Darlledu Gigs Maes B yr Eisteddfod yn fyw ar y wê
- Cyhoeddwyd
Mae S4C wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu darlledu perfformiadau gigs Maes B yr Eisteddfod Genedlaethol yn fyw ar eu gwefan.
Mae Maes B yn llwyfan i fandiau ac artistiaid y sin roc a phop yng Nghymru gael perfformio, ac fe fydd ffrwd fyw ar wefan S4C rhwng 21:30 a 01:30 o nos Fercher, 3 Awst hyd at fore Sul, 7 Awst.
Fe fydd hefyd modd dilyn cyfrif S4C ar Instagram a Snapchat - a fydd yn dod a'r diweddara' o gefn y llwyfan.
'Cyffrous iawn'
Dywedodd y cyflwynydd, cynhyrchydd a phrif leisydd band Yr Ods, Griff Lynch, ei bod yn "hollbwysig ein bod ni yng Nghymru yn defnyddio'r dechnoleg i ddarlledu gigs Maes B yn fyw ar-lein, gan ei fod yn wasanaeth sydd wedi llwyddo mewn llawer o wyliau cerddorol ledled gwledydd Prydain".
"Wrth gwrs rydan ni'n gobeithio bydd pobl o bob cwr o Gymru yn gwneud yr ymdrech i fynychu'r Eisteddfod Genedlaethol ac yn dod draw i'r gigs ym Maes B ond mae medru cynnig y gwasanaeth yn gyffrous iawn," ychwanegodd.
Ymysg y perfformwyr eleni ym Maes B fydd Yws Gwynedd, Candelas, Yr Eira, Mellt, Calfari, Band Pres Llarregub, Y Reu, Fleur De Lys, HMS Morris, Yr Ods a DJ Huw Stephens.
"Mae lot o bobl yn dod i gigs Maes B bob blwyddyn ac i fandiau Cymraeg, mae cael perfformio o flaen cynulleidfa fawr yn ein hatgoffa ni o'r gefnogaeth sydd allan yna," eglurodd Griff.
"Mi fyddai'n gweithio yng Nghaffi Maes B eleni ac fe fyddai'n perfformio gydag Yr Ods, Swnami a Candelas mewn cyngerdd yn y Pafiliwn ar y nos Sadwrn, felly dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y Fenni."
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni o 29 Gorffennaf tan 6 Awst 2016.