a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Dyma ddiwedd y llif byw dyddiol, ond cofiwch am lif byw arbennig Cymru Fyw am 19:15 heno, wrth i dîm pêl-droed Cymru obeithio ail-brofi'r wefr a gafwyd yn Euro 2016 wrth ddechrau eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2018.

    Bydd yr ymgyrch yn dechrau gydag ymweliad Moldova â Stadiwm Dinas Caerdydd heno.

    Ashley Williams
  2. Medal frenhinol i gemegydd blaenllaw

    Newyddion 9

    Beth sydd gan Charles Darwin, Michael Faraday a Syr Humphrey Davy yn gyffredin? 

    Oedden, mi oedden nhw'n wyddonwyr byd enwog - ond hefyd ill tri'n ennillwyr y fedal frenhinol am arloesi yn y byd gwyddonol. 

    Nawr mae'r cemegydd Syr John Meurig Thomas o Gwm Gwendraeth yn ymuno â'r rhestr ddethol yma.

    Aled Huw aeth i gyfarfod y gwyddonydd yng Nghaergrawnt.

    Gallwch weld y cyfweliad llawn ar Newyddion 9 am 21:00 heno ar S4C.

    Video content

    Video caption: Medal wyddoniaeth i gemegydd o Gwm Gwendraeth
  3. Rhaid i bennaeth newydd Aberystwyth fedru’r Gymraeg

    Golwg 360

    Mae golwg 360 yn adrodd, fe fydd yn rhaid i Bennaeth newydd Prifysgol Aberystwyth allu deall a sgwrsio yn Gymraeg, ynghyd â gwneud cyflwyniadau clir yn yr iaith, yn ôl manylion y swydd sydd wedi’i hysbysebu’r wythnos hon.

    Mae’r pecyn gwybodaeth ar gyfer swydd Is-Ganghellor y Coleg Ger y Lli yn nodi’n glir bod disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus allu deall Cymraeg mewn cyfarfodydd, mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb a thros y ffôn, a bod hynny’n flaenoriaeth.

  4. Trafferthion Gŵyl Rhif 6 – ‘Trychineb i’r ŵyl a’r economi leol’

    BBC Cymru Fyw

    Mae cynghorydd lleol yn dweud na roddodd yr awdurdodau ddigon o wybodaeth i drefnwyr Gŵyl Rhif 6 am gyflwr y tir. 

    Dywedodd y Cynghorydd Alwyn Gruffydd y dylai'r rhai oedd yn yr ŵyl hawlio arian gan yr asiantaethau lleol sy’n delio a llifogydd. 

    Dywedodd hefyd nad oedd yna fai ar y trefnwyr. 

    Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud y byddan nhw yn cwrdd gyda'r trefnwyr a'r partneriaid eraill yn y dyfodol i edrych ar y trefniadau. 

  5. Ar y ffyrdd...

    Teithio BBC Cymru

    Mae’r A451, Heol Caer, ar gau i’r ddau gyfeiriad wedi damwain ddifrifol gan effeithio teithwyr rhwng yr Wyddgrug a Wrexham.

    Mae’r A465, Ffordd Blaenau’r Cymoedd, ar gau tua’r gorllewin oherwydd damwain cyn cylchfan Gilwern. 

    Mae’r dargyfeiriad yn mynd trwy ganol Gilwern.

  6. Dyn wedi'i gyhuddo o ymosodiad hiliol

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o ymosodiad hiliol yn dilyn digwyddiad mewn tŷ bwyta Indiaidd yn y Gelli Gandryll.

    Mae'r dyn 31 oed, sy'n dod o'r dref, yn wynebu cyhuddiadau o ymosod, o droseddu ar sail hil, o ymosod ar heddwas a dau gyhuddiad o wrthsefyll arést.

    Mi fydd o'n ymddangos yn y llys ddydd Iau.

    Red Indigo
    Image caption: Red Indigo yng nghanol y Gelli oedd lleoliad yr ymosodiad honedig
  7. Côr y Cewri a’r Preseli – cloddio safleoedd

    Golwg 360

    Dywed golwg 360 fod ymchwil i ddarganfod a oes cysylltiad rhwng rhai o gerrig Côr y Cewri a Chymru wedi cymryd cam ymlaen dros y penwythnos, wrth i archeolegwyr ddechrau cloddio safle newydd.

    Ym mis Rhagfyr y llynedd, fe gyhoeddodd cymdeithas archaeolegol Antiquity adroddiad yn awgrymu y gallai rhai o gerrig Côr y Cewri Wiltshire, Lloegr fod wedi tarddu o gwareli yng ngogledd Sir Benfro.

  8. Y Post Prynhawn yn fyw o'r stadiwm!

    BBC Radio Cymru

    Dewi Llwyd a Gareth Blainey yn paratoi i ddarlledu'r Post Prynhawn o Stadiwm Dinas Caerdydd cyn gêm Cymru v Moldova. Ymunwch â nhw rhwng 5 - 6 o'r gloch.  

    dewi
  9. Noel Gallagher yn Frenin y sioe!

    Wales Online

    Mae Wales Online wedi cyhoeddi broliant o'r perfformiad olaf ar brif lwyfan Gwyl Rhif 6 neithiwr.

    Er gwaethaf y baw a'r llaca, mae'r wefan yn mynd ati i ganmol perfformiad arbennig sylfaenydd Oasis, wrth iddo wahodd Paul Weller ymlaen i ganu rhai o glasuron The Jam, yn ogystal â rhai o anthemau mwyaf y band roc a rôl o Fanceinion, Oasis.

    noel a paul
  10. Damwain: dyn yn yr ysbyty

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn oedrannus yn yr ysbyty ar ôl iddo gael ei dorri o'i gar yn dilyn gwrthdrawiad ym Mlaenau Gwent amser cinio. 

    Digwyddodd y ddamwain rhwng dau gar am 13:00 ar Ffordd King ym Mrynmawr. 

    Llwyddodd tri o bobl eraill i adael eu ceir cyn i'r gwasanaeth tân gyrraedd.

  11. Trafferthion ar y trenau

    Twitter

    Mae 'na oedi y prynhawn 'ma ar wasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng gorsafoedd Porth ac Ystrad Rhondda.

    Problemau gyda signalau sy'n achosi'r oedi.

    Mae'r cwmni'n rhybuddio y gallai'r trafferthion barhau tan 21:00 heno.

    View more on twitter
  12. Dyn wedi marw ar ôl i'w gar daro wal

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn wedi marw ar ôl i'w gar daro wal yn Ninbych y Pysgod. 

    Cafodd yr heddlu eu gyrru i'r digwyddiad nos Sul. 

    Mae'r heddlu yn gofyn i lygad dystion gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101. 

    Heol Heywood
    Image caption: Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Heywood
  13. 135 o yrwyr wedi eu gwahardd

    ITV

    Mae Heddlu Gwent yn dweud bod 135 o yrwyr wedi eu gwahardd yn y flwyddyn ddiwethaf am eu bod wedi gyrru ar ôl cymryd cyffuriau. 

    Daw'r ffigyrau wedi i brawf newydd gael ei ddefnyddio sydd yn cymryd sampl o boer rhywun.

  14. Y One Show yn dathlu degawd

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r rhaglen The One Show yn dathlu degawd o fod ar yr awyr. 

    Y Gymraes Alex Jones yw un o brif gyflwynwyr y rhaglen. 

    Dywedodd Alex mai Hillary Clinton oedd un o'r gwestai mwyaf cofiadwy ar y rhaglen, ac fod canu gyda Stevie Wonder yn dipyn o brofiad. 

    Alex
    Image caption: Cyflwynwyr y One Show, Matt Baker ac Alex Jones
  15. Mwynhau er y glaw yng ngŵyl Rhif 6

    BBC Cymru Fyw

    Er bod y glaw mawr wedi gwneud y penawdau yng Ngŵyl Rhif 6 eleni, mae miloedd o bobl wedi heidio i'r ŵyl gerddoriaeth boblogaidd ym Mhortmeirion dros y penwythnos.  

    Dyma gasgliad o luniau'r ffotograffydd Iolo Penri. 

    Coedwig
  16. Asesu ymgyrch Cymru

    The Guardian

    Ar wefan y Guardian mae erthygl gan Paul Doyle a Stuart James yn asesu pa mor dda wnaiff Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn eu hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia, 2018. 

    Mae'r erthygl yn trafod y newidiadau i dîm hyfforddi Cymru a'r mannau y dylai Cymru geisio cryfhau dros y flwyddyn nesa.

    Ramsey
    Image caption: Mae Aaron Ramsey yn absenol heno oherwydd anaf, ond fe fydd yn ffigwr holl bwysig yn yr ymgyrch i gyrraedd Rwsia 2018
  17. Prynhawn llwyd a llaith

    Tywydd, BBC Cymru

    Dywed Gwennan Evans: "Bydd hi’n brynhawn llwyd a llaith i’r rhan fwyaf ond gallai hi godi’n brafiach mewn rhai ardaloedd yn y dwyrain. 

    "Bydd hi’n glos gyda’r tymheredd yn cyrraedd 23°C yn yr heulwen."

  18. Damwain: dyn wedi marw

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Wyddgrug. 

    Digwyddodd y ddamwain rhwng beic modur a Ford Fiesta y bora 'ma ond fe fu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle. 

    Mae gyrrwr y car wedi ei arestio ar ôl iddo fethu prawf cyffuriau. 

    Mae'r heddlu yn gofyn i lygad dystion gysylltu trwy ffonio 101.