y llif byw yn ol am 08:00 bore fory, gyda'r newyddion diweddara. Am y tro felly, noswaith dda i chi.

  2. Noson sych

    Tywydd, BBC Cymru

    Fe fydd hi'n noson sych heno gyda rhywfaint o gymylau a chyfnodau sych i'r mwyafrir.

    Fydd hi ddim yn teimlo mor drymaidd â neithiwr gan roi noson fwy cyfforddus o gwsg i'r rhan fwyaf ohonon ni.

    Am y rhagolygon dros y dyddiau nesaf ewch i'r wefan dywydd.

  3. Dau yn yr ysbyty wedi gwrthrawiad yn y Ffôr

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae'r heddlu'n apelio am dystion i wrthdrawiad difrifol ar gyrion Pwllheli y prynhawn 'ma. 

    Cafodd dau o bobl eu cludo i ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi'r gwrthdrawiad ar ffordd yr A499 yn y Ffôr rhwng Volkswagen Polo arian a fan Ford Transit wen. 

    Y gred yw bod eu hanafiadau'n ddifrifol.

  4. Dechrau ymgyrch 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd

    BBC Cymru Fyw

    Stadiwm Dinas Caerdydd fydd cartref tîm pêl-droed Cymru ar gyfer eu tair gêm gyntaf yn ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

    Mae'r Gymdeithas Bêl-droed wedi cadarnhau na fydd y tîm cenedlaethol yn symud o'r stadiwm am y tro.

    Roedd y rheolwr, Chris Coleman, wedi wfftio'r syniad o symud i Stadiwm y Principality yn dilyn awgrym y gallai hynny ddigwydd gan Brif Weithredwr y gymdeithas.

    Stadiwm Caerdydd
  5. J O Roberts yn 'feistr ar ein clasuron'

    Post Prynhawn

    BBC Radio Cymru

    Ar y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru, sy'n dechrau am 17:00, bydd cyfle i glywed rhagor o deyrngedau i'r actor J O Roberts, fu farw'n 84 oed. 

    Un sydd ag atgofion melus o fod yn ei gwmni yw'r actor John Pierce Jones: "Roedd o'n gwmnïwr ardderchog, dudwr stori heb ei ail, ond hefyd, roedd o'n actor da safonol - un o'r ychydig ar ôl efo'r iaith goeth, goeth 'ma. 

    "Roedd o'n feistr ar ein clasuron ni, ac mi wnaeth gyfraniad aruthrol."

  6. Cyhuddo'r Llywodraeth o amddifadu plant o'r Gymraeg

    Golwg 360

    Mae Golwg360 yn dweud fod Llywodraeth Cymru a Chymwysterau Cymru wedi cael eu cyhuddo o “amddifadu cenhedlaeth arall o blant o’r Gymraeg” ar ôl penderfynu parhau â Chymraeg Ail Iaith i blant, yn hytrach na chreu cymhwyster newydd i bob disgybl.

  7. Sioned James 'yn llawn bwrlwm ac asbri'

    BBC Cymru Fyw

    Wrth roi teyrnged i Sioned James, dywedodd Islwyn Evans, a'i hyfforddodd ar ddechrau ei gyrfa: "Fues i'n ffodus iawn o gael y pleser o adnabod Sioned ers iddi fod yn ddisgybl ifanc yn Ysgol Dyffryn Teifi. Roedd yn llawn bwrlwm ac asbri, yn alluog, yn hynod gerddorol a siaradus! 

    "Roedd yn destun llawenydd i mi ddilyn ei llwyddiant ac yn arbennig wrth iddi gyflawni ei nod a sefydlu côr cymysg newydd yng Nghaerdydd.

    "Byddaf yn gweld eisiau ei chwmni a'i siarad ffraeth. Roedd yn ffrind annwyl a oedd yn barod iawn ei chyngor ac yn hynod gefnogol. Cydymdeimlaf yn fawr gyda Gareth, Nest a'r teulu."

  8. Y 'Tour of Britain' yng Nghymru

    Daily Post

    Bydd enillydd Tour de France Syr Bradley Wiggins ymysg y seiclwyr a fydd yn gwibio drwy Gymru yn ystod y Tour of Britain fis Medi.

    Mae'r Daily Post yn dangos y daith y bydd y pedwerydd cam yn ei dilyn o Ddinbych, drwy Sir y Fflint cyn pasio drwy Gorwen, i mewn i Bowys a chan orffen ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd. 

  9. 'Presenoldeb arbennig' J O Roberts

    Taro'r Post

    BBC Radio Cymru

    Ar raglen Taro'r Post, dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas iddo gael cwmni J O Roberts a'i ferch Nia yn ddiweddar: "Ges i ei gwmni o nos Fawrth, wythnos yn ôl, mewn swper hwyliog iawn, a Nia hefyd, achos...roedden ni'n rhoi cymrodoriaeth er anrhydedd i'r ddau ohonyn nhw. 

    "Dwi'n dal i gofio ei bortread o Llywelyn Fawr yn nrama Siwan. Mae'n sioc fawr i ni gyd, yn amlwg, ond yn sydyn reit, mae rhywun sylweddoli, nid jyst bod bywyd yn beth brau, ond diolch byth ein bod ni wedi gallu anrhydeddu J O fel y dylen ni fod wedi gwneud flynyddoedd yn ol. 

    "Roedd o'n fwy na lleiswr, roedd ganddo fo bresenoldeb arbennig iawn."

    J O Roberts a Nia Roberts
  10. 'Cymaint i hyrwyddo'r Gymraeg'

    Yr Awr Gymraeg yn talu teyrnged i Sioned James am ei chyfraniad dros y Gymraeg.

  11. Eisteddle'r werin

    Sioe Frenhinol Cymru

    Mae'r banc o dir ar un ochr o'r prif gylch yn orlawn gyda phobl yn bachu eu lle yn yr haul ar gyfer pared y cobiau a holl weithgareddau eraill y prynhawn.

    banc
  12. Teg edrych tuag Iwerddon?

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cylchgrawn Cymru Fyw wedi bod yn siarad gyda dwy sy'n gobeithio y gall pasbort Gwyddelig roi mwy o gyfle iddyn nhw yn Ewrop yn y dyfodol.

    Yn ôl Google roedd 'na gynnydd dramatig yn nifer y bobl oedd yn chwilio am sut i wneud cais am basbort Gwyddelig yn y dyddiau wedi'r refferendwm. Roedd Llysgenhadaeth Iwerddon yn Llundain hefyd yn brysur yn delio gyda ymholiadau am basborts Gwyddelig.  

    Jennifer Hanlon a'i phlant
  13. Beryl Vaughan ar J O: 'Y fo oedd fy arwr i'

    Taro'r Post

    BBC Radio Cymru

    Ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn gynharach, rhoddodd y beirniad llefaru Beryl Vaughan y deyrnged hon i J O Roberts: "Y fo oedd fy arwr i. Roedd llais J O - ar hyd y blynyddoedd, bob tro roeddech chi'n ei glywed o neu gyfraniad o unrhyw dro - roedd dwr oer yn mynd i lawr y cefn. 

    "Mae colli J O yn golled aruthrol i'r genedl yma, a sgena i'm ond meddwl am y teulu bach i gyd."