Fe fydd y llif arferol yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.
Yn y cyfamser cewch y newyddion diweddara' o Gymru ac am lywodraeth leiafrifol Theresa May ar yr hafan.
Cofiwch hefyd am ein llif byw arbennig ar gyfer gêm Serbia v Cymru nos Sul.
Noswaith dda!
Edrych ymlaen at nos Sul!
Sgorio, S4C
Fe fydd gêm ddiweddara' Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn Serbia nos Sul. Bydd y gêm yn fyw ar S4C, ac fe fydd llif byw arbennig yma ar BBC Cymru Fyw yn dilyn y cyfan.
Anfonwch eich sylwadau am y gêm at cymrufyw@bbc.co.uk neu @BBCCymruFyw ar Twitter.
Bydd Marc Lloyd Williams yn rhoi ei farn am y gêm yma hefyd.
Mae Theresa May wedi cadarnhau rhai o'r swyddi yn ei chabinet newydd.
Philip Hammond yw'r Canghellor, Amber Rudd yw'r Ysgrifennydd Cartref, Boris Johnson fydd yr Ysgrifennydd Tramor, David Davis fydd Ysgrifennydd Brexit a Sir Michael Fallon yw'r Ysgrifennydd Amddiffyn.
Gwynt a glaw ar eu ffordd
Tywydd, BBC Cymru
"Ar ôl diwrnod sych efo cyfnodau heulog i’r rhan fwyaf,
mi fydd hi’n cymylu o’r de orllewin ddiwedd y p'nawn cyn i law ledu ar draws y
wlad dros nos," meddai Robin Owain Jones.
"Mi wneith hi godi’n wyntog ar hyd arfordir y gorllewin yn
enwedig, lle fydd y gwynt yn hyrddio hyd at 40 milltir yr awr. Y tymheredd
rhwng 12 a 15C ar ei isaf heno."
Yn ôl Cadeirydd y BMA yng Nghymru mae nifer y meddygfeydd sydd mewn perygl yn newid yn gyson ac mae yna bwysau aruthrol ar draws Cymru.
Yn ôl Dr Charlotte James y cynharaf mae meddygfa yn gofyn am gymorth y gorau er mwyn iddynt gael cefnogaeth y byrddau iechyd,
BBCCopyright: BBC
Monk i Middlesbrough
BBC Cymru Fyw
Cyn reolwr Abertawe Garry Monk yw rheolwr newydd Middlesbrough.
Mae'n olynu Aitor Karanka adawodd wedi i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ddiwedd y tymor.
Getty ImagesCopyright: Getty Images
Arestio bachgen 15 oed wedi digwyddiad yn Y Rhyl
BBC Cymru Fyw
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio yn Llandudno wedi i staff a disgyblion yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl orfod aros yn yr adeilad am gyfnodwrth i'r heddlu ymdrin â digwyddiad.
Yn ôl yr heddlu, roedden nhw'n ymateb i fygythiad tuag at ddisgybl yno.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd y Rhyl y prynhawn yma, penderfynwyd cau'r ysgol tra bo'r heddlu yn gwneud ymholiadau i fygythiad a wnaed tuag at ddisgybl gan berson ifanc arall nad ydynt yn gysylltiedig â'r ysgol.
"Aseswyd y sefyllfa gan yr Heddlu ac ail-agorwyd yr ysgol yn fuan wedyn.
"Mae'r digwyddiad bellach drosodd ac nid oedd unrhyw ddisgyblion neu staff mewn perygl."
Apêl wedi llofruddiaeth yn Sir y Fflint
Heddlu Gogledd Cymru
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Matthew Cassidy 19 oed yng Nghei Connah ar 29 Mai wedi rhyddhau lluniau o bedwar tyst posib maen nhw'n awyddus i'w holi.
"Rwy'n awyddus i'r bobl hyn gysylltu â ni oherwydd mae'n bosib fod ganddynt wybodaeth bwysig a all ein helpu," meddai'r ditectif uwcharolygydd Iestyn Davies
Cafodd y pedwar eu gweld yn agos i leoliad y digwyddiad.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio un dyn, David John Woods, 19 oed o Lerpwl ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Cafodd dau ddyn arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth eu rhyddhau.
Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu 0800 555 111.
Heddlu Gogledd CymruCopyright: Heddlu Gogledd Cymru
Prynu canolfan siopa yng Nghasnewydd
Cyngor Casnewydd
Mae canolfan Siop Friars Walk yng Nghasnewydd wedi ei werthu i gwmni Talisker o Ganada.
Dywed Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd, y bydd y cytundeb yn sicrhau y gallai'r cyngor nawr ad-dalu arian gafodd ei fenthyg er mwyn ariannu'r cynllun yn y lle cyntaf.
Mae The Leader yn dweud fod Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, yn paratoi i dreulio diwrnod ar y stryd er mwyn dangos ei gefnogaeth i bobl ddigartref Wrecsam.
Blwyddyn ers Bordeaux
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Ydych chi'n cofio perlau Wali Tomos, y criw o Flaenau Ffestiniog oedd yn sownd heb eu fan yn Rouen a'r lluniau o'r môr coch oedd yn llenwi'r cyfryngau cymdeithasol?
Mae'r garfan Annibynnol wedi ennill rheolaeth o Gyngor Merthyr yn dilyn etholiad yn ward Cyfarthfa.
Bu'n rhaid gohirio'r etholiad gwreiddiol yn y ward, sy'n cynnwys tair sedd, ym mis Mai oherwydd marwolaeth ymgeisydd.
Nos Iau fe gafodd yr ymgeiswyr annibynnol Geraint Thomas a Paul Brown eu hethol ynghyd a David Chaplin (Llafur), gan olygu fod gan y grŵp Annibynnol 18 o seddi a Llafur 15.
Llafur oedd yn rheoli'r cyngor cyn etholiad 5 Mai.
Paratoi ar gyfer Eisteddfod 2018
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol y byddant yn ceisio dysgu gwersi o weithgareddau a digwyddiadau diweddar yng Nghaerdydd wnaeth groesawu degau o filoedd o bobl i'r brifddinas.
Bydd Eisteddfod 2018 yn cael ei chynnal yn y brifddinas a dywed Elfed Roberts, Trefnydd yr Ŵyl, eu bod yn " astudio gweithgareddau a digwyddiadau fel hyn yn ofalus er mwyn i ni gael sicrhau llwyddiant tebyg o ran ein trefniadau ni ymhen y flwyddyn."
Wythnos diwethaf fe wnaeth Caerdydd groesawu degau o filoedd o gefnogwyr pêl-droed ar gyfer ffeinal Cwpan Cynghrair y Pencampwyr rhwng Juventus a Real Madrid.
Cred yr heddlu fod y dyn sydd wedi bod ar goll ar ôl mynd i drafferthion oddi ar Penrhyn Dewi yn Sir Benfro yn wreiddiol o dde Ffrainc.
Bu'r heddlu a'r gwasanaethau brys yn chwilio am y dyn ar ôl adroddiadau bod rhywun wedi bod yn dringo creigiau yn yr ardal ar 6 Mai.
Dywed Heddlu Dyfed- Powys eu bod yn credu mai'r dyn dan sylw yw Bernard Hoepffner sy'n wreiddiol o Dieuleifit yn ne Ffrainc.
Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun ohono ac yn apelio am unrhyw wybodaeth.
Llun teuluCopyright: Llun teulu
Anfon bachgen 16 oed i ganolfan gadw
BBC Cymru Fyw
Mae bachgen 16 oed o ardal y Rhyl wedi ei anfon i ganolfan gadw am 32 mis ar ôl iddo ymosod ar ddyn anabl yn ei 40au.
Clwydodd y llys ei fod wedi ymosod ar y dyn oedd yn dioddef o ddystroffi cyhyrol gan wthio ei ben drwy ffenest gwydr dwbl.
Dywedodd y barnwr pe bai'r bachgen yn oedolyn byddai wedi cael ei garcharu am o leiaf chwe blynedd.
'Sicrwydd'...tybed?
Etholiad Cyffredinol 2017
Mae'r Athro Roger Scully o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi rhoi ei farn am araith Theresa May yn Downing Street.
Y diweddaraf yn fyw
Mae pob amser yn lleol i'r DU
Cyfrannu
Hwyl am y tro
BBC Cymru Fyw
Dyna'r cyfan gan griw y llif byw etholiadol wedi canlyniadau anniswyl yr etholiad cyffredinol.
Fe fydd y llif arferol yn dychwelyd am 08:00 fore Llun.
Yn y cyfamser cewch y newyddion diweddara' o Gymru ac am lywodraeth leiafrifol Theresa May ar yr hafan.
Cofiwch hefyd am ein llif byw arbennig ar gyfer gêm Serbia v Cymru nos Sul.
Noswaith dda!
Edrych ymlaen at nos Sul!
Sgorio, S4C
Fe fydd gêm ddiweddara' Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn Serbia nos Sul. Bydd y gêm yn fyw ar S4C, ac fe fydd llif byw arbennig yma ar BBC Cymru Fyw yn dilyn y cyfan.
Anfonwch eich sylwadau am y gêm at cymrufyw@bbc.co.uk neu @BBCCymruFyw ar Twitter.
Bydd Marc Lloyd Williams yn rhoi ei farn am y gêm yma hefyd.
Plaid Cymru: Canlyniad 'ddim yn rhy ddrwg'
ITV Cymru
May yn penodi aelodau cabinet
Etholiad Cyffredinol 2017
Mae Theresa May wedi cadarnhau rhai o'r swyddi yn ei chabinet newydd. Philip Hammond yw'r Canghellor, Amber Rudd yw'r Ysgrifennydd Cartref, Boris Johnson fydd yr Ysgrifennydd Tramor, David Davis fydd Ysgrifennydd Brexit a Sir Michael Fallon yw'r Ysgrifennydd Amddiffyn.
Gwynt a glaw ar eu ffordd
Tywydd, BBC Cymru
"Ar ôl diwrnod sych efo cyfnodau heulog i’r rhan fwyaf, mi fydd hi’n cymylu o’r de orllewin ddiwedd y p'nawn cyn i law ledu ar draws y wlad dros nos," meddai Robin Owain Jones.
"Mi wneith hi godi’n wyntog ar hyd arfordir y gorllewin yn enwedig, lle fydd y gwynt yn hyrddio hyd at 40 milltir yr awr. Y tymheredd rhwng 12 a 15C ar ei isaf heno."
Ewch i'r wefan dywydd am ragolygon pellach.
Angen i feddygfeydd ofyn am gymorth
BBC Cymru Fyw
Yn ôl Cadeirydd y BMA yng Nghymru mae nifer y meddygfeydd sydd mewn perygl yn newid yn gyson ac mae yna bwysau aruthrol ar draws Cymru.
Yn ôl Dr Charlotte James y cynharaf mae meddygfa yn gofyn am gymorth y gorau er mwyn iddynt gael cefnogaeth y byrddau iechyd,
Monk i Middlesbrough
BBC Cymru Fyw
Cyn reolwr Abertawe Garry Monk yw rheolwr newydd Middlesbrough. Mae'n olynu Aitor Karanka adawodd wedi i'r clwb ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ddiwedd y tymor.
Arestio bachgen 15 oed wedi digwyddiad yn Y Rhyl
BBC Cymru Fyw
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio yn Llandudno wedi i staff a disgyblion yn Ysgol Uwchradd Y Rhyl orfod aros yn yr adeilad am gyfnodwrth i'r heddlu ymdrin â digwyddiad.
Yn ôl yr heddlu, roedden nhw'n ymateb i fygythiad tuag at ddisgybl yno.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Yn dilyn digwyddiad yn Ysgol Uwchradd y Rhyl y prynhawn yma, penderfynwyd cau'r ysgol tra bo'r heddlu yn gwneud ymholiadau i fygythiad a wnaed tuag at ddisgybl gan berson ifanc arall nad ydynt yn gysylltiedig â'r ysgol.
"Aseswyd y sefyllfa gan yr Heddlu ac ail-agorwyd yr ysgol yn fuan wedyn.
"Mae'r digwyddiad bellach drosodd ac nid oedd unrhyw ddisgyblion neu staff mewn perygl."
Apêl wedi llofruddiaeth yn Sir y Fflint
Heddlu Gogledd Cymru
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i lofruddiaeth Matthew Cassidy 19 oed yng Nghei Connah ar 29 Mai wedi rhyddhau lluniau o bedwar tyst posib maen nhw'n awyddus i'w holi.
"Rwy'n awyddus i'r bobl hyn gysylltu â ni oherwydd mae'n bosib fod ganddynt wybodaeth bwysig a all ein helpu," meddai'r ditectif uwcharolygydd Iestyn Davies
Cafodd y pedwar eu gweld yn agos i leoliad y digwyddiad.
Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio un dyn, David John Woods, 19 oed o Lerpwl ar gyhuddiad o lofruddiaeth.
Cafodd dau ddyn arall gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth eu rhyddhau. Dylai unrhyw un a gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu 0800 555 111.
Prynu canolfan siopa yng Nghasnewydd
Cyngor Casnewydd
Mae canolfan Siop Friars Walk yng Nghasnewydd wedi ei werthu i gwmni Talisker o Ganada.
Dywed Debbie Wilcox, arweinydd Cyngor Casnewydd, y bydd y cytundeb yn sicrhau y gallai'r cyngor nawr ad-dalu arian gafodd ei fenthyg er mwyn ariannu'r cynllun yn y lle cyntaf.
Heddlu'n delio gyda digwyddiad yn Y Rhyl
Heddlu Gogledd Cymru
Comisiynydd Heddlu i dreulio diwrnod 'ar y stryd'
The Leader
Mae The Leader yn dweud fod Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, yn paratoi i dreulio diwrnod ar y stryd er mwyn dangos ei gefnogaeth i bobl ddigartref Wrecsam.
Blwyddyn ers Bordeaux
Cylchgrawn, Cymru Fyw
Ydych chi'n cofio perlau Wali Tomos, y criw o Flaenau Ffestiniog oedd yn sownd heb eu fan yn Rouen a'r lluniau o'r môr coch oedd yn llenwi'r cyfryngau cymdeithasol?
Mae BBC Cymru Fyw yn dathlu blwyddyn ers Bordeaux a dechrau antur ryfeddol Cymru yn Euro 2016.
Carfan Annibynnol yn rheoli ym Merthyr
Cyngor Merthyr Tudful
Mae'r garfan Annibynnol wedi ennill rheolaeth o Gyngor Merthyr yn dilyn etholiad yn ward Cyfarthfa.
Bu'n rhaid gohirio'r etholiad gwreiddiol yn y ward, sy'n cynnwys tair sedd, ym mis Mai oherwydd marwolaeth ymgeisydd.
Nos Iau fe gafodd yr ymgeiswyr annibynnol Geraint Thomas a Paul Brown eu hethol ynghyd a David Chaplin (Llafur), gan olygu fod gan y grŵp Annibynnol 18 o seddi a Llafur 15.
Llafur oedd yn rheoli'r cyngor cyn etholiad 5 Mai.
Paratoi ar gyfer Eisteddfod 2018
Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol y byddant yn ceisio dysgu gwersi o weithgareddau a digwyddiadau diweddar yng Nghaerdydd wnaeth groesawu degau o filoedd o bobl i'r brifddinas.
Bydd Eisteddfod 2018 yn cael ei chynnal yn y brifddinas a dywed Elfed Roberts, Trefnydd yr Ŵyl, eu bod yn " astudio gweithgareddau a digwyddiadau fel hyn yn ofalus er mwyn i ni gael sicrhau llwyddiant tebyg o ran ein trefniadau ni ymhen y flwyddyn."
Wythnos diwethaf fe wnaeth Caerdydd groesawu degau o filoedd o gefnogwyr pêl-droed ar gyfer ffeinal Cwpan Cynghrair y Pencampwyr rhwng Juventus a Real Madrid.
Pa Balas?
Twitter
Cymru yn eu cit llwyd
Wales Online
Dywed Wales Online y bydd Cymru'n gwisgo eu cit llwyd oddi cartref yn Serbia ddydd Sul, lliw sydd heb fod yn lwcus iddyn nhw yn y gorffennol.
Cyhoeddi llun o ddyn ar goll
Heddlu Dyfed Powys
Cred yr heddlu fod y dyn sydd wedi bod ar goll ar ôl mynd i drafferthion oddi ar Penrhyn Dewi yn Sir Benfro yn wreiddiol o dde Ffrainc.
Bu'r heddlu a'r gwasanaethau brys yn chwilio am y dyn ar ôl adroddiadau bod rhywun wedi bod yn dringo creigiau yn yr ardal ar 6 Mai.
Dywed Heddlu Dyfed- Powys eu bod yn credu mai'r dyn dan sylw yw Bernard Hoepffner sy'n wreiddiol o Dieuleifit yn ne Ffrainc. Mae'r heddlu wedi rhyddhau llun ohono ac yn apelio am unrhyw wybodaeth.