Cynefin Hedd Wyn mewn 360°

  • Cyhoeddwyd
Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn

Ar ganmlwyddiant ei farwolaeth, dyma deyrnged arbennig i'r bardd Hedd Wyn gafodd ei ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, chwech wythnos cyn i'w gerdd, Yr Arwr, ennill Cadair yr Eisteddfod.

> TAPIWCH YMA I WYLIO'R FIDEO 360°, dolen allanol

Bu farw Hedd Wyn ymhell o adre', ar 31 Gorffennaf 1917, yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond golygfeydd godidog ei gynefin sy'n serennu yn y fideo yma sy'n defnyddio'r technolegau ffilm diweddaraf i dalu teyrnged i'r bardd a'r tirwedd a'i ysbrydolodd.

Trwy ddefnyddio dulliau sain arloesol a lluniau 360° trawiadol, mae'n mynd â'r gwyliwr yn syth i lethrau'r mynyddoedd lle troediodd Hedd Wyn. Mae'r llonyddwch a phrydferthwch byd natur, oedd yn rhan mor annatod o waith y bardd, yn cyferbynnu'n llwyr gydag erchyllter maes y gad lle bu farw.

Mae'r fideo'n seiliedig ar un o gerddi mwyaf adnabyddus Cymru, sef 'Englynion Coffa Hedd Wyn' gan R Williams Parry. Ac mae dau o sêr presennol Cymru wedi cyfrannu at y darn hefyd. Cyfansoddwyd y gerddoriaeth yn arbennig gan Cian Ciarán o'r Super Furry Animals a'r actor Julian Lewis Jones sy'n darllen y farddoniaeth.

Mae'r ffilm wedi ei chynllunio i gael ei gwylio drwy benwisg rhith wirionedd (VR) a chlustffonau, ond mae'n gweithio ar unrhyw ddyfais. Symudwch eich ffôn, neu lusgwch y llygoden i edrych o gwmpas. Trowch y sain ymlaen i gael y profiad gorau.

Bydd cyfle hefyd i wylio'r ffilm ym mhabell BBC Cymru Wales yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn rhwng 4-12 Awst.

Pwy oedd Hedd Wyn?

Hedd Wyn oedd enw barddol y bugail o Drawsfynydd, Ellis Humphrey Evans. Ar ôl bwrw ei brentisiaeth mewn eisteddfodau lleol, rhoddodd ei fryd ar ennill Cadair Penbedw (Birkenhead) ym 1917.

Beth ddigwyddodd iddo?

Roedd y Rhyfel Byd Cyntaf yn ei anterth a rhoddwyd pwysau ar ffermwyr Cymru i anfon eu meibion i faes y frwydr. Gan mai Ellis oedd yr hynaf o feibion fferm Yr Ysgwrn, fe ymunodd â Phymthegfed Bataliwn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac fe'i hanfonwyd i'r ffosydd yn Ffrainc.

Sut ddaeth e'n ffigwr eiconig?

Gorffennodd ysgrifennu cerdd Yr Arwr ar y ffordd i Fflandrys. Fe'i hanfonodd o'r ffosydd dan y ffug enw Fleur-de-Lis. Pan gyhoeddwyd enw'r bardd buddugol o lwyfan yr Eisteddfod bu distawrwydd llethol. Roedd Hedd Wyn wedi'i ladd chwe wythnos ynghynt a daeth 'Bardd y Gadair Ddu' yn symbol o golled a galar y genedl.

EWCH I'R ADRODDIAD ARBENNIG YMA I DDARGANFOD MWY AM FYWYD HEDD WYN

Disgrifiad o’r llun,

Tyner yw'r lleuad heno...

Hefyd gan y BBC