a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r cyfan am heddiw. Bydd y llif byw yn ôl am 08:00 bore fory, gyda'r newyddion diweddara.

    Am y tro felly, noswaith dda i chi.  

  2. Cofio 'Brwydr Brive'

    Wales Online

    Mae gwefan WalesOnline yn ailfyw hanes y frwydr enwog rhwng Clwb Rygbi Pontypridd a Brive yn 1997. 19 'mlynedd yn ôl i heddiw roedd ymladd ffyrnig rhwng y ddau dîm a arweiniodd at anafiadau a oedd angen sylw meddygol, ac hefyd ymddangosiadau yn y llys i chwaraewyr Pontypridd.

    Ponty
    Image caption: Matthew Lloyd o dîm Pontypridd yn ceisio torri tacl David Venditti
  3. Anerchiad olaf Archesgob Cymru

    Golwg 360

    Yn ei anerchiad olaf yn Llywydd Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, mae Archesgob Cymru yn canolbwyntio ar gyfunrhywiaeth a sut y gall straeon o’r Beibl ein helpu i ddeall o’r newydd berthnasau un rhyw.

    Yn ôl Golwg360, fe fydd Dr Barry Morgan yn cymharu dehongliadau Beiblaidd o berthnasoedd un rhyw gyda dehongliadau o gaethwasiaeth.

    Mae’n dweud fod caethwasiaeth wedi’i amddiffyn gan yr Eglwys ar un cyfnod, ond, meddai, “yn yr un modd ag y newidiodd y farn am hynny, gall barn yr Eglwys am berthnasoedd un rhyw hefyd newid”.

  4. Atal 'Hawl i Brynu' ar Ynys Môn

    Llywodraeth Cymru

    Mae'r Ysgrifennydd Cymunedau wedi cyhoeddi y bydd yr Hawl i Brynu yn cael ei hatal dros dro ar Ynys Môn i sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael ar gyfer y rheini sydd eu hangen.

    Daw penderfyniad Carl Sargeant cyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i ddiddymu'r cynllun. 

    "Mae'r Hawl i Brynu yn erydu ein stoc o dai cymdeithasol," meddai. "Mae'r polisi niweidiol hwn yn rhoi pwysau ymhellach ar ein cyflenwad o dai cymdeithasol ac yn gorfodi llawer o bobl sy'n agored i niwed i aros yn hirach cyn cael cartref."    

  5. Tywydd a theithio

    Tywydd, BBC Cymru

    Gwennan Evans sydd â'r diweddara': "Bydd heno’n noson sych a braf i’r rhan fwyaf ond gallai fod braidd yn stormus yn y gogledd ddwyrain a gallem ni weld ambell gawod ar dir uchel yn y gogledd. 

    "Bydd hi’n cymylu peth dros nos gyda niwl a tharth i rai a bydd hi’n glos gyda’r tymheredd isaf yn 15°C. 

    "Yn Llan-y-pwll, mae ciwiau i’r ddau gyfeiriad ar Heol Wrexham, yr A534, yn ardal y gwaith ffordd.

    "Yng Nghaerdydd, mae ciwiau wrth adael yr A48 tua’r gorllewin, yng nghyfnewidfa Llanedeyrn."

  6. Llai o 'fiwrocratiaid'

    BBC Cymru Fyw

    Mae Alun Cairns wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gwtogi'r nifer y "biwrocratiaid" er mwyn ddelio gyda thoriadau o San Steffan.

    Dywedodd Ysgrifennydd Cymru bod Llywodraeth y DU wedi gostwng nifer y gweision sifil heb effeithio ar wasanaethau cyhoeddus, ond nad oedd y llywodraeth ym Mae Caerdydd wedi gwneud yr un peth.

  7. Trafod cytundeb newydd i Bale

    The Guardian

    Mae'r Guardian yn adrodd bod Gareth Bale yng nghanol trafodaethau gyda Real Madrid ynghylch cytundeb newydd gyda'r clwb.

    Byddai'r ddêl yn golygu y gall seren Cymru, 27 oed, fod ar gyflog tebyg i Cristiano Ronado a Lionel Messi, meddai'r wefan.

    Mae gan Bale dair blynedd ar ôl ar ei gytundeb presennol, sydd werth tua £300,000 yr wythnos, yn ôl adroddiadau.

    Bale
  8. Cyhuddo dynes o lofruddio wedi tân

    BBC Cymru Fyw

    Mae dynes wedi ei chyhuddo o lofruddio ei thad yn dilyn tân mewn tŷ yng Nghaerdydd.

    Yn Llys y Goron Caerdydd, roedd Emma Saddler, 27, yn wynebu cyhuddiadau o gynnau tân yn fwriadol a llofruddio.

    Bu farw Robert Saddler, 59, yn dilyn tân mewn tŷ yn Llanrhymni ym mis Ionawr.

    Cafodd Ms Saddler ei chadw yn y ddalfa.

  9. Gemau cartref y Gleision dros y rhanbarth

    BBC Sport Wales

    Bydd Gleision Caerdydd yn chwarae eu gemau cartref yng Nghwpan Prydain ac Iwerddon eleni ar hyd y rhanbarth.

    Bydden y Gleision yn wynebu Albanwyr Llundain ym Mharc yr Arfau, Ulster A yn Heol Sardis ac Jersey ar gae Y Wern ym Merthyr Tudful.

    Heol Sardis
    Image caption: Heol Sardis, Pontypridd
  10. Rhybudd am stormydd

    Wales Online

    Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd ar gyfer rhannau o Gymru, yn ôl WalesOnline.

    Gallai'r stormydd olygu glaw trwm ar adegau, yn ogystal â mellt a tharanau.

  11. Symud i hen swyddfa Cameron?

    The Sun

    Mae pedwar Aelod Seneddol Ceidwadol o Gymru yn gobeithio cael hen swyddfa David Cameron wedi iddo adael gwleidyddiaeth, meddai'r Sun.

    Roedd rhaid i'r criw symud oddi yno er mwyn gwneud lle i'r cyn Brif Weinidog ar ôl iddo ymddiswyddo wedi Brexit ym mis Gorffennaf.

    Ond wedi cyhoeddiad Mr Cameron ddechrau'r wythnos, bu cais gan y pedwar i fynd yn ôl i'w hen swyddfa "o fewn munudau", meddai AS Gwyr, Byron Davies.

  12. Llywodraeth i 'adolygu' Gŵyl Rhif 6

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ymateb i alwadau am ymchwiliad annibynnol i broblemau parcio yng Ngŵyl Rhif 6, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd adolygiad yn digwydd.

    Dywedodd llefarydd: "Fel gyda phob digwyddiad sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn cynnal adolygiad llawn gyda'r trefnwyr a phartneriaid lleol yn y man."

  13. Gareth F Williams: 'Braint cael ei alw yn fêt'

    BBC Cymru Fyw

    Dywedodd yr awdures Bethan Gwanas y byddai'n cofio ymroddiad Gareth F Williams i fyd llenyddiaeth.

    "Byddai'n sgwennu bob dydd," meddai. "Allai o ddim peidio. Dyna oedd ei fywyd.

    "Roedd yn fraint cael ei nabod, yn fraint cydweithio ag o, ac yn fraint cael ei alw yn 'fêt'."

    Bethan Gwanas
  14. 'Prynhawn sych ar y cyfan'

    Tywydd, BBC Cymru

    Gwennan Evans sydd â rhagolygon y tywydd: "Bydd hi’n brynhawn sych ar y cyfan gydag ysbeidiau braf. Bydd hi’n glos iawn gyda’r tymheredd uchaf yn 27C.

    "Mae’n bosib y bydd cyfnod o law taranau a mellt i rai, yn enwedig yn y gogledd ddwyrain."

    Am fwy o wybodaeth ewch i wefan dywydd y BBC.

  15. Cludo dynes i'r ysbyty

    Daily Post

    Mae dynes wedi ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi gwrthdrawiad ym Mhen Llŷn, meddai'r Daily Post.

    Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A497 ym Moduan tua 09:20 y bore 'ma.

  16. Achos cyn uwch-arolygydd heddlu yn dechrau

    BBC Cymru Fyw

    Mae achos cyn uwch-arolygydd gyda Heddlu Gogledd Cymru sydd wedi ei gyhuddo o droseddau rhyw hanesyddol wedi dechrau yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.

    Mae Gordon Anglesea, 78, yn wynebu tri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ac ymosodiad rhyw yn erbyn dau fachgen yn y 1980au.

    Mae Mr Anglesea yn gwadu'r holl gyhuddiadau.

    Gordon Anglesea
  17. Ffair Brexit

    Vaughan Roderick

    Golygydd Materion Cymreig y BBC

    Mae Vaughan Roderick wedi ysgrifennu blog yn edrych ar benderfyniad David Cameron i gamu i lawr fel Aelod Seneddol.

    Mae Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru hefyd yn cynghori'r Prif Weinidog, Theresa May, i "gadw llygad" barcud ar un o'r aelodau sydd ar y meinciau cefn...