Tân Llundain: Ymateb Cerys Matthews sy'n byw gerllaw

  • Cyhoeddwyd
Tan LlundainFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr adeilad cyfan ar dân fore Mercher

Mae'r gantores Cerys Matthews wedi disgrifio sut cafodd hi ei deffro gan sŵn hofrennydd a gweld bloc o fflatiau yn wenfflam yn ardal Kensington, Llundain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn oriau mân fore Mercher, ac mae dros 200 o ddiffoddwyr a 40 injan dân wedi bod yn ceisio diffodd y fflamau sydd wedi lledu i 24 llawr tŵr Grenfell yn yr ardal.

Mae Heddlu Llundain wedi cadarnhau bellach fod 12 o bobl wedi marw, ond maen nhw'n rhybuddio bod disgwyl i'r ffigwr godi eto.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Llundain wedi dweud fod 74 o bobl yn cael eu trin mewn ysbytai, gydag 20 mewn cyflwr difrifol.

Dywedodd Ms Matthews ei bod yn byw yng nghysgod yr adeilad.

"Dwi'n edrych arno nawr ac mae'r adeilad yn llwyd a'r mwg yn codi," meddai ar raglen y Post Cyntaf, Radio Cymru.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad,

Cerys Matthews yn disgrifio'r olygfa yn ardal Kensington

Dywedodd fod y fflamau ar bob ochr o'r adeilad wedi bod yn anferth: "O be dwi'n gallu gweld dydy'r dŵr ddim yn gallu cyrraedd pen yr adeilad."

Roedd y rhai oedd yn byw yn yr adeilad, gafodd ei adeiladu yn 1974, wedi cael cyngor meddai i beidio ceisio dianc.

"Mae 125 apartments yna, llawer o hen bobl a teuluoedd ifanc a'r advice oedd i aros yn yr apartment tan bod rhywun yn dod i helpu nhw, i safio nhw.

"Sai'n licio meddwl faint o bobl sydd wedi brifo, teuluoedd ifanc."

Sioc

Dywedodd hefyd fod nifer ar y stryd yn eu pyjamas ac wedi llwyddo i adael y bloc o fflatiau.

"Mae pawb yn absolutely devastated. Mae'r lle ma' yn llawn cymuned...Ni gyd yn shell shocked i fod yn onest."

Mae yna bryder erbyn hyn y bydd yr adeilad yn dymchwel a dyw achos y tân ddim yn glir eto.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Roedd modd gweld y mwg filltiroedd i ffwrdd

Roedd "cannoedd o bobl" yn yr adeilad pan ddechreuodd y tân meddai arweinydd Cyngor Kensington a Chelsea, Nick Paget-Brown.

Dywedodd Comisiynydd Tân Llundain, Dany Cotton, ei bod hi'n amhosib dweud ar hyn o bryd faint o bobl sydd wedi marw oherwydd "maint a chymhlethdod" yr adeilad.

Dywedodd: "Mae hwn yn ddigwyddiad nad ydyn ni wedi gweld ei debyg o'r blaen.

"Yn ystod fy 29 mlynedd fel gweithiwr tân, dwi erioed wedi gweld rhywbeth o'r raddfa yma."

Ffynhonnell y llun, CARL COURT/GETTY IMAGES

'Ymchwiliad trylwyr'

Cafodd £10m ei wario er mwyn adnewyddu'r tŵr gyda'r gwaith hwnnw yn cael ei gwblhau'r llynedd.

Mae'n debyg bod grŵp lleol, Grenfell Action Group, wedi honni cyn ac yn ystod y gwaith adnewyddu, bod yna berygl o dân.

Dywedodd Nick Paget-Brown bod y fflatiau yn cael eu harchwilio yn gyson ond y byddai "ymchwiliad trylwyr" yn cael ei gynnal.