a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. Nos da!

    BBC Cymru Fyw

    Dyna'r oll gan griw'r llif byw heddiw.

    Fe fyddan ni'n ôl am 08:00 yn y bore gyda mwy o straeon o bob cwr o Gymru fel y maen nhw'n torri.

    Diolch am ddilyn.

  2. Traeth Barafundle: Un o'r rai prydferthaf yn y byd

    Wales Online

    Mae WalesOnline yn adrodd fod cylchgrawn Passport wedi enwi traeth Barafundle yn Sir Benfro fel un o'r 25 traeth mwyaf prydferth yn y byd.

    Traeth Barafundle
  3. Nos Galan yn y ras am wobr

    Cyngor Rhondda Cynon Taf

    Mae ras flynyddol Nos Galan, sy'n cael ei chynnal yn flynyddol yn Aberpennar, ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Rhedeg y DU eleni.

    Roedd y ras yn fuddugol yng nghategori'r ras hwyl orau yn 2014, ac mae'n nhw'n gobeithio ailgipio'r wobr eleni.

    Fe redodd 1,600 o bobl yn y digwyddiad ar 31 Rhagfyr, gan gynnwys rheolwr pêl-droed Cymru, Chris Coleman.

    Chris Coleman
    Image caption: Chris Coleman oedd rhedwr dirgel ras Nos Galan 2016
  4. Cyngor ddim am herio penderfyniad Ysgol Groves

    BBC Cymru Fyw

    Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi na fyddan nhw'n herio penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailrestru adeilad yr hen Ysgol Groves yn y dre'.

    Ym mis Tachwedd 2016, fe lwyddodd y cyngor i wyrdroi penderfyniad gwreiddiol y llywodraeth i'w restru - ond aeth y llywodraeth ati i wneud hynny am yr eildro yn fuan wedyn.

    Mae'r penderfyniad diweddaraf yn golygu na fydd y cyngor yn medru gwireddu eu hamcan o ail-ddatblygu'r safle ac adeiladu o leiaf un ysgol gynradd yno.

    Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, ei bod "yn anodd gweld pa ddefnydd buddiol y gellir ei wneud o'r adeilad hwn yn ei gyflwr rhestredig".

    Ychwanegodd: "Nawr fod yr adeilad wedi ei restru, bydd yn costio symiau anferthol o arian i'r cyngor i'w gadw, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i'n cefnogi o ran hyn."

    Ysgol Groves
  5. Troi'n oerach dros nos

    Tywydd, BBC Cymru

    Robin Owain Jones sydd yma gyda manylion tywydd heno:

    "Mi fydd ‘na gymysgedd o gyfnodau sych a chawodydd o law man dros nos", meddai Robin.

    "Yn ddigon mwyn efo awel gref o’r de-orllewin i gychwyn, yna mi wneith hi godi’n wyntog a theimlo’n tipyn oerach yn ystod yr oriau man wedi i’r gwynt newid cyfeiriad i chwythu o’r gogledd-orllewin. 

    "Y tymheredd ddim is na 6C."

    Am eich tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru. 

  6. Atal y gwaith o adeiladu'r ffordd i'r Egin

    Mae BBC Cymru'n deall bod y gwaith o adeiladu ffordd i gysylltu'r A40 gyda datblygiad Yr Egin a 1,000 o dai newydd yng Nghaerfyrddin wedi ei atal.

    Mae'n debyg bod yr awdurdod lleol yn dal i drafod gyda pherchnogion tir o amgylch llwybr y ffordd newydd.

    Datblygiad gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw'r Egin, ac yno fydd pencadlys S4C o fis Mawrth 2018 ymlaen.

    Fe ddywedodd cwmni Persimmon Homes, sy'n adeiladu'r tai, bod Cyngor Sir Gâr wedi "gorfod stopio'r gwaith ar y ffordd... tra bod trafodaethau'n parhau gyda'r tirfeddianwyr perthnasol".

    Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, sy'n gyfrifol am yr amgylchedd ar fwrdd gweithredol y cyngor, bod yr awdurdod "mewn trafodaethau gyda nifer o dirfeddianwyr a datblygwyr" a bod "nifer o geisiadau cynllunio" yn cael eu prosesu.

    Ychwanegodd ei bod yn disgwyl y bydd y prosiect wedi'i gwblhau ar amser, ond dywedodd y gall y cyngor ddefnyddio gorchmynion prynu tir os nad ydi'r trafodaethau yn llwyddiannus.

    Y ffordd
  7. Sesiwn Holi'r Prif Weinidog: Dadansoddiad Aled ap Dafydd

    Video content

    Video caption: Holi'r Prif Weinidog: Dadansoddiad
  8. Ffordd ar gau ger Blaenau Ffestiniog

    Teithio BBC Cymru

    Mae'r A496 wedi cau i'r ddau gyferiad rhwng y gyffordd â'r A487 ger Maentwrog a'r troad tua Llan Ffestiniog.

    Yr awgrym yw nad oes 'na oedi mawr ar hyn o bryd, ond bydd y digwyddiad yn effeithio ar fodurwyr sy'n teithio rhwng Maentwrog a Blaenau Ffestiniog.

  9. Mwy o achosion o ffliw adar yn 'debygol'

    BBC Cymru Fyw

    Mae'n "debygol" y bydd mwy o achosion o straen ffliw adar H5N8, yn ôl ysgrifennydd yr amgylchedd.

    Mewn datganiad i'r Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd Lesley Griffiths na fyddai'r risg yn lleihau dros yr wythnosau nesa' ac y gallai gynyddu.

    Roedd hi'n siarad ddiwrnod wedi i hwyaden wyllt gael ei chanfod yn farw mewn gwarchodfa adar yng Nghonwy.

    Daeth hynny wedi nifer o achosion yn y de orllewin, ond mae swyddogion yn dweud nad oes llawer o risg i iechyd y cyhoedd.

  10. Gohirio trafodaeth Mesur Cymru

    Mae Mesur Cymru yn mynd gerbron yr Arglwyddi yn San Steffan y prynhawn 'ma. Ond doedd hi ddim yn ddechrau gwych i'r drafodaeth, gyda'r gweinidog Nick Bourne o Swyddfa Cymru ar goll...

    View more on twitter
  11. Cerdd dantwyr yn chwilio am logo!

    Llafar Bro

    Yn ôl papur Llafar Bro, dim ond dau ddiwrnod sydd ganddoch chi ddarpar ddylunwyr roi cynnig ar greu logo i Ŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018.

    Mae'r trefnwyr yn dweud y dylai’r logo gyfleu neges am yr ŵyl a`r ardal leol, ac y dylai fod yn syml ac yn cynnwys llinellau clir. Y dyddiad cau yw Ionawr 12.

  12. Arian ymchwil: Ymateb Llywodraeth y DU

    BBC Cymru Fyw

    Mae Llywodraeth y DU wedi ymateb i alwad dwy o weinidogion Llywodraeth Cymru i Gymru gael cyfran o arian y corff cyllido ymchwil newydd, UKRI.

    Dywedodd llefarydd bod y DU yn "arweinydd byd mewn gwyddoniaeth ac ymchwil" a'u bod yn addo £2bn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2020/21.

    Ychwanegodd eu bod yn "gweithio'n agos gyda'r gwledydd datganoledig i greu UKRI, i sicrhau ei fod yn llais cryf ac unedig yn y DU ac ar draws y byd".

  13. Mesur Cymru: Awgrymu newidiadau

    Golwg 360

    Bydd dau benderfyniad "tyngedfennol" ar ddyfodol Mesur Cymru heddiw, yn ôl erthygl ar Golwg360.

    Mae'r wefan yn adrodd bod un gwelliant yn Nhŷ'r Arlgwyddi yn awgrymu codi'r swm y gallai'r Cynulliad ei fenthyg i £2bn.

    Mae'r ail benderfyniad yn ymwneud â sefydlu gweithgor fyddai'n ystyried a yw'r drefn newydd yn gweithio.

  14. 'Dim argyfwng' gofal brys Cymru, medd ysgrifennydd

    BBC Cymru Fyw

    Nid oes argyfwng mewn adrannau gofal brys y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.

    Dywedodd Mr Gething wrth ACau bod "pwysau gwirioneddol" ond nad oedd y dystiolaeth yn "adlewyrchu" bod y gwasanaeth gofal brys mewn argyfwng.

    Dywedodd: "Mae pwysau gwirioneddol ond dydw i ddim yn derbyn bod argyfwng."

    Roedd yr ysgrifennydd yn ymateb i gwestiwn Plaid Cymru wedi datganiad y Coleg Brenhinol Meddygaeth Brys bod "gwasanaethau brys yng Nghymru mewn cyflwr o argyfwng".

    Gething
  15. Llofruddiaeth Hen Golwyn: Mwy o amser i holi dynion

    Heddlu Gogledd Cymru

    Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod swyddogion wedi cael amser ychwanegol i holi tri dyn o Hen Golwyn sydd wedi eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.

    Mae'r dynion yn cael eu holi wedi marwolaeth David James Kingsbury ar 5 Ionawr.

    Cafodd dynes ei rhyddhau ar fechnïaeth ddydd Llun.

    Mae swyddogion yn dal i apelio am wybodaeth yn ymwneud â'r digwyddiad.

  16. Technoleg yn 'fygythiad difrifol' i'r Gymraeg

    Taro'r Post

    BBC Radio Cymru

    Mae arbenigwr mewn technoleg a'r Gymraeg wedi dweud wrth Taro'r Post ar BBC Radio Cymru bod datblygiadau fel Siri ac Alexa yn "un o'r bygythiadau mwyaf difrifol" i'r iaith Gymraeg.

    Mae technoleg o’r fath yn dibynnu ar adnabod lleisiau ac iaith defnyddwyr i'w rheoli.

    Dywedodd Delyth Prys y gallai arwain at deuluoedd yn defnyddio Saesneg yn eu cartrefi yn hytrach na'r Gymraeg.

    Ychwanegodd: "Y drwg ydy mae'r cwmniau mawr yma fel Apple, Amazon, Microsoft neu Google i gyd yn datblygu'r dechnoleg er mwyn gwenud elw, a tydi nhw'n malio dim am yr iaith Gymraeg."

    Alexa
    Image caption: Mae Alexa, gan gwmni Amazon, yn adnabod lleisiau defnyddwyr pan maen nhw'n siarad
  17. Ymosodiad rhyw: Apelio am dystion

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae'r heddlu'n apelio am dystion a gwybodaeth wedi ymosodiad rhyw mewn cartref yn Ninbych-y-Pysgod.

    Fe ddigwyddodd rhwng 02:00 a 02:40 fore Llun.

    Mae'r awdurdodau'n chwilio am ddyn gwyn yn ei 20au, sydd â gwallt byr tywyll a sy'n bum troedfedd wyth modfedd (173cm) o ran taldra.

  18. Church yn gwrthod cais i berfformio i Trump

    BBC Wales News

    Mae'r gantores Charlotte Church wedi dweud ar ei chyfrif Twitter iddi wrthod cais gan arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i berfformio pan fydd yn cael ei wneud yn arlywydd yn swyddogol.

    Fe wnaeth y Gymraes berfformio i Barack Obama yn 2009 a George W Bush yn 2001.

    Church
  19. Elfyn Evans yn ôl ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd

    BBC Cymru Fyw

    Bydd y Cymro Elfyn Evans yn ôl ym Mhencampwriaeth Rali'r Byd yn 2017, wedi cadarnhad y bydd yn aelod o dîm DMACK.

    Bydd Evans, 28, yn gyrru Ford Fiesta WRC gyda'i gyd-yrrwr Daniel Barritt.

    Fe wnaeth Evans lwyddo i ennill Pencampwriaeth Rali Prydain yn 2016 gyda'r tîm.

    Elfyn Evans