Y cyn-AS Llafur ac SDP Ednyfed Hudson Davies wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Ednyfed Hudson Davies

Mae'r cyn-Aelod Seneddol Ednyfed Hudson Davies wedi marw yn 88 oed.

Roedd yn AS Llafur dros hen etholaeth Conwy rhwng 1966 a 1970, ac wedyn dros Gaerffili rhwng 1979 a 1983.

Roedd yn un o'r aelodau adawodd y Blaid Lafur am blaid newydd yr SDP yn 1981.

Yn ogystal, roedd yn adnabyddus am ei gyfnod fel cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru ac fel darlledwr.

Disgrifiad o’r llun,

Ednyfed Hudson Davies yn ymgyrchu ym Methesda, Gwynedd, yn 1970

Yn siarad ar Raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru yn 2013, dywedodd nad oedd wedi bwriadu cael gyrfa mewn gwleidyddiaeth - ond i un o drefnwyr y Blaid Lafur ofyn iddo ystyried hynny cyn etholiad cyffredinol 1966.

Dywedodd nad oedd yn disgwyl ennill, ychwaith, wedi iddo gael ei ddewis fel ymgeisydd y blaid dros etholaeth Conwy, oedd yn cynnwys dinas Bangor lle treuliodd rhan o'i fagwraeth.

"Yn hollol annisgwyl, mi enillais i Gonwy," meddai.

Collodd y sedd bedair blynedd yn ddiweddarach i'r Ceidwadwr Wyn Roberts, aeth ymlaen i gynrychioli'r ardal am y 27 mlynedd nesaf.

'Gelyniaeth bersonol'

Treuliodd rhan o'r 1970au yn gweithio fel cadeirydd ar Fwrdd Croeso Cymru, a soniodd am ei falchder bod "twristiaeth ffermio" wedi datblygu yn ystod y cyfnod, gan "drawsnewid cefn gwlad Cymru".

Dychwelodd i Dŷ'r Cyffredin yn 1979 fel AS dros Gaerffili, ond dywedodd bod yr awyrgylch yn y Blaid Lafur "wedi newid yn llwyr" erbyn hynny, gyda "gelyniaeth bersonol" o fewn y blaid.

"Nid dyma'r Blaid Lafur roeddwn i'n credu ynddi," meddai.

Gadawodd y blaid am yr SDP yn 1981, ac ymgeisiodd yn aflwyddiannus am sedd Basingstoke yn enw'r blaid honno yn etholiad cyffredinol 1983.

Roedd yn byw yn ne Lloegr yn ddiweddarach yn ei fywyd, lle bu'n llywydd ar ganolfan y New Forest yn Lyndhurst, Sir Hampshire.

'Gwleidydd craff'

Un sy'n cofio Ednyfed Hudson Davies yw'r cyn-Aelod Seneddol Gwynoro Jones.

"Mae fy atgofion i o Ednyfed yn mynd yn ôl i'r 60au'r ganrif ddiwethaf, a phan enillodd sedd Conwy yn 1966," meddai Mr Jones.

"Doedd Ednyfed ddim yn disgwyl ennill yr etholiad a dweud y gwir... doedd o ddim wedi meddwl mynd yn wleidydd cyn hynny gan ei fod yn ddarlledydd eithaf adnabyddus ar y pryd.

"Pan gollodd o'i sedd i Wyn Roberts, pylodd ein cysylltiad nes iddo fel finnau adael y Blaid Lafur yn ddiweddarach gan ymuno gyda'r SDP, byddwn wedyn yn ei weld yng nghynadleddau'r blaid."

Ychwanegodd Gwynoro Jones: "Roedd Ednyfed yn ddyn galluog iawn ac yn wleidydd craff. Coffa da amdano."