Etholiad 2017: Pedair sedd yn newid dwylo yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Arwyn Jones yn bwrw golwg ar ddarlun Cymru wedi'r canlyniadau

Mae Llafur wedi llwyddo i ennill tair sedd oddi ar y Ceidwadwyr, ar noson dda i'r blaid yng Nghymru, dolen allanol ac ar draws y DU.

Llwyddodd y blaid i adennill Gŵyr a Dyffryn Clwyd, dwy sedd a gollon nhw yn 2015, yn ogystal â Gogledd Caerdydd, oedd yn sedd gafodd ei chipio gan y Ceidwadwyr.

Yng Ngheredigion, ble roedd Mark Williams wedi bod yn AS ers 2005, fe gollodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu hunig sedd yng Nghymru.

Yr enillydd oedd Ben Lake o Blaid Cymru, gan ddod yn Aelod Seneddol ieuengaf Cymru yn ddim ond 24 oed.

'Bwrlwm ifanc'

Cafwyd noson hwyr i swyddogion yn Aberaeron, wrth i'r papurau pleidleisio gael eu hailgyfrif ddwywaith cyn y cadarnhad fod Mr Lake wedi ennill y sedd.

Llwyddodd i gipio'r etholaeth o 104 pleidlais yn unig, wrth i'r Democratiaid Rhyddfrydol lithro nôl yn sgil tŵf yn y bleidlais Lafur a Cheidwadol.

Dywedodd Mr Lake fod Plaid Cymru wedi denu cefnogaeth "lot o bobl ifanc, newydd" yn y sir, a bod hynny wedi creu "bwrlwm" o gwmpas yr ymgyrch.

"Roedd hynny'n rhan o'r rheswm lwyddon ni i gynnal ein pleidlais, yn wir ei gynyddu rywfaint, ac wedyn roedd elfennau tu hwnt i'n rheolaeth ni yn y ffordd wnaeth y bleidlais rannu rhwng y pleidiau eraill," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Ben Lake yn dathlu gydag arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood ar ôl cipio sedd Ceredigion

Gŵyr oedd y sedd fwyaf ymylol ym Mhrydain cyn yr etholiad, gyda'r Ceidwadwr Byron Davies yn amddiffyn mwyafrif o ddim ond 27.

Ond llwyddodd Tonia Antoniazzi i gipio buddugoliaeth i'r blaid Lafur gyda bron i 50% o'r bleidlais, a mwyafrif o 3,269.

Roedd hi'n un o ddwy AS benywaidd newydd gafodd eu hethol yng Nghymru, gydag Anna McMorrin hefyd yn llwyddo i adennill Gogledd Caerdydd dros y blaid.

Dywedodd Craig Williams, y Ceidwadwr welodd ei fwyafrif o 2,137 yno'n troi yn fantais o 4,174 i Lafur, na ddylai'r blaid "ruthro i gasgliadau" ynglŷn â pham collwyd y sedd.

Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Tonia Antoniazzi i wyrdroi'r mwyafrif bychan oedd gan y Ceidwadwyr yn etholaeth Gŵyr

Daeth trydedd fuddugoliaeth Llafur o'r noson yn Nyffryn Clwyd, ble llwyddodd Chris Ruane i adennill y sedd ar ôl ei cholli i James Davies ddwy flynedd yn ôl.

Llwyddodd i gipio dros hanner y bleidlais, gan sicrhau mwyafrif o 2,379 a gwyrdroi'r fantais o 237 oedd gan y Ceidwadwyr gynt.

Fe wnaeth Llafur hefyd ddal eu gafael ar eu seddi eraill yn y gogledd ddwyrain, er gwaethaf darogan y gallai'r Ceidwadwyr eu cipio.

Roedd Llafur hefyd o fewn ychydig gannoedd o bleidleisiau i'r Ceidwadwyr yn Aberconwy, a Phreseli Penfro - ac fe ddaethon nhw o fewn 92 pleidlais i drechu Plaid Cymru yn Arfon.