a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Diolch am ddilyn!

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r llif byw wedi dod i ben am y diwrnod. Fe fyddwn ni 'nôl am 08:00 bore 'fory, ond bydd y diweddaraf ar ein hafan yn y cyfamser.

  2. Troi'n fwynach heno

    Tywydd, BBC Cymru

    Llŷr Griffiths Davies sydd â rhagolygon tywydd heno: "Noson gymylog ar y cyfan, er bydd rhai cyfnodau clir.

    "Ddim mor oer â'r nosweithiau diwetha', ond gall hi fod o gwmpas y rhewbwynt mewn rhai mannau gwledig, 'da rhew erbyn bore, a niwl a tharth mewn mannau."

    Am eich tywydd lleol chi, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  3. Rhagfyr yn 'allweddol' i'r Elyrch

    BBC Sport Wales

    Mae rheolwr Abertawe Bob Bradley wedi dweud y bydd mis Rhagfyr yn "allweddol" yn y frwydr i gadw'r clwb rhag cwympo o'r Uwch Gynghrair.

    Fe wnaeth yr Elyrch guro eu gêm gyntaf gyda Bradley fel rheolwr yn erbyn Crystal Palace ddydd Sadwrn i godi o waelod y tabl.

    Ar ôl teithio i Tottenham Hotspur y penwythnos yma, bydd Abertawe yn herio pum tîm sydd yn hanner isaf y tabl.

    Bob Bradley
  4. Prynu tir i ailddatblygu rhan o Gaerdydd

    BBC Wales News

    Mae arweinwyr Cyngor Caerdydd wedi penderfynu prynu wyth erw o dir diwydiannol ger Afon Taf fel rhan o ymdrech o'r newydd i ailddatblygu'r ardal.

    Fe wnaeth aelodau'r cabinet wneud y penderfyniad i brynu'r safle ar Heol Dumballs yn Nhre-biwt ddydd Iau.

    Cafodd gynllun tebyg yn 2014 ei dynnu 'nôl wedi i gyllidwyr y cyngor benderfynu nad oedd yn fforddiadwy.

    Heol Dumballs
  5. Y Gymraeg yn India

    YouTube

    Mae'r cyflwynwr tywydd, Owain Wyn Evans yn teithio yn India ar hyn o bryd, a daeth ar draws rhywbeth nad oedd yn disgwyl ei weld, neu ei glywed...

    Yn nhref Benaulim yn ardal Goa fe wnaeth Owain gyfarfod dyn oedd yn gallu siarad Cymraeg, ag yntau wedi'i eni a'i fagu yn India.

    Sut hwyl gafodd yn dweud Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch?

    View more on youtube
  6. Trafod anffrwythlondeb

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Yn ddiweddar, cafodd prosiect Thorns and Flowers ei gynnal yng Nghaerdydd - oedd yn delio ag anffrwythlondeb ymhlith merched du ac o leiafrifoedd ethnig.

    Roedd yn brosiect ar y cyd rhwng Prifysgolion Caerdydd ac Aberystwyth a Crwsibl Cymru, ac mewn partneriaeth ag elusen Women Connect First.

    Mae Dr Sofia Gameiro yn ddarlithydd yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac yn gweithio ym maes seicoleg iechyd, gan arbenigo mewn anffrwythlondeb, a bu hi'n sôn wrth adran gylchgrawn Cymru Fyw am y prosiect.

    Thorns and Flowers
  7. Sgïo yng Nghymru

    Wales Online

    Does dim angen i chi fynd ar awyren, neu hyd yn oed gadael y wlad i fynd i sgïo y dyddiau yma, fel mae'r fideo yma ar Wales Online yn dangos!

    Fe wnaeth Michael Richards, 50 oed o Landeilo sgïo ym Mannau Brycheiniog yn ddiweddar, wrth i eira ddisgyn ar gopâu mynyddoedd Cymru.

    Bannau Brycheiniog
    Image caption: Eira ar y Bannau 'nôl yn 2013
  8. Beirniadu'r diwylliant celf Cymreig

    BBC Cymru Fyw

    Mae arddangosfa o waith newydd yr artist Harry Holland wedi agor yng Nghaerdydd.

    Ers y 1970au mae'r paentiwr, sy'n hanu yn wreiddiol o Glasgow, wedi byw yn y brifddinas.

    A thra iddo arbenigo gyda'i baentiadau o fenywod noeth, mae hefyd yn ddi-flewyn ar dafod ynglŷn â'r diwydiant celf Cymreig. Huw Thomas aeth i'w holi ar ran Cymru Fyw.

    Harry Holland
  9. Carcharu feiolinydd am dwyll

    BBC Cymru Fyw

    Mae feiolinydd proffesiynol o Bort Talbot wedi cael ei dedfrydu i ddwy flynedd ac wyth mis o garchar am dwyll.

    Fe wnaeth Bethan Doci, 38, bledio'n euog i dwyllo ffrindiau a chydweithwyr allan o gannoedd o filoedd o bunnau dros gyfnod o dair blynedd.

    Clywodd y llys bod tri dyn wedi rhoi mwy na £350,000 iddi, a'i bod wedi dweud wrth rhai bod ganddi ganser a'i bod angen yr arian i dalu am ei thriniaeth.

    Bethan Doci
  10. Niwl yn achosi trafferthion i awyrennau

    Maes Awyr Caerdydd

    Mae niwl yng Nghaerdydd wedi bod yn achosi trafferthion i awyrennau heddiw, gyda nifer o gwmnïau wedi gorfod glanio gerllaw oherwydd y tywydd.

    Cafodd awyren KLM o Amsterdam ei gorfodi i lanio ym Mryste, tra bo awyren Van Air o Ynys Môn wedi gorfod glanio yng Nghaerloyw.

    Bu'n rhaid i awyren Aer Lingus o Ddulyn gylchu'r maes awyr am awr cyn glanio hefyd.

    Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd bod y wybodaeth ddiweddaraf ar eu gwefan.

    maes awyr
  11. Gadael Casnewydd oherwydd y rheolwr

    BBC Sport Wales

    Mae ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Casnewydd, Graham Bean wedi gadael y clwb gan ddweud nad yw'n gallu gweithio gyda'r rheolwr Graham Westley.

    Ymunodd Bean fel ysgrifennydd y clwb yn Adran 2 lai na mis yn ol.

    Ond dywedodd bod ei berthynas gweithio gyda Westley, wnaeth ymuno â'r clwb ym mis Hydref, yn "anghynaladwy".

    Rodney Parade
  12. Pump o Gymry yng ngharfan seiclo Prydain

    BBC Cymru Fyw

    Mae pump o Gymry wedi eu cynnwys yng ngharfan elît Seiclo Prydain ar gyfer 2016-17.

    Mae'r enillwyr medalau aur Olympaidd, Geraint Thomas ac Owain Doull, ynghyd â Luke Rowe wedi eu cynnwys yn y garfan seiclo ffordd.

    Yng nghamp y merched mae Elinor Barker, enillodd fedal aur yn y ras ymlid yn Rio, wedi ei chynnwys yn y garfan rasio dycnwch ar y trac, a Becky James yn y garfan ras wib.

    Owain Doull
  13. Troi hen ysgol yn galeri celf?

    Daily Post

    Mae'r Daily Post yn adrodd bod cynlluniau ar y gweill i geisio troi hen ysgol ar Ynys Môn yn galeri celf cymunedol.

    Mae hen safle Ysgol Gynradd Aberffraw wedi bod yn wag ers iddo gau yn 2011.

  14. Carcharu dyn wnaeth ffilmio bachgen yn y Sioe Frenhinol

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn 20 oed o Dreorci wedi cael dedfryd o bedair blynedd ac wyth mis mewn canolfan i droseddwyr ifanc, a hynny am nifer o droseddau rhyw yn erbyn plant.

    Cafwyd Jac Aaron Grmusa yn euog o 11 cyhuddiad gan gynnwys paratoi i bwrpas rhyw, voyeuriaeth ac annog rhywun i gymryd rhan mewn gweithred ryw.

    grmusa
  15. Dyn yn euog o lofruddio milwr

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn oedd wedi brolio mai ef oedd y "dyn caletaf" yn Aberhonddu wedi ei gael yn euog o lofruddio milwr yn y dref.

    Roedd y Preifat Matthew Boyd, 20, ar noson allan yn Aberhonddu pan gafodd wnaeth Jake Vallely, 24, ymosod arno.

    Fe wnaeth y rheithgor ddyfarnu bod ffrind Vallely, Aaeron Evans, 23, yn ddieuog o ddynladdiad ar ôl i Lys y Goron Caerdydd glywed tystiolaeth nad oedd yn bresennol yn ystod yr ymosodiad.

    Matthew Boyd