a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Hwyl am y tro

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r oll ganddon ni am heddiw.

    Mi fydd y llif byw yn ôl am 08:00 yfory i ddod â'r diweddara' i chi o bob cwr o Gymru.

    Diolch i chi am eich cwmni heddiw.

  2. Llywodraeth i fethu targed tlodi plant

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfadde' am y tro cynta' na fyddan nhw'n llwyddo i gyrraedd eu nod o gael gwared â thlodi plant erbyn 2020.

    Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau heddiw fod 'na welliant wedi bod mewn amcanion eraill sy'n gysylltiedig â thlodi plant.

    Mae dileu tlodi plant erbyn 2020 wedi bod yn amcan tymor hir i'r llywodraeth, ac roedd yn rhan o strategaeth tlodi plant gafodd ei gyhoeddi y llynedd.

  3. Noson fwyn a sych ar y cyfan

    Tywydd, BBC Cymru

    Noson fwyn a sych ar y cyfan, ond yn cymylu gyda niwl ar y tir uchel. Bydd hi'n fwy gwyntog yn y gorllewin gyda phosibilrwydd o law yn hwyrach. Tymheredd isaf: 7°C.

    Yfory bydd hi'n gymylog ond yn troi'n brafiach yn y dwyrain yn ystod y dydd. Glaw yn debygol yn y gorllewin. Tymheredd uchaf: 12°C.

  4. Pigion Radio Cymru i ddysgwyr

    BBC Radio Cymru

    Ar wefan Radio Cymru, mae uchafbwyntiau'r wythnos ddiwethaf, o raglenni Aled Hughes, Bore Cothi a Geraint Lloyd, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i ddysgwyr Cymraeg.   

    Bore Cothi
  5. Ychydig o oedi ar y ffyrdd

    Teithio BBC Cymru

    Does dim problemau difrifol iawn ar y ffyrdd y p'nawn 'ma, ond mae 'na oedi a thraffig trwm ar yr M4 tua'r gorllewin rhwng cyffyrdd 39 a 40 ar ôl i gar dorri lawr yn gynharach.

    Mae traffig trwm hefyd ar yr A4161 ar Rover Way yng Nghaerdydd gan fod goleuadau traffig wedi torri.  

  6. Arweinydd cyngor i adael

    Cyngor Castell-nedd Port Talbot

    Bydd arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Alun Thomas, yn gadael ei swydd y flwyddyn nesa'.

    Dywedodd y cynghorydd dros ward Onllwyn wrth grŵp Llafur y sir heddiw na fydd e'n sefyll yn etholiadau lleol mis Mai 2017.

    Ychwanegodd ei fod yn fodlon aros fel arweinydd tan yr etholiadau, ond mai penderfyniad i'r grŵp fyddai hynny.

    Alun Thomas
  7. Tŷ a ddefnyddiodd Freddy Mercury a Black Sabbath yn Sir Gâr ar werth

    South Wales Evening Post

    Mae tŷ yn Sir Gaerfyrddin, lle roedd sêr roc fel Freddy Mercury a Black Sabbath yn treulio'u hamser yn y 1970au, ar werth am £1m.

    Ar wefan y South Wales Evening Post, mae lluniau o'r cartref a arferai fod yn le i fandiau o Lundain ddianc ac ymarfer ar gyfer eu teithiau. 

  8. Vaughan Roderick sy'n dehongli sesiwn holi'r prif weinidog

    BBC Cymru Fyw

    Video content

    Video caption: Holi'r Prif Weinidog: Dehongliad ein Golygydd Materion Cymreig, Vaughan Roderick
  9. Dod â chyfreithiau Cymru at ei gilydd mewn un lle

    Llywodraeth Cymru

    Bydd Llywodraeth Cymru'n cyflwyno rhaglen i greu corff o gyfreithiau Cymreig.

    Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, y bydd cyfreithiau mewn meysedd sydd wedi eu datganoli yn cael eu casglu a'u codeiddio fel rhan o god cyfreithiol Cymreig.

    Fe fydd y cyfreithiau wedyn ar gael ar wefan Cyfraith Cymru.

  10. Ysgolion Y Bala: Eglwys yn 'siomedig' gyda'r cyngor

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi datgan eu siom am y ffrae gyhoeddus am ad-drefnu ysgolion yn Y Bala yn sgil cyhoeddiad Cyngor Gwynedd y byddan nhw'n gohirio penderfyniad ar ailagor ymgynghoriad ar y mater.

    Dywedodd yr Eglwys mewn datganiad eu bod wedi eu "synnu gan ddehongliad Cyngor Gwynedd o'n safbwynt."

    "Yn wahanol i'r honiadau yn y cyfarfod, roedd ein swyddogion addysg wedi cadw cyswllt gyda swyddogion o Gyngor Gwynedd, gan wneud nifer o geisiadau i gyfarfod aeth heb eu hateb," meddai.

    Ychwanegodd eu bod yn "siomedig" bod y drafodaeth "gwbl osgoadwy" wedi ei lleisio yn gyhoeddus.

  11. Cymeradwyo cynllun addysg Gymraeg Wrecsam

    Cyngor Wrecsam

    Mae bwrdd gweithredol Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo cynllun drafft i ddatblygu addysg Gymraeg yn y sir.

    Daw hyn er i ymgyrchwyr ddweud wrth y BBC nad ydi'r cynllun yn ddigon i ateb y galw am lefydd mewn ysgolion Cymraeg eu hiaith yn yr ardal.

    Dywedodd llefarydd y cyngor ar addysg, y Cynghorydd Michael Williams, y bydd y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau bod lle i bob disgybl sydd eisiau addysg Gymraeg.

    plentyn
  12. Dyn o Lanelli'n pledio'n euog i hacio TalkTalk

    BBC Cymru Fyw

    Mae dyn ifanc o Lanelli wedi pledio'n euog i hacio cwmni cyfathrebu TalkTalk a cheisio blacmelio prif weithredwr y cwmni.

    Yn Llys yr Old Bailey, plediodd Daniel Kelley'n euog i gyhuddiadau o flacmel, hacio cyfrifiaduron a thwyll ariannol.

    Roedd wedi gofyn am 465 bitcoin - gwerth £285,000 heddiw - yn yr ymgais i flacmelio ym mis Hydref 2015.

    Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 6 Mawrth.

  13. Gohirio penderfyniad ar ymgynghoriad ysgolion Y Bala

    BBC Cymru Fyw

    Mae cabinet Cyngor Gwynedd wedi dewis oedi cyn penderfynu os y byddan nhw'n ailagor yr ymgynghoriad i ad-drefniant ysgolion Y Bala. 

    Roedd sôn y byddai'r cyngor yn ailymgynghori wedi ffrae rhyngddyn nhw â'r Eglwys yng Nghymru am statws ysgol newydd, sydd wrthi'n cael ei hadeiladu.

    Bydd y cyngor nawr yn ystyried y llythyrau ac yn trafod ymhellach gyda phobl leol.

    ysgol newydd
  14. Poeri ar weithiwr

    Cyngor Ynys Môn

    Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cyhoeddi datganiad sy'n dweud:

    Mae uwch swyddogion o Biffa a'r Cyngor Sir wedi condemnio digwyddiad lle bu i ddyn boeri ar weithiwr ailgylchu yn un o stadau'r Ynys. 

    Digwyddodd yn hwyr ym mis Tachwedd wrth i'r criw ailgylchu weithio ar Stad Tan y Bryn yn Y Fali. 

    Roedd traffig wedi ei ddal yn ôl am gyfnod byr tra bod y bocsys ailgylchu yn cael eu gwagio i mewn i lori ailgylchu Biffa, ac yna daeth dyn allan o fan arian a cherdded at y gyrrwr y lori. 

    Fe agorodd y ffenest cyn i'r dyn boeri yn ei wyneb a gadael.

  15. Beirniadu Carwyn Jones ar fewnfudo

    Y Cymro

    Yn ôl Y Cymro, mae Arweinydd Plaid Cymru wedi beirnadu Prif Weinidog Cymru am “wyrdroi gwirionedd” mewnfudo yng Nghymru.

    Defnyddiodd Leanne Wood sesiwn heddiw o Gwestiynau i’r Prif Weinidog i herio’r Prif Weinidog dros ei sylwadau fod safbwynt Arweinydd Llafur y DG ar fewnfudo yn “chwarae i ddwylo UKIP”.

  16. Ymchwilio wedi anafiadau gwraig Scott Gibbs yn Yr Eidal

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r heddlu yn Yr Eidal wedi dechrau ymchwiliad i'r gwrthdrawiad achosodd anafiadau difrifol i wraig cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol.

    Cafodd Kate Weaver-Gibbs, 32 oed ac yn wraig i Scott Gibbs, anafiadau i'w phen a'i hasgwrn cefn pan gafodd ei tharo gan feic modur.

    Mae Ms Weaver-Gibbs yn parhau yn yr ysbyty ond dywedodd heddlu'r Eidal bod llawdriniaeth diweddar wedi bod yn llwyddiannus.

    kate weaver gibbs