a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Diolch am ddilyn llif byw arbennig Cymru Fyw ar gyfer Etholiadau Lleol 2017.

    Fe fydd y llif byw dyddiol yn dychwelyd fore Llun am 08:00, ac fe fydd y llif byw arbennig yn dychwelyd ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol ar 8 Mehefin.

  2. Crynodeb o'r canlyniadau

    Etholiadau Lleol 2017

    Wedi i holl ganlyniadau etholiadau lleol yng Nghymru gael eu cyhoeddi, roedd yna golledion i'r blaid Lafur ond nid oedd y colledion cynddrwg â'r darogan.

    Fe gollodd y Blaid Lafur reolaeth ar gynghorau Pen-y-bont a Blaenau Gwent ac fe fyddan nhw hefyd yn gorfod aros i weld a ydyn nhw'n cadw eu gafael ar Ferthyr Tudful - oherwydd marwolaeth un ymgeisydd mae isetholiad eto i'w gynnal, ond fe lwyddodd y blaid i gadw rheolaeth ar ddinasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

    Fe gipiodd Plaid Cymru 202 o seddi ar draws Cymru, 33 yn fwy na'r tro diwethaf.

    Mae ymgeiswyr Annibynnol wedi cipio 322 sedd, 13 yn fwy na'r tro diwethaf, tra bod y Ceidwadwyr wedi cipio 184 sedd, 80 yn fwy nag yn 2012.

    Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol gwymp o 73 i 62 yn nifer eu seddi, tra bod UKIP wedi colli'r ddwy oedd ganddynt hwy a'r Gwyrddion wedi ennill un.

  3. Pryd fydd yr etholiadau lleol nesaf?

    Bethan Lewis

    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Video content

    Video caption: Etholiadau Lleol: Pryd fydd yr etholiadau nesaf?
  4. Sut benwythnos?

    Tywydd, BBC Cymru

    "Heno, fe wneith hi gymylu ac fe fydd ychydig yn damp dros nos. 

    "Bydd yn fwy cymylog 'fory, ond yn ddiwrnod sych arall gydag ysbeidiau braf yn ystod y dydd, yn enwedig ar hyd Bae Ceredigion a Sir Benfro. Y gwynt yn ysgafnach fory, ond y tymheredd radd neu ddwy yn is na heddiw, wrth i'r gwynt chwythu o'r gogledd ddwyrain. 

    "Bydd yn brafiach eto ddydd Sul ac yn gynnes yn y de - yn codi i 20C yn Abertawe a Chaerdydd, ond yn oerach ar hyd glannau'r gogledd. 

    "Fe fydd y tywydd sych yn para tan o leia' ddydd Mercher."

    Mwy ar y wefan dywydd.

  5. Pontypridd yn cael caniatâd i chwarae gartref

    Wales Online

    Mae'r Wales Online yn adrodd bod Clwb Rygbi Pontypridd wedi cael caniatâd i lwyfanu'r gêm dyngedfenol ar Heol Sardis yn erbyn Rygbi Gogledd Cymru yn Uwch gynghrair y Principality ddydd Sadwrn.

    Mae'r penderfyniad wedi'i wneud yn dilyn cwynion am gae artiffisial 3G Pontypridd ar ôl i nifer o chwaraewyr Merthyr ddioddef llosgfeydd i'w croen wedi iddyn nhw chwarae ar y cae ddiwedd mis Mawrth. 

  6. Bandiau Eisteddfod yr Urdd

    Mae Eisteddfod yr Urdd wedi cyhoeddi pa fandiau fydd yn chwarae ar y maes yn ystod yr ŵyl ym Mhen-y-bont ar Ogwr eleni.

    Ymysg y bandiau ar y Llwyfan Perfformio mae Brigyn, Uumar, Ani Glass, Adwaith a Sŵnami.

    View more on twitter
  7. Dau o Gymru yn 'nhîm y tymor' y Pro12

    Rygbi, BBC Cymru

    Mae dau chwaraewr o Gymru, Ken Owens a James Davies - y ddau yn chwarae i'r Scarlets - wedi eu cynnwys yn nhîm delfrydol y tymor yn y Guinness Pro 12. 

    Nhw yw'r unig chwaraewyr o Gymru i'w dewis gan banel cyn Gwobrau'r Guinness PRO12 ddydd Sul, 7fed o Fai yn Nulun.

    View more on twitter
  8. Y ward heb yr un ymgeisydd

    BBC Cymru Fyw

    Mae cystadlu brwd am seddi mewn sawl lle yn yr etholiadau, ac mae 92 cynghorydd wedi cael eu hethol heb bleidlais am nad oes unrhyw un yn sefyll yn eu herbyn.

    Ond mae un ward ym Mhowys, Yscir ger Aberhonddu, lle does neb yn sefyll. Ellis Roberts aeth yno i holi sut y digwyddodd hynny.

    Video content

    Video caption: Dim ymgeiswyr i ward Yscir
  9. Y Tŵr yn torri tir newydd

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Caryl Hughes a Gwion Thomas yw cantorion sy'n camu i sgidiau John Ogwen a Maureen Rhys wrth i fersiwn opera o ddrama enwog Gwenlyn Parry, Y Tŵr, gael ei pherfformio am y tro cyntaf.

    Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs efo'r ddau am yr her o berfformio'r opera arloesol.

    Gwion Thimas a Caryl Hughes yn Y Twr
  10. CANLYNIAD LLAWN: Conwy

    Etholiadau Lleol 2017

    Graffeg
  11. Dyn o Grymych ar goll

    Heddlu Dyfed Powys

    Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth am Islwyn Selby o Grymych, sydd wedi diflannu o'r Ysbyty yn Hwlffordd.

    Mae'n cael ei ddisgrifio fel dyn 5'8 modfedd ac yn gwisgo sbectol. 

    Llun
  12. Dim plaid yn cael mwyafrif yng Nghonwy

    Etholiadau Lleol 2017

    Y canlyniadau terfynol 

     Annibynwyr: 21 

    Ceidwadwyr: 16 

    Plaid Cymru: 10

     Llafur: 8 

    Dem Rhydd: 4 

  13. Caerffili: Dadansoddi wedi'r canlyniad

    Etholiadau Lleol 2017

    Gohebydd y BBC, Paul Heaney sydd yn crynhoi yr hyn ddigwyddodd yng Nghaerffili:

    Roedd hi'n agos mewn sawl ward yng Nghaerffili rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru. 

    Dywedodd cyn ddirprwy arweinydd y Cyngor, David Poole, y bydd ei blaid yn cyfarfod ddydd Llun i ethol arweinydd newydd i'r cyngor. 

    Mae'n bwriadu ymgeisio ei hun am y rôl. 

    Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru yn y cyngor, Colin Mann wedi dweud ei fod yn "siomedig" na wnaeth y blaid gipio mwy o seddi ond bod yna hefyd arwyddion positif. 

  14. Llwyddiant i Radio Cymru am raglen ddogfen ar Aberfan

    BBC Radio Cymru

    View more on twitter
    Alun Thomas
    Image caption: Alun Thomas, cyflwynydd y rhaglen, yn derbyn y wobr
  15. Andy Burnham yw maer Manceinion

    Etholiadau Lleol 2017

    Andy Burnham, y cyn AS Llafur, fydd Maer newydd Manceinion.

    Burnham
  16. Newydd dorriCANLYNIAD LLAWN: Caerffili

    Etholiadau Lleol 2017

    graffeg