Owain Doull a recordiau byd y Cymry
- Cyhoeddwyd
Llongyfarchiadau gwresog i'r seiclwr Owain Doull o Gaerdydd ar ennill medal aur yn y Gemau Olympaidd yn Rio. Fo ydy'r Cymro Cymraeg cyntaf i gyflawni'r gamp. Wrth groesi'r llinell yn gyntaf yn rownd derfynol y ras erlid yn y felodrom mi lwyddodd Owain a'i dîm hefyd i dorri record y byd trwy gwblhau'r ras 4km mewn amser o dri munud a 50.265 eiliad.
Mae angen dyfalbarhad a dycnwch i gael eich henw yn llyfr Recordiau Byd Guinness.
Dyma i chi gipolwg ar recordiau byd rhyfeddol eraill sydd wedi dod ag amlygrwydd i'r Cymry:
Canu ar ddau gyfandir
Y llynedd fe osododd Shân Cothi ac Andres Evans record byd am y pellter mwyaf rhwng pobl yn canu deuawd. Roedd 'na dros 7,000 o filltiroedd rhwng Shân yng Nghaerdydd ac Andres ym Mhatagonia.
Cafodd yr ymgais ei chlywed yn fyw ar BBC Radio Cymru gyda rhai o leisiau cyfarwydd yr orsaf yn aelodau o'r côr fu'n cyd-ganu Calon Lân.
Cacen Gri fwya'r byd
Pedwar cogydd o'r Bala dorrodd y record flasus trwy goginio cacen gri 1.5 metr o led, oedd yn pwyso 21.7 kilo. Cafodd y gacen ei thorri i 200 o ddarnau a'i gwerthu gan godi dros £800 at achosion da.
Teithio bellaf ar feic un olwyn mewn diwrnod
Sam Wakeling, dolen allanol, cyn fyfyriwr o Aberystwyth dorrodd y record hon. Fe lwyddodd i seiclo 282 milltir o gwmpas trac ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2007.
Defnyddiodd feic un olwyn 36 modfedd o led. Torrodd y record o 235.3 milltir, oedd wedi ei gosod gan seiclwr o Seland Newydd yn 2005.
Y sgarff hiraf
Cafodd y record ei gwau gan dîm oedd yn codi arian i hosbis Tŷ Hafan rhwng 2002 a Mehefin 2005.
Pan gafodd y sgarff ei mesur yn Stadiwm y Mileniwm roedd hi'n mesur 54.29 km o hyd, dolen allanol.
Petaech chi wedi ei hymestyn hi mi fyddai hi'n ddigon hir i gysylltu Caerdydd â Bannau Brycheiniog.
Llwyddodd yr ymgyrch i godi £60,000 i'r hosbis.
Y llinell hiraf o ganiau diod
Cafodd 6,300 o ganiau pop, dolen allanol eu gosod mewn llinell yng Nghanolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd hi'n bedair milltir o hyd.
Cafodd y record ei thorri yn 2009 gan y Cyngor Sir er mwyn tynnu sylw at eu hymgyrchoedd ailgylchu. Gwaith sychedig iawn!
Taflu pêl â chefn at y targed
Taflodd Thomas Connors, dolen allanol bêl i gyfeiriad rhwyd pêl fasged 106 o weithiau mewn munud yng nghanolfan chwaraeon Talybont, Prifysgol Caerdydd ar 25 Medi 2014.
Hawdd meddech chi. Ond roedd Thomas wedi gwneud hynny â'i gefn at y targed gan dorri record y byd.
Does dim cofnod o sawl pêl y llwyddodd o i'w rhwydo cofiwch!
Y nifer fwyaf i neidio mewn mwd
Cafodd y record am y nifer fwyaf o bobl i gystadlu ym Mhencampwriaeth Snorclo Cors y Byd ei gosod pan gymrodd 200 o bobl ran yng nghors Waen Rhydd, Llanwrtyd, Powys, dolen allanol ar 31 Awst 2009.
Y nifer fwyaf o bobl o drasau gwahanol i gymryd rhan yn nrama'r geni
Yng Nghanolfan y Mileniwm ar 30 Tachwedd 2013, fe gymrodd 68 o bobl ran yn nrama'r geni. Dim byd yn od am hynny meddech chi. Ond roedd 55 ohonyn nhw o wahanol gefndiroedd ethnig, dolen allanol.
Pan gafodd Y Parch Irfan John y syniad gwreiddiol y flwyddyn cynt dim ond 14 o'r perfformwyr oedd o dras gwahanol.