Dim mwyafrif i'r Ceidwadwyr wrth i Lafur ennill tir

  • Cyhoeddwyd
LlafurFfynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Yr AS newydd Anna McMorrin yn cael ei llongyfarch ar ôl cipio Gogledd Caerdydd

Mae'r blaid Lafur yng Nghymru wedi cael noson etholiadol lwyddiannus gan gipio tair sedd oddi wrth y Ceidwadwyr.

Gŵyr, Dyffryn Clwyd a Gogledd Caerdydd oedd yr etholaethau hynny, gyda phob un o bedair sedd y brifddinas yn bellach yn goch.

Roedd yna ddarogan y byddai'r blaid yn colli seddi yn y gogledd ddwyrain, ond dyw hynny ddim wedi digwydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, fod arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi rhedeg ymgyrch "gampus" a hynny mewn awyrgylch "anwadal".

Mae'r canlyniadau ar draws y Deyrnas Unedig yn golygu mai senedd grog fydd y senedd nesaf, a'r Ceidwadwyr fydd y blaid fwyaf.

Yn dilyn ymweliad â Phalas Buckingham ddydd Gwener cyhoeddodd y prif weinidog Theresa May y byddai'n ceisio ffurfio llywodraeth leiafrifol, gyda chefnogaeth y DUP o Ogledd Iwerddon.

Disgrifiad,

Mi oedd Corbyn wedi "ysbrydoli pobl ifanc" meddai Carwyn Jones

Hyd yn hyn mae'r ffigyrau yn awgrymu bod tua 68.7% o etholwyr wedi pleidleisio, gyda chynnydd yng Nghymru ac ar draws y DU.

Yng Ngheredigion fe gipiodd Plaid Cymru unig sedd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru o drwch blewyn. Ben Lake fydd Aelod Seneddol ieuengaf Cymru a Plaid Cymru erioed, yn 24 oed.

Dyw'r Ceidwadwyr yng Nghymru ddim wedi llwyddo i gipio unrhyw seddi ychwanegol ond maent wedi dal gafael ar Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Sir Fynwy, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro a Bro Morgannwg gyda llai o fwyafrif.

Maent hefyd wedi cadw Maldwyn, a Brycheiniog a Sir Faesyfed gyda chynnydd yn eu mwyafrif.

Disgrifiad,

Ben Lake yn esbonio'r rhesymau pam fod Plaid Cymru wedi cipio'r sedd

Yn Arfon roedd hi'n agos rhwng Plaid Cymru a Llafur gyda'r AS presennol, Hywel Williams, yn cael ei ail ethol ond gyda mwyafrif llawer yn llai sef 92 pleidlais.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi cadw Dwyfor Meirionnydd, a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond lwyddon nhw ddim i gipio Ynys Môn.

Albert Owen sydd wedi cadw ei sedd yno, gyda'r Ceidwadwr ifanc Tomos Dafydd yn yr ail safle.

Ymgeisydd Plaid Cymru oedd cyn arweinydd y blaid, Ieuan Wyn Jones.

'Angen sefydlogrwydd'

Yn dilyn y canlyniadau mynnodd Mrs May na fydd hi'n ymddiswyddo, er bod ei phlaid wedi colli'r mwyafrif oedd ganddyn nhw yn San Steffan cyn yr etholiad.

Gyda 649 o'r 650 sedd ar draws y DU wedi eu cyhoeddi, mae'r Ceidwadwyr wedi ennill 318, naw yn brin o fwyafrif.

"Ar yr adeg hon fwy nag unrhyw bryd, mae angen cyfnod o sefydlogrwydd ar y wlad," meddai yn dilyn y canlyniad yn ei hetholaeth hi ym Maidenhead.

Dywedodd Jeremy Corbyn ei fod yn "barod i wasanaethu", a hynny wedi i Lafur ennill 261 o seddi.

Ychwanegodd ei bod hi'n bryd i Mrs May "symud o'r neilltu" ar gyfer llywodraeth fyddai "wir yn cynrychioli pobl y wlad".

Disgrifiad,

Y Ceidwadwyr wedi gwneud 'camgymeriadau difrifol' yn ôl Guto Bebb

Gwelwyd cwymp o 12% yng nghyfran UKIP o'r bleidlais gydag arweinydd y grŵp yn y Cynulliad, Neil Hamilton, yn colli ei flaendal yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

68.5% o bobl wnaeth bleidleisio yng Nghymru, cynnydd o 3% o'i gymharu gyda 2015.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fod Jeremy Corbyn wedi "gwrando ar bobl".

"Mae e wedi siarad gydag aelodau o'r cyhoedd. Wnaeth e ddim siarad mewn cyfarfodydd oedd yn llawn o bobl yn union fel fe," meddai.

"Mi wnaeth e gymryd rhan yn y dadleuon arweinwyr, gwrando ar y bobl a dyna oedd y gwahaniaeth yn yr ymgyrch."

Mae gweinidog yn Swyddfa Cymru, Guto Bebb wedi dweud fod y canlyniad wedi bod yn "siomedig" i'r blaid Geidwadol yng Nghymru ond ei bod hi'n rhy gynnar i siarad am gamgymeriadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Jeremy Corbyn "wrando ar bobl" yn ystod yr ymgyrch meddai Carwyn Jones

"Dw i'n meddwl bod rhywbeth reit ddiddorol a chymhleth wedi digwydd.

"Do fe wnaeth ymgyrch y blaid Geidwadol rhai camgymeriadau.

"Ond dw i'n meddwl bod rhywbeth mwy sylfaenol wedi digwydd ac mae hi yn rhy gynnar siarad ynglŷn â beth yn union wnaeth arwain at y canlyniadau rydyn ni wedi gweld heno."

'Noson ryfedd'

Er i Blaid Cymru weld eu pleidlais yn gostwng mewn sawl rhan o Gymru, dywedodd eu harweinydd Leanne Wood ei bod "wrth ei bodd" wedi iddyn nhw lwyddo i ychwanegu Ceredigion at nifer eu seddi.

"Roedd hi'n noson od, ac ar noson pan gafodd gwleidyddiaeth ei rannu rhwng y ddwy brif blaid, rydyn ni'n falch o weld Plaid Cymru'n ennill sedd, a'r nifer uchaf o ASau rydyn ni wedi ei gael," meddai wrth Good Morning Wales.

Ychwanegodd y byddai'n rhaid adlewyrchu hefyd ar y seddi ble na lwyddodd y blaid i ennill tir: "Dwi ddim yn meddwl fod unrhyw un wedi darogan y canlyniad yma neithiwr."

Dywedodd Neil Hamilton o UKIP fod ei blaid yntau wedi eu "gwasgu".

Mae arweinydd UKIP ar draws y DU, Paul Nuttall wedi cyhoeddi y bydd yn camu o'r neilltu wedi i'r blaid fethu ag ennill unrhyw seddi.

Disgrifiad o’r llun,

Mark Williams oedd yr unig AS oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, nes iddo golli ei sedd dros nos

Mae'r Farwnes Jenny Randerson wedi dweud bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi dioddef ar lefel Prydeinig.

"Dydych chi ddim yn cael cymaint o amser ar y cyfryngau ac felly mae'n llawer mwy anodd i bleidio eich achos. Mae wedi bod yn etholiad caled," meddai.

Ychwanegodd cadeirydd pwyllgor gweithredol cenedlaethol y blaid, Carole O'Toole, fod colli eu hunig sedd yn Nghymru yn "ddiwrnod trist i ryddfrydiaeth yng Nghymru".

Mae disgwyl i'r blaid ddewis arweinydd newydd yn y misoedd nesaf wedi i'r arweinydd presennol, Mark Williams, golli ei sedd yng Ngheredigion.