Lluniau'r Steddfod: Dydd Sadwrn // Saturday's pictures from the Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd

Y lluniau gorau o ddiwrnod agoriadol Eisteddfod Ynys Môn. Gallwch weld canlyniadau ac uchafbwyntiau'r cystadlu yn ein hadran arbennig ar Cymru Fyw.

All the best pictures from the opening day of the National Eisteddfod. You can see all the day's highlights and results on our special Eisteddfod website.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r olygfa fydd yn croesawu Eisteddfodwyr i Fôn eleni // Thousands of Eisteddfod goers will cross the Menai Bridge to Anglesey this week

Disgrifiad o’r llun,

Hwrê! Mae Madi o Borthmadog ar ben ei digon fod yr Eisteddfod wedi cychwyn // Cartwheels of delight as the Eisteddfod gets underway

Disgrifiad o’r llun,

Ychydig o baratoadau munud olaf // Last minute preparations

Disgrifiad o’r llun,

Dadlwytho seddau o wellt ar gyfer llwyfan y Llannerch // Offloading bales of hay for a seating area

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n daith hir o'r maes parcio i'r llwyfan pan fod yr offer yn drwm // It can be quite a trudge from the parking area to the stage when you're carrying a heavy load

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r tensiwn ar wynebau'r aelodau ifanc yma o Fand Dyffryn Nantlle yn amlwg wrth iddyn nhw baratoi i fod y cystadleuwyr cyntaf ar lwyfan y Brifwyl // Trumpets at the ready! Dyffryn Nantlle are first up on stage in the Brass Bands Section 4 competition

Disgrifiad o’r llun,

Beth sydd ar y 'gweill' yn y pafiliwn heddiw? Gwneud gwaith crosio i gyfeiliant y bandiau pres // A stitch in time! Catching up with some crochet work as the brass bands compete in the main pavilion

Disgrifiad o’r llun,

Angharad Mair Jones, arweinydd Côr Crymych a'r Cylch yn hapus dros ben gyda'r fuddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru // Angharad Mair Jones, conductor of the Crymych choir, celebrates their victory in style

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cystadleuwyr i gyd yn anelu'n uchel - fel y cerflun yma! // Aiming high!

Disgrifiad o’r llun,

Allan o wynt? Bydd Neil 'Maffia' Williams yn chwarae ym mand Bryn Fôn heno ar ôl cystadlu gyda Seindorf Dyffryn Nantlle yn gynharach // Tuba player Neil Williams won't get much chance to catch his breath. He's following up his stint on the Eisteddfod stage with an appearance at a gig tonight!

Disgrifiad o’r llun,

Aneirin Karadog yn cael hoe o farddoni am eiliad er mwyn mynd am dro o gwmpas y Maes gyda'i ferch fach Sisial a'i fab Erwan Teifi // Last year's winner of the Eisteddfod chair, Aneirin Karadog, takes a break from poetry to check out the Maes with his family

Disgrifiad o’r llun,

Y cerddorion Gruff Rhys a Lisa Jên yn cael eu hanfarwoli ar y Maes // Portraits of musicians Gruff Rhys, of the Super Furry Animals, and Lisa Jên of folk band 9Bach, adorn the Maes

Disgrifiad o’r llun,

Dyma sy'n digwydd pan mae Achub y Plant yn cynnal arwerthiant o hen fagiau a hetiau i godi arian! // Luckily for this volunteer there's no dress code at the Eisteddfod

Disgrifiad o’r llun,

Does dim gwirionedd yn y si bod bwriad cynnal cystadleuaeth dawnsio polyn eleni... diolch byth! // Rumours that the Eisteddfod's introducing a pole dancing competition have been quashed...