a gafodd drwydded deledu?

You need one to watch live TV on any channel or device, and BBC programmes on iPlayer. It’s the law.

darganfyddwch fwy
Nid oes gennyf drwydded deledu

Y diweddaraf yn fyw

Mae pob amser yn lleol i'r DU

Cyfrannu

  1. A dyna ni...

    BBC Cymru Fyw

    Fe fydd y llif byw yn dychwelyd am 08:00 fore Mercher.

  2. Cwest: 'Cyfle i ymyrryd' wedi'i fethu

    BBC Cymru Fyw

    Mewn cwest i farwolaeth dyn ger Bangor, mae crwner wedi disgrifio'r

    Diflannodd Michael Bryn Jones, 39 oed o Landudno, yn oriau mân 2 Ebrill 2016 wedi iddo fod yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor yn gofyn am gymorth.

    Clywodd y cwest iddo fynd i uned iechyd meddwl Hergest, ond na chafodd fynediad. Fe wnaeth staff yno awgrymu ei fod yn mynd i adran ddamweiniau'r ysbyty.

    michael bryn
  3. Alex a'r anfarwolion

    Cylchgrawn, Cymru Fyw

    Am bump o'r gloch o nos Lun i nos Wener bydd Alex Humphreys i'w gweld yn cyflwyno rhaglen newyddion Ffeil ar S4C, ond yr wythnos diwetha' doedd hi ddim yn y stiwdio yn Llandaf, ond yn gorymdeithio i'r Sgwâr Coch yn Moscow. 

    Mae Alex yn sôn wrth Cymru Fyw am yr anrhydedd o gael cynrychioli Cymru yn un o ddigwyddiadau pwysicaf y flwyddyn yn Rwsia.  

    gorymdaith
  4. Sych, gwlyb a sych...cyn troi'n wlyb

    Tywydd, BBC Cymru

    Rhian Haf sydd yma gyda rhagolygon tywydd heno:

    "Mi neith y glaw glirio'n gyfangwbl am gyfnod heno, ond fydd o'n symud yn ôl dros y wlad dros nos, er yn aros yn sych i raddau ymhellach i'r gorllewin. 

    "Fydd hi'n dal yn sych yn y gorllewin fory, er yn eitha gwlyb yn nwyrain y wlad."

    Am eich tywydd lleol, ewch i wefan dywydd BBC Cymru.

  5. 'Y GIG mewn sefyllfa gref i wrthsefyll ymosodiad seibr'

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn sefyllfa gryfach i wrthsefyll ymosodiad seibr am eu bod wedi paratoi yn drylwyr, meddai cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.

    Dyma'r corff sy'n cydlynu systemau cyfrifiadurol ar draws byrddau iechyd Cymru.

    Mae Andrew Griffiths hefyd yn honni bod buddsoddi diweddar mewn systemau cyfrifiadurol yn golygu bod llai o wendidau yn bodoli.

  6. Rho'r olwyn ymlaen Geraint!

    Twitter

    Mae'r Giro d'Italia newydd drydar y fideo yma o'r Cymro Geraint Thomas yn paratoi ar gyfer dechrau degfed cymal y ras, sydd yn erbyn y cloc. 

    Mae Thomas yn safle 17 ar ôl bod mewn damwain echdoe, sef lle fydd e'n aros os na wneith gofio rhoi ei olwyn ôl ymlaen.

    View more on twitter
  7. Diwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru 2017

    Cyngor Gwynedd

    Bydd Diwrnod y Lluoedd Arfog Gogledd Cymru yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon eleni.

    Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar 17 Mehefin. 

    Bydd y diwrnod yn cynnwys ystod eang o weithgareddau gan gynnwys gorymdaith filwrol a gwasanaeth ar y Maes, arddangosfeydd awyrennau ac offer milwrol, adloniant gan artistiaid lleol a chôr RAF Fali. 

    Bydd gwirfoddolwyr o elusennau milwrol yn bresennol yn y dref hefyd er mwyn darparu gwybodaeth a chyngor.

    tanc
  8. Darganfod cleddyf hynafol yn Afon Tywi

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r dirgelwch yn parhau am union hanes cleddyf o'r ddeunawfed ganrif gafodd ei ganfod ar wely'r Afon Tywi yng Nghaerfyrddin.

    Cwrwglwr lleol, Andrew Davies, ddaeth o hyd i'r arf wrth osod ei rwydi ar yr afon.

    Mae'r math o gleddyf gafodd ei ddarganfod yn cael ei gysylltu gan amlaf ag Indonesia, ond maent hefyd a chysylltiad â Malaysia, Gwlad Thai, ac ynysoedd y Philipinas.

    cleddyf
  9. Gofal - Chilli peryg!

    Daily Post

    Mae Mike Smith, garddwr o Lanelwy wedi datblygu planhigyn chilli sydd mor dwym, fyddai'n eich lladd petai chi'n ei fwyta, yn ôl y Daily Post heddiw.

    Ond mae'n debyg fod gan y planhigyn ddefnydd ym maes meddygaeth, gan fod yr olew o'r chilli'n ddefnyddiol fel anaesthetig.

  10. Peilonau: Barnwyr yn gwrthod her gyfreithiol

    Steffan Messenger

    Gohebydd Amgylchedd BBC Cymru

    Mae barnwyr yn yr Uchel Lys wedi gwrthod her gyfreithiol i geisio atal ceblau rhag cael eu codi ar draws rhannau o Gonwy a Sir Ddinbych. 

    Mae cwmni SP Manweb yn bwriadu codi 18 o beilonau sy'n cysylltu dwy fferm wynt yng Nghoedwig Clocaenog gydag is-orsaf yng Nglascoed, ger Llanelwy. 

    Fe gafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Ynni, Greg Clark, y llynedd. 

    Roedd gwrthwynebwyr wedi dadlau y byddai'r peilonau yn effeithio ar ffermio yng nghefn gwlad ac yn galw  i osod y gwifrau o dan y ddaear. 

    Roedd yr adolygiad barnwrol yn canolbwyntio ar yr effaith y byddai'r cynllun yn ei gael ar fferm Berain, Llanefydd, a oedd yn gartref i Catrin o Ferain, un o ddisgynyddion Harri VII.

    peilonau
  11. Athletwyr ifanc i gynrychioli Cymru yn y Bahamas

    Chwaraeon BBC Cymru

    Mae Gemau'r Gymanwlad Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd 39 o athletwyr ifanc yn cynrychioli Tîm Cymru yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn y Bahamas eleni.

    Cafwyd enwebiadau gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol sy'n gyfrifol am bob un o'r chwe champ y bydd Cymru yn cystadlu ynddynt yn y Gemau a gynhelir rhwng 18-23 Gorffennaf – sef athletau, bocsio, jiwdo, nofio, tenis a rygbi merched 7 bob ochr.

    Heddiw, gwnaeth Cadeirydd Bwrdd Gemau'r Gymanwlad Cymru gadarnhau'r tîm o athletwyr sydd wedi cael eu dethol.

    Bydd sgwad o 12 yn teithio i'r Bahamas i chwarae dros Gymru yn y twrnamaint rygbi 7 bob ochr, a bydd enwau'r chwaraewyr yn cael eu cyhoeddi'n fuan.

  12. Ffordd ar gau

    Teithio BBC Cymru

    Rhondda Cynon Taf: Mae Ffordd Caerdydd, Ffynnon Taf, yr A4054 wedi ei chau ar ôl i goeden ddisgyn.

  13. Hwb o £140,000 i brosiect mentora ieithoedd tramor

    Golwg 360

    Mae Golwg360 yn adrodd fod prosiect sydd yn annog pobol i ddysgu ieithoedd tramor wedi derbyn buddsoddiad fydd yn galluogi disgyblion mewn ardaloedd gwledig Cymru i fedru cymryd rhan.

    Mae ‘Prosiect Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern’ yn gosod mentoriaid ieithoedd tramor mewn ysgolion Cymreig gyda’r nod o annog disgyblion i ddewis ieithoedd modern ar gyfer eu hopsiynau TGAU.

    dosbarth
  14. O garfan Cymru i garfan Lloegr - mewn cwta 11 munud

    Mae'r chwaraewr canol cae David Brooks wedi ei enwi yng ngharfan Lloegr ar gyfer Twrnamaint Toulon - funudau'n unig wedi iddo dynnu allan o garfan Cymru ar gyfer yr un gystadleuaeth.

    Roedd Brooks, 19 oed, wedi ei gynnwys yn wreiddiol yng ngarfan Cymru yn ei hymddangosiad cyntaf yn y gystadleuaeth.

    Ond cafodd ei gyflwyniad i garfan Lloegr ei gyhoeddi 11 munud wedi iddo dynnu allan o garfan Cymru.

    Crys
  15. Tollau Hafren: Llafur a'r Ceidwadwyr yn 'addo'r byd'

    BBC Cymru Fyw

    Wrth ymateb i addewid y Ceidwadwyr i ddileu'r tollau ar Bont Hafren, dywedodd Llefarydd ar ran UKIP Cymru, "Mae hwn yn bolisi arall o eiddo UKIP, sydd wedi ei ddwyn gan Theresa May a'r Torïaid. 

    "Mae UKIP wedi arwain y ddadl ar y pwnc hwn dros y flwyddyn ddiwethaf yn y Cynulliad. 

    "Mae'r Torïaid a Llafur yn addo'r byd, ond nid yw'n ymddangos eu bod wedi gweithio allan sut mae talu am hyn i gyd."

    Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Mark Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r tollau ar Bont Hafren yn straen gwirioneddol ar fusnesau lleol ac yn dal economi Cymru'n ôl. 

    "Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymgyrchu'n hir i geisio dileu'r tollau, ac yn awr ychydig wythnosau cyn yr etholiad, mae'n gyfleus i'r Ceidwadwyr allu dweud hyn."

  16. Ceidwadwyr yn addo dileu tollau Hafren

    Ceidwadwyr Cymreig

    Byddai'r Ceidwadwyr yn cael gwared â'r tollau dros Afon Hafren pe bai'r blaid yn ennill yr etholiad cyffredinol, yn ôl Theresa May.

    Mae ei haddewid yn mynd tu hwnt i gynllun presennol y blaid i haneru cost y tollau'r flwyddyn nesaf.

    Ar hyn o bryd mae ceir yn gorfod talu £6.70 i groesi, gyda lorïau trwm a bysiau'n talu £20.

    pont hafren