J O Roberts: 1932-2016
- Cyhoeddwyd
Newyddion 9 yn cofio'r actor J O Roberts
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r actor J O Roberts, fu farw yr wythnos hon yn 84 oed.
Yn enedigol o Lerpwl, fe wnaeth ei enw fel actor amatur ar Ynys Môn cyn mynd ymlaen i ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau ar lwyfan, ffilm a theledu dros y blynyddoedd.
Mae'n cael ei ddisgrifio fel un wnaeth "gyfraniad aruthrol" i'r byd actio yng Nghymru, gyda llawer yn cyfeirio at ei lais "melfedaidd".
Yr wythnos diwethaf, derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor am wasanaeth i fyd y ddrama ynghŷd â'i ferch, y gyflwynwraig Nia Roberts.
Roedd hefyd yn dad i'r cyflwynydd chwaraeon, Gareth Roberts.
Cafodd John Owen Roberts ei eni yn Lerpwl yn 1932, ac ar ôl treulio cyfnod yn y ddinas honno, fe symudodd o a'i chwaer at eu nain a'u taid ar Ynys Môn pan ddechreuodd yr Ail Ryfel Byd.
Ar yr ynys cafodd y rhan fwyaf o'i addysg, ac yn y cyfnod hwnnw dechreuodd ei ddiddordeb mewn drama.
Dychwelodd i Lerpwl fel athro yn y 1950au, ond cyn hynny roedd ei ddiddordeb ym myd y ddrama wedi hen ddechrau, ac roedd wedi ymddangos mewn dramâu radio ac ar lwyfan.
Ar ôl dysgu yn Llannerch-y-medd a Bodffordd, fe symudodd i adran ddrama'r Coleg Normal ym Mangor.
Wedi iddo ymddeol ar ddechrau'r 1980au, fe ddaeth J O Roberts yn wyneb cyfarwydd mewn dramâu teledu, ac ar lwyfan.
Cafodd ei hunangofiant, Ar Lwyfan Amser, ei ryddhau yn 2005 fel rhan o Gyfres y Cewri.
Alun Thomas yn cofio'r actor J O Roberts, fu farw yn 84 oed.
Seren
Ymhlith y cyfresi a'r ffilmiau bu'n ymddangos ynddyn nhw roedd Hufen a Moch Bach, Cysgodion Gdansk, Deryn, Talcen Caled a Lleifior - y gyfres yn seiliedig ar lyfrau enwog Islwyn Ffowc Elis.
J O hefyd oedd yn portreadu Owain Glyndŵr mewn ffilm deledu yn olrhain hanes y gwrthryfelwr.
Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: "J O Roberts oedd y llais oedd yn cynrychioli darlledu safonol Cymraeg am gymaint o flynyddoedd ar y teledu a'r radio.
"Roedd o'n pontio'r traddodiad adrodd gyda'r grefft o actio proffesiynol ac yn cynrychioli'r gorau o'r ddau draddodiad hynny.
"Mi fu'n seren ar gyfresi a ffilmiau unigol lawer yn ystod yr 80au a'r 90au, gyda'i bersonoliaeth gref."
Ymhlith y cyfresi nodedig eraill iddo ymddangos ynddyn nhw ar S4C oedd Mae Hi'n Wyllt Mr Borrow (1984) gyda Siân Phillips, ac yn y ffilm Branwen yn 1994.
Wrth siarad ar raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru ddydd Mercher, ychwanegodd Huw Jones: "Roedd o'n edrych yn dda ac yn swnio fel seren ac mi gafodd ei gastio felly am flynyddoedd.
"Roedd hi'n bwysig i S4C yn y dyddiau cynnar yna i gael ei sêr ac yn sicr roedd o'n un o'r rhai mwyaf blaenllaw.
"Y llefaru yma mae rhywun yn ei gofio mor glir, y llais cyfoethog, melfedaidd. Be' bynnag roedd o'n ei wneud, roedd o'n ei wneud o efo graen."
Ychwanegodd y dramodydd a'r darlithydd William R Lewis fod "llefaru a pharchu geiriau'r dramodydd yn hynod bwysig i John".

Nia Roberts a'i thad, J O Roberts, yn derbyn Cymrodoriaethau er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor ar 13 Gorffennaf 2016
'Presenoldeb arbennig'
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas iddo gael cwmni J O Roberts a'i ferch Nia yn ddiweddar: "Ges i ei gwmni o nos Fawrth, wythnos yn ôl, mewn swper hwyliog iawn, a Nia hefyd, achos... roedden ni'n rhoi Cymrodoriaeth er Anrhydedd i'r ddau ohonyn nhw.
"Dwi'n dal i gofio ei bortread o Llywelyn Fawr yn nrama Siwan. Mae'n sioc fawr i ni gyd, yn amlwg, ond yn sydyn reit mae rhywun yn sylweddoli, nid jyst bod bywyd yn beth brau, ond diolch byth ein bod ni wedi gallu anrhydeddu J O fel y dylen ni fod wedi gwneud flynyddoedd yn ôl.
"Roedd o'n fwy na lleisiwr, roedd ganddo fo bresenoldeb arbennig iawn."
Dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru: "Byddwn yn cofio J O Roberts fel actor toreithiog fu'n serennu yn rhai o ddramâu cofiadwy a grymus ei gyfnod, ar y radio a'r sgrin fach.
"Uwchlaw hynny, byddwn yn ei gofio fel cymeriad cryf a hoffus fu'n fawr ei ddylanwad ym myd y ddrama yng Nghymru a braf oedd ei weld yn cael ei anrhydeddu am y cyfraniad hwnnw yn ddiweddar.
"Mae ein cydymdeimlad dwys gyda teulu J O ac mae Nia a Gareth yn ein meddyliau yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Arwr
Yn ogystal â bod yn gefnogwr brwd o glwb pêl-droed Everton, roedd J O Roberts yn aelod o Gôr Meibion y Traeth am bron i ddeugain mlynedd.
Meddai Grês Pritchard, arweinyddes y côr: "'Naeth John ymuno yn 1977. Roedd ganddo fo lais cyfoethog arno fo ac mi fydd yn golled fawr i'r côr ac i minnau hefyd.
"Roedd yn arwain nosweithiau - cyflwynydd ardderchog oedd John, cyflwyno yn lleol ac ar deithiau - ac roedd 'na safon ardderchog i'r cyngherddau a straeon chwaethus."

J O Roberts yn chwarae rhan Edward Ifans yn y ddrama Chwalfa yn 1966
Ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos hon, rhoddodd y beirniad llefaru Beryl Vaughan deyrnged i J O Roberts. Meddai: "Y fo oedd fy arwr i. Roedd llais J O - ar hyd y blynyddoedd, bob tro roeddech chi'n ei glywed o neu gyfraniad o unrhyw dro - roedd dŵr oer yn mynd i lawr y cefn.
"Mae colli J O yn golled aruthrol i'r genedl yma, a 'sgen i ddim ond meddwl am y teulu bach i gyd."
Un sydd ag atgofion melys o fod yn ei gwmni yw'r actor John Pierce Jones.
Dywedodd: "Roedd o'n gwmnïwr ardderchog, dydwr stori heb ei ail, ond hefyd roedd o'n actor da, safonol - un o'r ychydig ar ôl efo'r iaith goeth, goeth 'ma.
"Roedd o'n feistr ar ein clasuron ni, ac mi wnaeth gyfraniad aruthrol."
Bu Audrey Mechell yn actio gyda J O Roberts am flynyddoedd yn Ynys Môn, ac roedd hi'n cofio "gŵr bonheddig".
Dywedodd wrth Taro'r Post: "Mae'n golled fawr ar ei ôl o. Roedd o'n actor fedrwch chi ddibynnu arno fo. Mae'n drist ofnadwy i golli John."
Y darlithydd ag awdur Dr William R Lewis yn trafod gydag Alun Thomas
Cenedl yn cofio
Bu sawl un yn talu teyrnged i J O Roberts ar wefannau cymdeithasol hefyd:

Yr Aelod Cynulliad dros Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, yn talu teyrnged i J O Roberts a'r arweinydd corawl, Sioned James, fu farw yn 41 yr wythnos hon

Yr actor Julian Lewis Jones wedi tristáu


Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, yn talu teyrnged
Mae teyrngedau hefyd wedi eu rhoi i ferch-yng-nghyfraith J O Roberts, yr arweinydd côr Sioned James, a fu farw yr wythnos hon yn 41 oed.