Main content

Taith Feics Aled Hughes 2017

Mae Aled Hughes am roi cynnig ar ei her fwyaf eto!

"Siarad, crwydro Cymru a chyfarfod yr hwn a'r llall – pa well fordd i wneud hynny nac ar gefn beic. Trwy gyflwyno o sawl ardal a chrwydro ar ddwy olwyn, dwi’n gobeithio casglu cymaint o arian a phosib i BBC Plant Mewn Angen."


Map Taith Feics Aled Hughes 2017

Dilynwch her Aled!

Bydd Aled yn adrodd yr hanes ar ei raglen foreol am 8.30am ar BBC Radio Cymru yn ogystal ag ar dudalennau Facebook a Trydar yr orsaf.

Tecstiwch eich Cefnogaeth

I gefnogi’r her mi allwch gyfrannu swm o £5 drwy tecstio PUMP i 70405.

Mae tecst yn costio £5 yn ychwanegol i’ch cost safonol arferol. Mi fydd yr holl gyfraniad yn mynd at BBC Plant Mewn Angen. Mae rhaid bod yn 16 neu hŷn a chofiwch ofyn caniatad yr hwn sy’n talu’r bil. Darllenwch y telerau ac amodau llawn.

Dyddiad Cychwyn Diwedd
13 Tachwedd Caerdydd Merthyr
14 Tachwedd Caerfyrddin Llangrannog
15 Tachwedd Bala Yr Wyddgrug
16 Tachwedd Llanrwst Llandudno
17 Tachwedd Aberdaron Bangor